52 o Bethau

Yn ystod ein blwyddyn gyntaf rydym yn cynnig rhaglen o ’52 o Bethau’ a grëwyd gan ac ar gyfer cymuned greadigol y ddinas er mwyn arddangos pobl a lleoliadau rhyfeddol ein dinas. Mae gennym rai syniadau, ond rydym hefyd eisiau i chi gymryd rhan a dweud wrthym beth yr hoffech chi ei wneud a'i greu gyda'ch gilydd. 

52 o Bethau ar Vimeo.

Digwyddiadau 

Digwyddiadau 'Dangos a Dweud' chwarterol; digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd, a siaradwyr brwdfrydig ac ysbrydoledig sy'n ysgogi trafodaeth ynglŷn â Chaerdydd, yr economi greadigol a'r ddinas greadigol. 

Pobl: 

Cyfweliadau, sgyrsiau, safbwyntiau a myfyrdodau gan ystod o bobl sy'n gweithio yng Nghaerdydd neu sy'n gysylltiedig â'r ddinas a'i chymuned greadigol.

Caerdydd Creadigol @:

Yn ogystal â chynnal ein digwyddiadau ein hunain, bydd tîm Caerdydd Creadigol yn mynychu digwyddiadau er mwyn rhannu'r profiadau gydag aelodau.

Creu ar y cyd:

Rydym yn hoffi gwneud pethau. Rydym eisiau gweithio gyda'n haelodau er mwyn creu digwyddiadau ac adnoddau i bawb yn ein rhwydwaith. Buasem yn hoffi i bawb - unigolion, sefydliadau, grwpiau a rhwydweithiau - gymryd rhan. Os oes gennych syniad, cysylltwch.