Aelodau Anweithredol o Fwrdd Masnachol S4C
Mae S4C yn dymuno penodi dau Aelod Bwrdd Anweithredol i'w Fwrdd Masnachol.
Mae S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus sydd â rôl unigryw i gomisiynu, creu a dosbarthu cynnwys Cymraeg ar draws ystod o blatfformau, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.
Mae S4C yn gorff cyhoeddus sy'n atebol i'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ac mae’n derbyn ei chyllid o ffi'r drwydded. Mae'n ategu'r cyllid hwn gydag incwm ychwanegol a gynhyrchir gan weithgareddau masnachol.
Cynhelir y gweithgareddau masnachol hyn trwy is-gwmnïau o dan berchnogaeth lwyr S4C, sy'n cael eu rheoli a'u goruchwylio gan fwrdd masnachol. Mae S4C nawr yn awyddus i benodi dau gyfarwyddwr anweithredol i'r bwrdd masnachol.
Grŵp masnachol
Mae pum cwmni yng ngrŵp masnachol S4C ar hyn o bryd:
S4C Masnachol Cyf
S4C Rhyngwladol Cyf
S4C2 Cyf
S4C Digital Media Limited
S4C PTG Cyf
Ceir rhagor o fanylion yn yr Atodiad.
Mae aelodau'r bwrdd cyfarwyddwyr yr un fath ar gyfer pob cwmni. Byddai'r penodiad hwn felly yn gyfarwyddwr anweithredol ar bob un o’r pum cwmni.
Mae bwrdd pob cwmni yn cynnwys cyfarwyddwyr gweithredol, cyfarwyddwyr anweithredol allanol a chyfarwyddwyr anweithredol o brif Fwrdd S4C, a'r cadeirydd yw Prif Weithredwr S4C.
Gweithgareddau masnachol
Mae gweithgareddau masnachol S4C yn cyfrannu tua £1m y flwyddyn ar gyfartaledd i S4C, sy'n cael ei ail-fuddsoddi yn ei gwasanaethau cyhoeddus. Mae asedau net y grŵp masnachol yn werth tua £20m, ac wedi’u cynhyrchu gan fuddsoddiadau masnachol y gorffennol.
Yn 2022, mabwysiadodd S4C strategaeth fasnachol newydd, a oedd wedi’i llunio gyda diben clir: darparu gwerth ariannol a strategol i S4C, i’w chynulleidfa ac i Gymru.
Bwriad y strategaeth yw sicrhau mwy o enillion ariannol; gwella gwerth ar y sgrin ac enw da creadigol S4C; meithrin perthnasoedd uniongyrchol cryfach â chynulleidfa S4C; a chefnogi twf economaidd a datblygiad sgiliau yng Nghymru.
Mae'r strategaeth yn nodi 6 maes gweithgarwch masnachol:
- Cydgynhyrchu - lle mae S4C yn cynyddu maint a gwerth cynnwys sy’n cael ei gydgynhyrchu;
- Cynnwys Eiddo Deallusol – lle mae S4C yn cynyddu'r gwerth y mae'n ei gynhyrchu o gynnwys ac eiddo deallusol;
- Buddsoddi yn nhwf busnes – cynyddu buddion strategol ac ariannol o ganlyniad i fuddsoddi mewn twf drwy sefydlu cronfa fuddsoddi i gymryd cyfranddaliadau mewn busnesau sy'n agos at bwrpas S4C, ac sydd â photensial i dyfu;
- Hysbysebu a Nawdd – datblygu cyfleoedd cyffrous a pharhaol ar draws platfformau S4C i gynyddu incwm o hysbysebu a nawdd;
- Brandiau – mabwysiadu dull gweithredu ar draws y sefydliad o ran adeiladu brand defnyddwyr, i greu gwerth o ran cyllid ac i’r gynulleidfa o frandiau S4C y presennol a’r dyfodol; a
- Digidol – creu sylfaen ar gyfer strategaeth ddigidol fasnachol, gan gynnwys buddsoddi mewn cynnyrch ac adnoddau sy'n cefnogi strategaeth ddigidol S4C ac sydd â defnydd masnachol ychwanegol.
Mae'r gweithgareddau hyn yn cyd-fynd yn agos ag amcanion craidd S4C ac yn cefnogi ei Strategaeth gyffredinol ar gyfer 2022–27. Mae'r strategaeth fasnachol yn bwriadu cynyddu'r cyfraniad ariannol blynyddol o weithgareddau masnachol S4C i gronfa gwasanaethau cyhoeddus S4C, a chynyddu gwerth y gronfa fasnachol dros amser i gefnogi ail-fuddsoddi yn y dyfodol.
Yn unol â'r strategaeth, lansiwyd dwy gronfa fasnachol yn 2023:
- Y Gronfa Cynnwys Masnachol: https://www.s4c.cymru/cy/masnachol/page/57609/s4c-rhyngwladol-y-gronfa-cynnwys-masnachol/
- Y Gronfa Twf Masnachol: https://www.s4c.cymru/cy/masnachol/page/57724/s4c-cyfryngau-digidol-y-gronfa-twf-masnachol/
Mae gweithgareddau'r bwrdd masnachol yn cynnwys:
- Monitro buddsoddiadau masnachol presennol
- Craffu ar gynigion buddsoddi newydd
- Goruchwylio perfformiad gweithgareddau hysbysebu a nawdd gan asiantaeth werthu S4C
- Goruchwylio perfformiad cronfa fuddsoddi a reolir yn allanol.
