Rhywbeth Creadigol? cyfres 3, pennod 2 - Cymru Creadigol i Bawb - Beth yw Dylanwadwr LHDTC+?

Dyma bodlediad i weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Yn ail gyfres Rhywbeth Creadigol? rydyn ni'n mynd â'r sgyrsiau ar-lein ac yn trafod gwaith creadigol a diwylliant yn y byd digidol.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 8 October 2021

Yn y bennod hon yr ydym yn trafod dylanwadwyr LHDTC+ yng Nghymru Creadigol.

Aisha May and Iestyn on Zoom

 

Mae Iestyn Wyn yn cyd-gyflwyno podlediad Esgusodwch Fi? ar BBC Sounds gyda Meilir Rhys Williams, ac mae’n gweithio i Stonewall Cymru fel rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil.

Mae Aisha-May yn actores, perfformiwr sioe gerdd ac yn gyflwynwraig. Aisha oedd un o cyflwynwyr y rhaglen LHDT+ cyntaf i bobl ifanc ym Mhrydain, sef y gyfres Ymbarél ar gyfer Stwnsh ar S4C, ac mae bellach yn cyd-gyflwyno’r podlediad Legally Lesbians.

Rhannodd Aisha-May ei rhesymau dros ddechrau’r podlediad Legally Lesbians:

So, dyna pam wnaethon ni ddechrau fe oedd i sgwrsio ‘da’r byd, a dweud taw dyna sut wnaethon ni ddod allan. Oedd e’n rili anodd i Amy (cyd-gyflwynydd Legally Lesbians), oedd e’n fwy hawdd i fi. Jest i ddweud bod gwahanol ffyrdd i deimlo am eich hun a does dim ffordd yn well na’r llall.

Hefyd, siaradodd Iestyn Wyn am bodlediad Esgusodwch Fi?: “Pan mae gen ti bodlediad efo gwestai gwahanol yn wythnosol, nid yn unig wyt ti’n rhoi pobl LGBTQ+ ar blatfform, a ti’mod yn rhoi eu lleisiau nhw allan yna, ond ti hefyd wedyn yn cael eu straeon nhw sydd yn apelio at bobl sydd ella ddim yn rhan o’r un gymuned, neu ddim yn rhannu’r un profiadau.”

Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021.

Gwrandewch ar y bennod gyfan. 

Spotify:

iTunes: 

Soniwyd amdano yn ystod y bennod:

Esgusodwch fi

Legally Lesbians

Gwrandewch i fwy o benodau Rhywbeth Creadigol yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event