Angen! Diwallu’r Angen! Cydweithio! (Nodiadau – Chwefror 2022)

Edrychwch ar y crynodeb o gyfleoedd a rannwyd yn nigwyddiad Angen! Diwallu’r Angen! Cydweithio! yr wythnos ddiwethaf a chael gwybod a allai un ohonynt fod yn addas i chi.  

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 9 February 2022

Yn siarad yn y digwyddiad roedd:

Luke Pavey ac Iwan England o Rwydwaith Ffeithiol Cymru, grŵp rhwydweithio ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes cynyrchiadau teledu yng Nghymru. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://twitter.com/factualcymru

Siaradodd Hannah Brown ac Yen Yau o Ymddiriedolaeth Grierson, elusen sy'n hyrwyddo gwneud ffilmiau dogfen hefyd am y cynlluniau sydd ar gael iddynt. Mae rhaglen DocLab yn gynllun hyfforddi blwyddyn o hyd i helpu ymgeiswyr (18-25 oed) i ffynnu ym myd teledu ffeithiol a gwneud ffilmiau dogfen. Mae ceisiadau’n cau ar 11 Chwefror am 5pm. Edrychwch yma am ragor o wybodaeth: https://griersontrust.org/outreach/grierson-doclab-2022/

Bydd Ymddiriedolaeth Grierson hefyd yn rhedeg cynlluniau DocLab In Focus ar gyfer unrhyw un 18+. Bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu yma ym mis Mehefin 2022: https://griersontrust.org/outreach/

Zoom event picture

Ymhlith y cyfleoedd a rannwyd gan y gymuned roedd:

Byddai Canolfan Mileniwm Cymru wrth eu bodd yn clywed gan unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn hwyluso un o'u cyrsiau 'Llais Creadigol'. Mae’r cyrsiau’n cynnig llwyfan i bobl ifanc fynegi eu hunain mewn ffyrdd hwyliog ac archwilio eu creadigrwydd.  Cyswllt education@wmc.org.uk

Mae Gemma Jones o Graddedigion Mentro am helpu i gysylltu graddedigion dawnus ac uchelgeisiol â’i gilydd. Cysylltwch â hi drwy ebostio gemma.jones3@cardiff.gov.uk

Mae Al Lewis yn gyfansoddwr caneuon sydd am gydweithio ag unigolion dawnus eraill ar brosiect am gerddoriaeth a galar. Ebostiwch ef drwy al@allewismusic.com

Ymhlith y cyfleoedd a rennir gan Gaerdydd Creadigol mae:

Profiad ART LAB - Diddordeb mewn celf a gwyddoniaeth? Mae tîm Biowyddorau Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol yn cynnal digwyddiad gwyddonol-gelfyddydol am ddim yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://www.creativecardiff.org.uk/experience-art-lab

Mae ymchwilwyr Clwstwr wedi diweddaru adroddiad ar effaith Covid-19 ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Gallwch ddarllen mwy yma: https://www.creativecardiff.org.uk/baseline-measuring-impact-covid-19-creative-industries-wales-established

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event