#50: Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn

21/10/2016 - 13:05
10-14 Castle Arcade, Cardiff, CF101BW
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, cynigion ni raglen o ‘52 o Bethau' a wnaed gyda chymuned greadigol y ddinas ac ar ei chyfer, er mwyn arddangos y bobl a’r lleoedd gwych yn ein dinas. Cewch hyd i’r 52 o bethau yma.

Ymchwilio i Ŵyl Sŵn

Eleni bydd Gŵyl Sŵn yn dathlu ei degfed pen-blwydd. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae’r ŵyl wedi dod ag amrywiaeth o olygfeydd a seiniau i Gaerdydd ac wedi datblygu llwyfan cerddorol unigryw a rennir gan fandiau hen a newydd fel ei gilydd. 

Ond beth yw cyfrinach gŵyl gerddoriaeth dda? Sut brofiad yw gŵyl gerddoriaeth i aelodau'r gynulleidfa a’r bandiau? Pa effaith gall gŵyl ei chael o ran denu pobl i Gaerdydd? Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau mae’r Grŵp Ymchwil Gwyliau yma ym Mhrifysgol Caerdydd am gael atebion iddyn nhw, trwy ymgysylltu’n fanwl â Sŵn. 

Oddi mewn i ddisgyblaeth astudiaethau cerddoriaeth boblogaidd mae gwyliau wedi dod yn dipyn o bwnc llosg, ac mae ymchwilwyr wedi bod yn ymgysylltu â nhw fel mannau lle ceir defodau perfformio, safleoedd ar gyfer arloesi ym myd perfformio byw a cherrig milltir ar hyd taith gerddorol y perfformwyr. Gall gŵyl roi munud ddiffiniol i fandiau a nodi eu lle yn hanes cerddoriaeth; meddyliwch am Jimi Hendrix ar Ynys Wyth neu Beyonce yng Ngŵyl Glastonbury. Nod ein hastudiaeth o Sŵn yw ychwanegu syniadau newydd wrth drafod gwyliau drwy ddarparu un o’r astudiaethau mwyaf cynhwysfawr erioed, yn ein barn ni, o ŵyl a gynhaliwyd yn y Deyrnas Unedig.

Mae ein gwaith ymchwil yn cynnwys tair prif elfen: arolwg cynulleidfa, ymchwiliad ethnograffig i deithiau’r perfformwyr ac amgueddfa gerddoriaeth. 

Bydd arolwg y gynulleidfa’n edrych ar arferion teithio mynychwyr Sŵn a’r hyn a gânt wrth fynychu’r ŵyl, gan gynnwys profiadau sy’n amrywio o fwynhau perfformiad byw gan fand maen nhw’n dwlu arno i’r profiad cyffrous o ddod ar draws y band fydd yn newid eich bywyd!  

Bydd yr astudiaeth ethnograffig yn cymharu’r teithiau a gymerwyd trwy Sŵn gan berfformwyr sefydledig a rhai sy’n perfformio am y tro cyntaf, er mwyn cymharu eu profiadau a threiddio i graidd y gwerth mae Sŵn yn ei ychwanegu i’w gyrfaoedd fel cerddorion.  

Darn olaf y jig-so yw Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn lle bydd trigolion Caerdydd a mynychwyr Sŵn yn rhannu memorabilia ac effemera o’u heiddo gyda’r cyhoedd. Bydd yr amgueddfa hon, sy’n deillio o’r dorf, yn edrych ar yr arteffactau mae Sŵn a cherddoriaeth yng Nghaerdydd wedi’u cynhyrchu, a bydd yn datgelu hanesion difyr am fandiau a chyngherddau y byddwch chi’n dymuno eich bod wedi’u gweld! 

Mae’r Amgueddfa, sydd gyferbyn â siop goffi Barker yn Arcêd y Castell, wedi datblygu’n un o nodweddion cyffrous yr ŵyl, gan fod cynifer o wrthrychau diddorol yn cael eu rhoi ar fenthyg i ni. Mae'n rhad ac am ddim i unrhyw un ddod i weld ar y diwrnodau canlynol:

  • Dydd Gwener, 21 Hydref 12 hanner dydd tan 5 pm
  • Dydd Sadwrn, 22 Hydref 12 hanner dydd tan 5 pm
  • Dydd Sul, 23 Hydref 12 hanner dydd tan 5 pm

Dewch â’ch tri gwrthrych i gael tynnu eu llun ar gyfer yr oriel rithwir, anfonwch drydariad i’r amgueddfa gan ddefnyddio'r hashnod #SwnMM, neu anfonwch e-bost gyda’ch straeon amdanyn nhw i festivalsresearch@cardiff.ac.uk.

Peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau’r dafell hon o fywyd cerddorol a blasu golygfeydd a seiniau dinas a adeiladwyd ar gerddoriaeth.  

Gŵyl Gerddoriaeth Sŵn

Amgueddfa Gerddoriaeth Sŵn @SwnMusicMuseum

Gwefan y Grŵp Ymchwil Gwyliau

Y Grŵp Ymchwil Gwyliau ar Twitter @CUFestivals