Y darlunydd Jack Skivens sy'n siarad am ei broses creadigol ac adrodd stori Pafiliwn Grange

Mae’r sbotolau creadigol ar y darlunydd Jack Skivens wrth iddo weithio ar adrodd stori Pafiliwn Grange

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 13 August 2020

Mae’r sbotolau creadigol ar y darlunydd Jack Skivens wrth iddo weithio ar ei brosiect diweddaraf, adrodd stori Pafiliwn Grange.  

Jack5

Eleni mae Caerdydd Creadigol a Phorth Cymunedol wedi creu partneriaeth gyffrous ac er bod cyfyngiadau’r clo mawr rydym wedi dod ynghyd i adrodd stori un o’u prosiectau mwyaf cyffrous, ailddatblygiad Pafiliwn Grange. 

Rydym ni wedi comisiynu’r darlunydd o Gaerdydd, Jack Skivens, i fynegi stori’r siwrne a gychwynnodd 8 mlynedd yn ôl. Mae’r adeilad wedi trawsnewid o hen bafiliwn bowlio i ganolfan gymunedol. Mae Jack wedi bod yn gweithio’n galed ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y gelf derfynol. Buon ni’n siarad gyda fe’r wythnos hon ynlgyn a’u brosesau creadigol, effaith COVID-19 a chipolwg ar ei ddarn ar gyfer Pafiliwn Grange…  

Beth yw dy hoff beth am fod yn darlunydd? 

Mi wnai geisio bod yn gryno oherwydd bod gymaint dwi’n hoffi am ddarlunio a gallen i siarad am oriau. Wrth wraidd y cyfan, fy hoff beth am ddarlunio yw’r weithred o wneud. Yr anterth o syniadau a disgwyliadau, yna’r teimlad golli dy hun yn y foment o greu. 

I mi, mae darlunio a phaentio fel myfyrdod. Dwi’n colli fy hun yn yr hyn dwi’n greu. Dwi’n mwynhau’r camgymeriadau a’r cyfleoedd hynny sy’n dod o’r camgymeriadau hynny. Mae’r rhan hynny o’r broses yn bersonol, ac er fy mwyn i yn unig. 

Dwi’n aml yn rhannu fy lluniau unwaith dwi wedi gorffen a dwi’n hoffi pan mae pobl yn ymgysyllu a chysylltu â’r gwaith, yn enwedig pan fydd y cysylltiad yn un nad oedd yn amlwg wrth greu’r darn yn y lle cyntaf.  

Beth yw dy broses creadigol? 

Mae fy mhroses creadigol yn esblygu ac yn amrywio o brosiect i brosiect ac mae’n aml yn adlewyrchiad o’r brosiect dwi’n gweithio arni. Mae fel arfer yn cynnwys sgribladau a brasluniau, yna dwi’n archwilio’n feddyliol drwy fynd am dro yn y goedwig. 

Yn ddibynnol ar y brosiect, mae’r darluniau’n aml yn cychwyn drwy draflu inc ar bapur ac yna darganfod testun y proiect o fewn y brasluniau cychwynol. Mae fel arfer unai’n edrych fel ‘roschach’ neu neu’r dull arall yw i wneud nifer o frasluniau mewn llyfr braslunio tan fy mod i’n hapus gyda’r gwaith. Yn syml, does dim rheolau na phroses pendant. 

Ar gyfer y prosiect yma roedd llawer o fraslunio ac ymchwil, ond ymweliad i erddi Pafiliwn Grange cyn y clo mawr a phrofi’r lle oedd lle roedd y syniadau’n dechrau llifo. 

I ymhelaethu ar y cwestiwn, hoffwn grybwyll R.Crumb a greodd cyfres o frasluniau oedd yn archwilio gwagle yn esblygu dros amser. Enw’r darn yw “the history of America” ac roedd y darn penodol wedi taro tant gyda mi ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr ar gyfer y prosiect Pafiliwn Grange.

Ble’r wyt ti’n hoffi darlunio? 

Mae gen i stiwdio cartref cyfforddus lle dwi’n hoffi darlunio, mae’n glyd ac mae golygfeydd ardderchog o’r mynyddoedd a choed. 

