Rydym yn edrych am unigolyn chwilfrydig, fydd gyda’r egni, brwdfrydedd ac ymroddiad i drawsnewid y ffordd mae S4C a’r sector yn cynrychioli ac yn adlewyrchu Cymru. Bydd gennych brofiad o ymwneud gyda’r cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector - yn benodol pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl LGBTQ+.
Bydd y Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant yn gweithio yn agos gyda’r adrannau cynnwys, cyfathrebu, partneriaethau ac adnoddau dynol ac yn atebol i’r Cyfarwyddwr Partneriaethau.
Cynigir y rôl hon ar gytundeb 12 mis cyfnod penodol a byddwch yn seiliedig yn ein swyddfa yng Nghaerfyrddin a disgwyli’r i chi dreulio amser yno ac o bryd i’w gilydd yn swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerdydd.
Lleoliad: Mae pencadlys S4C yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin. Bydd disgwyl i chi dreulio amser yno ac o bryd i'w gilydd yn swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerdydd a ble bynnag arall y bydd S4C yn gofyn ichi yn rhesymol yn rhinwedd eich swydd.
Cyflog: £25,000 -£28,000 y flwyddyn
Cytundeb: 12 mis i ddechrau
Oriau Gwaith: 35.75 awr yr wythnos. Croesawir ceisiadau i weithio'n hyblyg yn unol â'n polisi gweithio'n hyblyg.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Cynllun Pensiwn Personol Grŵp. Bydd y cyflogwr yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Bydd disgwyl i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 hanner nos 13 Medi 2020 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.Nid ydym yn derbyn CV.
Gallwch hefyd gysylltu gyda ni ar y ebost uchod i drafod y swydd o flaen llaw neu i ofyn am ragor o wybodaeth.
Cyfweliadau
Dyddiad cyfweld: 30 Medi 2020 drwy Zoom. Os nad ydych ar gael ar y dyddiad yma plîs gadewch i ni wybod yn eich cais.