Gwobr Gerddoriaeth Gymreig: Don Leisure

Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn wobr flynyddol i ddathlu’r gerddoriaeth newydd orau a wneir yng Nghymru neu gan Gymry ledled y byd. I ddathlu’r gwobrau eleni, buom yn siarad â rhai o’r artistiaid o Gaerdydd sydd ar y rhestr fer i’w holi am eu cerddoriaeth a’u profiad o fod yn greadigol yn y ddinas.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 26 October 2022

Nesaf, buom yn siarad â’r cynhyrchydd Don Leisure o Gaerdydd. Mae ei albwm Shaboo Strikes Back wedi cyrraedd rhestr fer y wobr eleni.

Don Leisure

Llongyfarchiadau ar gael eich enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig! Allwch chi ddweud wrthym am eich albwm ar y rhestr fer?   

Diolch yn fawr iawn! Fy albwm 'Shaboo Strikes Back' yw olynydd yr albwm cyntaf a ryddhawyd gen i’n 2017, o’r enw 'Shaboo'. Mae'r record yn fath o dapestri o wahanol synau a dylanwadau, sydd yn eithaf amrywiol. Yn ei hanfod mae'n gynrychiolaeth neu'n deyrnged i fy nghasgliad recordiau a chwaeth gerddorol sy'n ehangu o hyd. Neu efallai mai ADHD sonig wnaeth i mi roi 20+ o draciau byr ar albwm.

Sut deimlad yw cael eich enwebu?

Mae'n syndod mawr i fod yn onest. Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl. Mae'r adnabyddiaeth yn cŵl ond nid dyna'r rheswm fy mod yn eistedd i lawr yn y stiwdio i wneud unrhyw beth. Rwy'n teimlo gyda'r record hon ei bod yn cael ei mwynhau mewn mannau gwahanol i'r pethau blaenorol rydw i wedi'u rhyddhau. Mae cefnogaeth 6Music (yn enwedig Laurene Laverne) a hefyd cariad WMP yn arwydd o hyn.  

Pa effaith mae bod yng Nghaerdydd wedi'i chael ar eich gwaith?

Mae cyflymder bywyd yma ychydig yn arafach nag ym Manceinion neu Lundain, dyweder, felly mae'n caniatáu mwy o amser i chi fod yn greadigol. Mae David Newington, Amanda Whiting a Gruff Rhys i gyd yn byw yng Nghaerdydd neu'n agos at Gaerdydd, a helpodd i roi'r albwm at ei gilydd. Mae llawer o dalent yn y rhannau hyn a dwi’n teimlo ei bod hi’n haws estyn allan a chysylltu â cherddorion lleol yma. Haws nag y byddai yn Llundain neu rywbeth.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf yn y 12 mis nesaf?

Parhau â phrosiect rwy'n ei ddatblygu gyda David Newington (Boy Azooga), gweithio ar fy neunydd sy’n fwy addas at loriau dawnsio/yn fwy electronig o dan yr enw arall THE AKH, eto gyda rhywfaint o allbwn DnB rwy'n ei gynllunio o dan yr enw Khufu. Dwi'n paratoi tâp curiadau amlsynhwyraidd fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan iawn a hefyd yn gweithio ar albwm arall Don Leisure ar gyfer First Word Records. Gobeithio y dylai fod mwy o gydweithio gyda Gruff ac Amanda hefyd. Rwyf hefyd yn gweithio gyda rhai rapwyr da iawn o Efrog Newydd ond alla i ddim siarad am hynny gormod am y tro.

Dywedwch wrthym am unrhyw gigs sydd i ddod... 

Rwy'n gwneud teyrnged i'r cawr jazz Pharoah Sanders yn y lleoliad newydd Paradise Garden ar 23 Hydref a hefyd yn sbinio yno ar 4 Tachwedd.

Sut gall pobl ddarganfod mwy amdanoch chi a'ch cerddoriaeth?

Gallwch edrych ar fy Instagram @don_leisure_beats a'r ffordd orau i gefnogi a phrynu unrhyw beth yw Bandcamp.

 

Mwy am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 

Bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei chynnal ar 26 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Llais 2022. Dysgwch fwy am yr ŵyl ac enwebeion eraill.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event