Jack 1

Mae fy efeilliaid Oliver a Jonah’n aml yn yunno â fi i wneud ychydig o gelf eu hunain neu i greu ychydig o lanast o fy nghwmpas. Er mai dyma lle dwi’n rhoi fy syniadau ar bapur, mae llawer o’r gwaith meddwl yn digwydd am dro yn y goedwig ger fy nhy. Dyna lle mae ysbrydoliaeth yn cydio. 

Beth sydd angen arnat i gychwyn arni? 

Yn gyntaf ac yn hollbwysig ydy coffi da– a llawer ohono. 

Fy mhrif gynhwysyn ar gyfer darlunio ydy inc du indiaidd, papur trwm, pensiliau. Er anaml ydw i’n eu defnyddio ar frys i gael llun ar bapur. Amrywiaeth o ddyfliwiau a dwr ffres. Dwi’n aml y defnyddio pen paent gwyn i uwcholeuo. A cherddoriaeth da… dwi’n aml yn dewis cerddoriaeth heb lais, mae albym Sweetness Bonobo yn un sy’n cael ei chwarae’n aml yn fy stiwdio i. 

Jack 2

Ydy’r efeilliaid yn hoffi dy ddarluniau?

Mae’r efeilliaid yn ymddangos fel petaent yn hoff o fy narluniau. Er dwi’n aml yn teimlo eu bod nhw’n credu eu bod nhw’n gallu neud gwelliannau gyda’u ceisiadau i ymuno mewn pan dwi’n gweithio ar rywbeth. 

Y darlun mwyaf poblogaidd yw hofrennydd felly, dwi’n amau eu bod nhw’n meddwl y byddai hofrennydd yn gwella unrhyw ddarlun. 

Jack 3

Dydyn nhw ddim yn cytuno ar lawer ond maen nhw’n mwynhau’r llun wnes i o anifeiliaid Amgueddfa Caerdydd. Maen nhw’n aml yn eistedd gyda'i gilydd yn rhestru’r anifeiliaid maen nhw’n adnabod ac yn dysgu am y rhai nad ydynt yn gwybod.  Yn ddiweddar maen nhw wedi bod yn holi “pam?” ar ôl dysgu enw anifail ac felly dwi’n treulio hyd at awr yn ceisio esbonio pam bod cranc yn granc.

Sut ydy’r clo mawr a COVID-19 wedi effeithio dy waith? 

Mae’r cyfyngiadau wedi codi nifer o heriau, ond mae hefyd wedi cynnig cyflew unigryw i dreulio mwy o amser yn fy stiwdio adref yn bod yn greadigol. 

Dwi wedi bod yn trio neud y gorau o COVID-19 ac wedi gweithio ar ambell ddarn sy’n. dychmygu Caerdydd heb bobl. Un lle mae natur yn ffynu a chreaduriaid yn crwydro’r strydoedd ac arcedau Caerdydd. 

Mae wedi fy ngalluogi i gymryd amser i archwilio syniadau yn eu cyfanrwydd a chanolbwyntio ar fanylion efallai i mi golli yn y gorffennol. Wrth gwrs, mae’n erchyll ac yn achosi llawer o bryder i nifer, ond mae bod yn optimaidd (sydd weithiau’n druenus) yn golygu fy mod i o hyd yn ceisio dod o hyd i’r ochr bositif ym mhob sefyllfa. 

Pa ddarnau o waith yw dy ffefrynnau? Pam? 

Gwdi-hw – dyma ddarlun fe wnes i pan oedd dyfodol Gwdihŵ mewn peryg o ailddatblygu. Fe wnes i ffrindiau oes yno yn ogystal ag atgofion melys. Roedd Gwdihŵ yn golygu llawer i mi. Fe wnes i’r darn er mwyn cyfleu sut o’n i’n teimlo am y sefyllfa ac fe wnaeth hynny daro tant gyda llawer o bobl. 

Dwi’n caru’r gymuned a ddaeth ynghyd er mwyn ceisio achub y lle mewn dinas lle mae crewyr yn cael eu gwthio i’r cyrion gan ddatblygwyr, ac yn parhau i frwydro dros wagleoedd creadigol yn ein dinas. Yn anffodus, fe gollon ni frwydr honno, ond mae’r gymuned yn gryfach nag erioed.

