Ymgynghorydd Datblygu Busnes

Cyflog
Tâl agored i drafodaeth
Location
Gweithio o bell
Oriau
Other
Closing date
20.05.2024
Profile picture for user Theatr na nOg

Postiwyd gan: Theatr na nOg

Dyddiad: 7 May 2024

Mae Theatr na nÓg am arallgyfeirio ei hincwm ac adeiladu gwytnwch ariannol yn ystod cyfnod o ansicrwydd i’r cwmni a’r diwydiant theatr ehangach.

Bydd yr Ymgynghorydd Datblygu Busnes yn gweithio ar ei liwt ei hun i greu astudiaeth ddichonoldeb sy’n nodi cyfleoedd ar gyfer cynyddu incwm heb effeithio ar strategaeth a gwerthoedd craidd Theatr na nÓg. Gall hyn gynnwys adolygu ein hasedau presennol yn ogystal â nodi cyfleoedd newydd ar gyfer cynhyrchu incwm. Ni fydd y rôl hon yn gyfrifol am raglennu ein hallbwn artistig.

Ariennir y rôl hon a’r astudiaeth ddichonoldeb ddilynol gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Rachel Fryer, Rheolwr Cyffredinol, rachelfryer@theatr-nanog.co.uk

Disgwyliadau

  • Deall a gweithio o fewn gwerthoedd craidd Theatr na nÓg
  • Cydgysylltu â’r Cyfarwyddwr Artistig a’r Rheolwr Cyffredinol i nodi asedau presennol y sefydliad a allai gynhyrchu incwm pellach
  • Nodi meysydd eraill lle gellir creu incwm
  • Paratoi diweddariad interim i’w gyflwyno gan y Rheolwr Cyffredinol yng nghyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ym mis Gorffennaf 2024
  • Paratoi adroddiad dichonoldeb terfynol yn manylu ar gynhyrchu incwm tymor byr a thymor hir a dadansoddiad cost a budd perthnasol. Rhaid paratoi'r adroddiad yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Cyflwyno’r adroddiad terfynol yng nghyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ym mis Hydref 2024.
  • Gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Artistig a'r Rheolwr Cyffredinol i roi'r cynigion ar waith yn y lle cyntaf

Cais

I wneud cais am y rôl hon, cyflwynwch gynnig trwy e-bost at Rachel Fryer, Rheolwr Cyffredinol erbyn 20 Mai 2024. Defnyddiwch y pennawd pwnc ‘Ymgynghorydd Datblygu Busnes’ ac e-bostiwch rachelfryer@theatr-nanog.co.uk

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion neu sefydliadau o bob sector; nid yw profiad o fewn y diwydiant theatr neu gelfyddyd yn ofyniad ar gyfer y rôl hon. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae arddull a fformat y cynigion unigol yn hyblyg ond disgwylir I bob cynnig gyflwyno’r wybodaeth ganlynol yn glir ac yn gryno:

  • Cefndir a phrofiad perthnasol yr ymgeisydd, gan gynnwys enghreifftiau o waith tebyg a re u
  • Cefndir a phrofiad perthnasol yr holl unigolion a fyddai’n ymwneud â chyflwyno’r prosiect
  • Ymateb I’r briff a disgrifiad o’r dull gweithredu cyffredinol
  • Tasgau a dilyniant, gan gynnwys methodoleg ac amserlen glir ar gyfer cyflawni
  • Cyllideb fanwl, gan gynnwys y gyfradd ddyddiol a threuliau
  • Enwau a manylion cyswllt o leiaf 2 ganolwr y mae gwaith tebyg wedi’I wneud ar eu cyfer.

Cyllideb

  • Cyfrifoldeb penodol yr ymgeisydd yw rhoi pris / dyfynbris addas i Theatr na nÓg ar gyfer darparu a chwblhau'r astudiaeth dichonoldeb. Felly ni fydd Theatr na nÓg yn gohebu mewn perthynas â'r gyllideb. Disgwyliwn i bob ymgeisydd roi cynnig cystadleuol i ni yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn y ddogfen hon.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event