Yng Nghaerdydd Creadigol, rydym yn cynnal cyfleoedd rheolaidd i bobl greadigol ddod at ei gilydd i gysylltu a chydweithio drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, paneli a digwyddiadau cymdeithasol. Ers 2022, rydym hefyd wedi cynnal amrywiaeth o weithdai ‘Ystafell Ddosbarth Caerdydd Greadigol’, o rwydweithio i siarad cyhoeddus i wneud torch Nadolig i ysgrifennu.
Mae'r gweithdai hyn yn rhoi cyfle i bobl greadigol blymio'n ddwfn i bynciau penodol gyda grŵp o unigolion o'r un anian.Gan redeg ochr yn ochr â’n digwyddiadau Ystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol, mae’n bleser gennym lansio menter beilot newydd AMDANI, gan ddod ag artistiaid, gweithwyr llawrydd a busnesau ynghyd i fod yn greadigol a rhwydweithio mewn amgylchedd anffurfiol, wedi’i hwyluso gan berson creadigol sy'n dod i'r amlwg.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd ein cyfres AMDANI gyntaf yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth a'r MA mewn Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd.
Yn cael ei gynnal yn fisol o fis Chwefror 2025, bydd Caerdydd Creadigol yn cynnal Grŵp Ysgrifennu agored, rhad ac am ddim i bobl greadigol yn Tramshed Tech, Caerdydd. Bydd pob Grŵp Ysgrifennu misol yn cael ei hwyluso gan fyfyriwr sy’n astudio ar gyfer ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol a bydd yn canolbwyntio ar bwnc, thema neu genre gwahanol.
Thema mis Medi: Tu Mewn II — Y Byd Ynom Ni
Mae Tu Mewn yn gyfres ddwy ran o weithdai ar y bydoedd rydyn ni'n eu cario y tu mewn i ni – a sut i'w hysgrifennu. Gan symud o'r byd synhwyraidd i'r myfyriol, mae'r sesiynau'n edrych ar ganfyddiad, a daearyddiaeth ein meddwl, gan roi ffyrdd newydd i feirdd ac awduron rhyddiaith ymdrin â disgrifiad, awyrgylch, a llais – yn ogystal â datblygu gwell dealltwriaeth o'n bywyd mewnol.
Nid ein meddyliau ni ein hunain yw ein meddyliau. Ynom ni mae cyngor – lleisiau sy’n cynghori, yn beirniadu, yn tawelu ein meddyliau, yn cwestiynu. Mae rhai’n perthyn i’r byw, rhai i’r gorffennol, a rhai rydym wedi’u llunio ein hunain. Pwy ydym ni’n ei olygu pan ddywedwn ‘fi’? Yn y gweithdy hwn, rydym yn troi at ein lleferydd mewnol, tarddiad ein lleisiau mewnol, a’r ffyrdd maen nhw’n ein llunio ni. Byddwn yn archwilio sut mae meddwl yn cael ei aflonyddu gan gof a dylanwad, a sut i dynnu ar y cytgan hwnnw i greu cymeriadau ac adroddwyr â dyfnder, gwrthddywediad a hanes. Drwy wrando’n ofalus, byddwn yn deall pwy sy’n siarad â ni a pha neges maen nhw’n ei chario.
Mae Damian Healy yn awdur arbrofol sy’n canolbwyntio ar ganfyddiad, cof a thu mewn. Ar hyn o bryd mae’n astudio am MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.