Spillers Records – darn diweddar oedd hwnnw. Y syniad gwreiddiol oedd archwilio effaith y clo mawr ar natur, a’r syniad y byddai anifeiliaid yn ffynu mewn dinas heb bobl. Fe gyhoeddais y llun ar-lein a derbyn ymateb positif a dyrchfaol gan bobl, gyda nifer yn honni bod y darn wedi cynnig dihangfa o reality a’u hatgoffa o amseroedd gwell. 

WWF – Dyma lun fe greais ar gyfer WWF Cymru. Dyma sefydliad sy’n gwneud gwaith ardderchog a phwysig er mwyn pob un ohonom ac roedd hi’n fraint cael eu cynrychioli. Fe greais dau lun i geisio dangos stori o daid yn dweud wrth ei wyr am yr holl anifeiliaid a natur gwelodd yn ei fywyd ifanc, o gymhau â’r dyfodol drwy lygaid ei wyr. Dwi’n hoffi’r ffaith bod y lluniau yma’n adrodd stori, mewn unrhyw drefn. Hefyd, yn bersonol dwi’n hoff iawn o ddarlunio adar, felly roedd y prosiect yma’n apelio ataf yn syth.  

Beth yw dy athroniaeth creadigol? 

Dwi’n darlunio bob dydd hyd yn oed os nad oes gen i unrhyw beth i’w ddarlunio. Dwi’n sicrhau mod i’n darlunio rhywbeth, unrhyw beth. 

Dwi wedi dysgu fy mod i o hyd yn feirniadol o’r canlyniad beth bynnag sy’n digwydd, felly dwi’n ceisio bodloni â’r canlyniad hyd yn oes nad yw’n ymddangos fel y dychmygais. Mae’r syniad gwreiddiol yn aros yr un peth hyd yn oed os yw’r canlyniad yn edrych ychydig yn wahanol i’r syniad yn fy mhwn, ond unwaith mae wedi’i greu mae’r gwaith dadansoddi yn nwylo’r gynulleidfa. Yn aml mae rhywbeth dwi’n credo all fod yn well neu’n wahanol. 

Felly fy athroniaeth yw mwynhau’r broses a’r weithred gorfforol o greu’r darlun heb boeni am y canlyniad yn ormodol. Mae hyn yn rhoi’r rhyddid i mi barhau i greu a gwella ar bob prosiect dwi’n gwneud, Dwi hefyd yn hoffi gadael “camgymeriadau” a’u gwneud nhw’n rhan o’r broses.

Beth oeddet ti’n hoffi am weithio ar stori Pafiliwn Grange? 

Mae’n barod gen i gysylltiad emosiynol â Grangetown, gan bod fy mrawd a chwaer yng nghyfraith yn byw yno ac wedi magu fy nai Archie yno. Doeddwn i ddim yn gwybod rhyw lawer am y lle cyn iddyn nhw fyw yno ond yn fuan daeth yn gefndir i nifer o atgofion melys i mi. Dwi hefyd wedi gweithio’n Grangetown ac arweiniodd hwn at ddeall yr ardal a’r gymuned yn well.  

O’r diwrnod cyntaf un yn trafod y prosiect roedd angerdd y gymuned ynglŷn â’r lle a’r prosiect yn anhygoel. Yn aml, dwi wedi gweithio ar brosiectau lle mae’n anodd gwneud cysylltiad yn syth ond nid dyna ddigwyddodd ar y prosiect yma. 

Mae wedi bod yn hyfryd gallu archwilio stori’r prosiect a’r holl bobl sydd wedi bod yn rhan ohono a dwi wedi cael fy ysbrydoli i fod yn rhan o stori mor arbennig. Dwi wedi gweithio ar y prosiect hwn yn ystod y clo mawr… rydym ni gyd mewn sefyllfa sy’n ein hatal ni rhag bod yn agos i bobl ac aros y tu mewn am gyfnodau hir, felly mae’r prosiect yma wedi cynnig ffenestr mewn i fyd sy’n bodoli tu hwnt i’r cyfyngiadau ac mae wedi bod yn ddihangfa i gael archwilio’r llefydd a’r bobl ynghlwm.