Rhannu straeon y bobl, nid y sector

Erthygl gan Bethany Handley.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 12 April 2022

Bethany ydw i, myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg. Yn fy rôl fel Cynhyrchydd Creadigol Cynorthwyol yng Nghaerdydd Greadigol rwy'n cefnogi'r gwaith o gynllunio, trefnu a rhedeg ein digwyddiadau. Fel awdures ac anabl creadigol yn gweithio i godi lleisiau pobl ifanc Anabl eraill o Gymru, roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am weithio fel gweithiwr llawrydd yn y sector creadigol cyffrous yng Nghaerdydd yn y cyfarfod rhithwir ym mis Ebrill.

'Pe baech chi’n daten, sut hoffech chi gael eich coginio?'

Ar brynhawn Iau ym mis Ebrill, rhannodd rhai o bobl greadigol wych Caerdydd eu dymuniadau o ran sut yr hoffent gael eu coginio pe baent yn daten.

O gael eu rhostio'n araf trwy’u crwyn, i'w stwnsio er cysur yn y pen draw, buom yn dathlu unigoliaeth pobl greadigol anhygoel o Gymru gyda sesiwn fywiog i dorri’r garw.

A finnau ar fin graddio ac yn weithiwr creadigol llawrydd, gwnaeth Angen! Diwallu’r Angen! Cydweithio! gadarnhau i mi sut mae Caerdydd yn lle cyffrous a bywiog i fod yn weithiwr llawrydd creadigol. Dathlodd pobl greadigol Caerdydd eu hunigoliaeth a rhannodd eu straeon, gyda chyffro arbennig am gydweithio yn y byd ar ôl y pandemig.

Fe wnaeth Rachael Brown o'r Clwb Entrepreneuriaid Creadigol ein syfrdanu gyda'i gweledigaeth ar gyfer economi yn y dyfodol wedi'i diffinio gan greadigrwydd ac effaith gymdeithasol. Rhannodd Rachael lansiad Uchelgeisiau Creadigol Cymru, cynllun yng Nghymru sy'n hyrwyddo gweithwyr llawrydd creadigol drwy gymorth ymarferol. Mae'r cymorth ar ffurf digwyddiadau byw ar-lein a darlithoedd wedi'u recordio ymlaen llaw ar bynciau sy'n amrywio o weithio fel gweithiwr llawrydd yng nghefn gwlad Cymru i oresgyn syndrom ymhonni a chyngor ar gontractau. Gallwch gofrestru ar gyfer Uchelgeisiau Creadigol Cymru yma.

Trafododd Rachael yr angen i adrodd straeon y bobl, nid y sector, rhannu pwy yw pobl greadigol a hyrwyddo eu hunigoliaeth. Mae'n dathlu'r 'dull DJing' o weithio y mae gweithwyr llawrydd creadigol yn ei feithrin drwy ddefnyddio setiau sgiliau cyfoethog ac amrywiol.

Roedd egni a haelioni pobl greadigol Caerdydd yn heintus, gan gefnogi ei gilydd gyda chyfleoedd a chyngor:

  • Mae Kelly Barr o Age Cymru yn awyddus i hyrwyddo cyfleoedd creadigol a/neu ddiwylliannol rhwng cenedlaethau neu gyfleoedd i'r henoed sy'n cael eu cynnal ym mis Mai fel rhan o Gwanwyn, gŵyl sy'n dathlu creadigrwydd yn yr henoed. Gallwch gysylltu â Kelly yn Kelly.barr@agecymru.org.uk.
  • Mae David Collins o gylchgrawn Pêl-droed Cymru yn cynnig comisiynau taledig i ddylunwyr graffig a/neu artistiaid o Gaerdydd i ddylunio gorchuddion ar gyfer llyfr pêl-droed. Cysylltwch â David yn welshfootball@gmail.com.
  • Mae Ioan Raileanu yn chwilio am gydweithredwyr ar gyfer murluniau cyfranogol. Cewch ragor o wybodaeth yma.
  • Mae Katherine Rees o Be Extra yn chwilio am gydweithwyr i hybu lles yn y celfyddydau. Cysylltwch â Katherine yn KatherineRees@be-extra.co.uk.

Fel myfyriwr graddedig, fe'm hatgoffwyd i wrthsefyll y pwysau i gael 'swydd iawn' ac yn hytrach adrodd fy stori fy hun fel y gallaf lunio fy llwybr creadigol fy hun fel gweithiwr llawrydd o Gymru.

Diolch i holl bobl greadigol ysbrydoledig Caerdydd am ddangos sut mai unigoliaeth yw ein hased mwyaf. Gyda'n gilydd, drwy rannu ein straeon, gallwn adrodd ein gwahaniaethau a meithrin perthynas â phobl greadigol eraill o'r un anian.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event