Dysgu o bell a hyfforddiant ymgolli
Dydd Iau 12 Tachwedd 2020
3.30pm - 5.30pm
Cofrestrwch yma i ymuno â'r digwyddiad rhad ac am ddim.
Mae Technoleg Ymgolli De Cymru yn gyfarfod a drefnir gan Caerdydd Creadigol ar gyfer y clwstwr technoleg ymgolli sydd ar dwf yn ne Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle i rannu gwybodaeth a dysgu ar dechnoleg ddatblygol (realiti rhithwir / realiti estynedig / realiti cymysg) rhwng ymarferwyr technoleg a chreadigol ac amrywiaeth eang o academyddion sy'n defnyddio'r dechnoleg. Ein gobaith yw annog rhwydweithio a chyfleoedd i gydweithio.
Ymunwch â ni yn y cyfarfod ar-lein nesaf lle gallwch ddisgwyl sgwrs arddangos gan:
- Cineon Training - darparwr hyfforddiant sy'n arbenigo mewn Dysgu Ymgolli a darparu hyfforddiant Perfformiad Dynol a gwasanaeth ymgynghori i amrywiol ddiwydiannau. Maen nhw'n defnyddio ymchwil arloesol ac yn mabwysiadu technolegau ymgolli fel efelychiadau Realiti Rhithwir i ddeall ac optimeiddio ymddygiad dynol mewn amgylcheddau critigol o ran diogelwch a dan bwysau uchel. Maen nhw hefyd yn arbenigo ar gynllunio amgylcheddau dysgu o bell sy'n cynnwys egwyddorion gemeiddio ac efelychu y gellir eu cyrchu dros y rhyngrwyd.
Yna ceir adran Galwadau a Chydweithio yn cynnwys:
- Peter Gardom, This Great Adventure
- Labordy Syniadau Clwstwr
Rydym ni'n croesawu'n arbennig y rheini nad ydyn nhw wedi dod i gyfarfod o'r blaen.
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion fel Iaith Arwyddion Prydain, adrodd llais i destun, neu gyfieithu ar y pryd o Saesneg i Gymraeg, ar y ffurflen gofrestru er mwyn i ni allu trefnu cefnogaeth. creativecardiff@cardiff.ac.uk
Cynhelir y digwyddiad hwn ar declyn cynadledda fideo Zoom. I lawrlwytho Zoom ewch i: https://zoom.us/download. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ddefnyddio’r platfform hwn, rhowch wybod i ni wrth gofrestru.
Rhagor o wybodaeth am ein cyfranwyr
Sgwrs Arddangos - Ross Lockett-Kirk, Cineon Training
Graddiodd Ross o Brifysgol De Cymru gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn dylunio gemau cyfrifiadurol. Ross yw prif ddatblygwr Cineon Training, yn adeiladu amgylcheddau realiti rhithwir
Galwadau a chydweithio
Bydd Peter Gardom a Dominika Noworolska yn rhannu gwybodaeth am ei brosiect Trawsnewid Cerfluniau a Lleisiau Cymunedol - prosiect treftadaeth-celfyddydau-digidol cymunedol, sy'n cofnodi profiad bywyd pobl yng Nghaerdydd, a defnyddio'r lleisiau hyn i lywio gwaith o gyd-greu profiadau AR yn gysylltiedig â cherfluniau, cofebion ac arteffactau symbolaidd eraill yn y parth cyhoeddus i drawsnewid sut mae pobl yn gallu rhyngweithio a gwneud synnwyr ohonyn nhw yn defnyddio eu dyfeisiau eu hunain.
Bydd cynrychiolwyr o raglen ymchwil a datblygu Clwstwr yn rhannu gwybodaeth ar eu Labordy Syniadau Clwstwr diweddaraf i weithwyr llawrydd a microfusnesau sy’n gweithio yn ne Cymru sydd â’r sgiliau a’r potensial i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad newydd yn gysylltiedig â’r sgrin neu newyddion. Mae’r Labordy deuddydd yn cynnig cyfle i archwilio, datblygu a mireinio syniadau newydd gyda chefnogaeth partneriaid PDR Clwstwr, gan fynd â'r cyfranogwyr drwy broses gynllunio.
Arddangosfa
Ar gyfer digwyddiad Technoleg Ymgolli De Cymru, rydym yn ystyried rhoi cyfle i arddangos prosiectau sy’n dangos potensial defnyddio technolegau sydd ar gynnydd yn y diwydiannau creadigol. Gall y prosiectau hyn fod yn brototeipiau, arddangosiadau, rhyddhadau cynnar neu rai llawn, a wnaed gan unigolion neu dimau. Dyma gyfle i chi rannu â’r gymuned ehangach. Dyma alwad agored i brosiectau fod yn rhan o’r arddangosfa yn rhan o ddigwyddiad Technolegau Ymgolli De Cymru ar 12 Tachwedd 2020. Rhaid cyflwyno pob cais cyn 30 Hydref 2020. Ni chaiff unrhyw rai ar ôl y dyddiad hwn eu hychwanegu at yr arddangosfa, ond cân nhw eu cadw ar ffeil ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd yr holl waith ar gael i’r cyhoedd yn rhan o’r arddangosfa.
Llenwch y ffurflen gais os ydych am gyflwyno eich prosiect ar gyfer yr arddangosfa.