Rolau Aelodau o'r Bwrdd Masnachol:
Swydd Un - Aelod Anweithredol o'r Bwrdd gydag Arbenigedd ym maes Hysbysebu
- Darparu cyfeiriad strategol i gefnogi'r Bwrdd Masnachol i gyflawni ei nod o ddatblygu cyfleoedd ar draws platfformau S4C i gynyddu incwm o hysbysebu a nawdd.
- Craffu ar berfformiad asiantaeth gwerthu hysbysebion S4C
- Profiad eang yn y diwydiant gwerthu hysbysebion, yn enwedig yn y sector teledu a/neu ddigidol.
Swydd Dau - Cyfarwyddwr Anweithredol gyda Phrofiad Masnachol yn y Sector Cynhyrchu
- Darparu cyfeiriad strategol i gefnogi'r Bwrdd Masnachol yn ei weithgareddau buddsoddi, yn enwedig mewn perthynas â moneteiddio cynnwys ac eiddo deallusol.
- Arddangos profiad a gwybodaeth fasnachol sylweddol o'r diwydiannau creadigol a marchnadoedd cynnwys rhyngwladol.
Yn ogystal â'r profiad uchod:
- Darparu arweinyddiaeth strategol effeithlon ac effeithiol, drwy fwrdd masnachol grŵp o gwmnïau masnachol S4C.
- Cynnal a gweithio tuag at weledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd, ymddygiadau ac amcanion S4C Masnachol a sicrhau bod y sefydliad yn parhau i weithio tuag atynt.
- Ysgogi rhwydweithiau i gefnogi datblygiad sefydliadol a busnes.
- Gweithredu er budd S4C Masnachol bob amser mewn perthynas ag asedau, eiddo, rhwymedigaethau statudol a gofynion rheoli.
- Sicrhau bod S4C Masnachol yn cyflawni'r strategaeth y cytunwyd arni o fewn gofynion cyfreithiol a llywodraethu perthnasol.
- Hyrwyddo rheolaeth ddarbodus ac effeithiol o adnoddau sefydliadol (ariannol a dynol).
- Sicrhau bod strategaethau a pholisïau ar waith a fydd yn cefnogi amcanion S4C Masnachol.
- Datblygu a monitro strategaethau rheoli risg effeithiol.
- Datblygu a monitro rheolaethau a systemau mewnol sy'n dryloyw ac yn atebol i randdeiliaid.
- Creu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol a chynhyrchiol gyda rhanddeiliaid.
Manyleb y Person
- Tystiolaeth o lwyddiant, o fewn neu y tu allan i'r diwydiannau creadigol, o ran buddsoddi mewn busnesau neu yn y sector gwerthu hysbysebion.
- Tystiolaeth o'r gallu i weithredu gyda phroffesiynoldeb a chefnogi tegwch, cynhwysiant ac amrywiaeth.
- Tystiolaeth o arwain mewn amgylchedd o newid.
- Profiad ar fyrddau eraill neu fel rheolwr lle'r oedd cynllunio strategol yn rhan o'r rôl.
- Hygrededd a gwybodaeth am y sector busnes/creadigol yng Nghymru.
- Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bartneriaethau creadigol a'u potensial.
- Cymwysterau perthnasol a phrofiad sy'n benodol i'r disgwyliadau a amlinellir yn y disgrifiadau rôl penodol a nodir uchod.
- Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.
Manylion eraill
- Cynhelir cyfarfodydd bwrdd masnachol tua 5 gwaith y flwyddyn a gellir eu cynnal yn rhithiol neu yn y cnawd. Os bydd angen, gwneir penderfyniadau gan y bwrdd rhwng y cyfarfodydd a drefnwyd, gan eu gwneud yn rhithiol.
- Mae ffioedd yn daladwy ar gyfradd i'w thrafod.
- Mae treuliau yn daladwy yn unol â Pholisi Teithio a Chynhaliaeth S4C.
- Cyfnod yn y rôl: mae’r penodiad am gyfnod o bedair (4) blynedd, oni bai y caiff y cyfnod ei ddirwyn i ben gan y naill barti neu'r llall yn gynharach gyda rhybudd o ddau fis, neu fel arall y caiff ei derfynu yn unol ag erthyglau cymdeithasu'r cwmnïau masnachol.
- Mae penodiad yn amodol ar sêl bendith ffurfiol gan brif Fwrdd S4C.
Ceisiadau
- Dylid anfon ceisiadau erbyn 5 Rhagfyr 2024 i Pobl@s4c.cymru neu i’r Adran Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
- Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal gydag ymgeiswyr ar y rhestr fer.
- Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
- Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhywedd, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig na chefndir economaidd-gymdeithasol, oedran, statws teulu, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, rolau rhan-amser neu amser llawn, crefydd, gwleidyddiaeth, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd iaith (ac eithrio pan fo'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y rôl) neu unrhyw wahaniaeth amherthnasol arall, ac mae wedi ymrwymo i ystyried amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. Mae S4C Masnachol yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau a allai gael eu tangynrychioli, gan gynnwys menywod, pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Mae egwyddorion cystadleuaeth agored a theg ar waith a phenderfynir penodiadau yn ôl teilyngdod.