Swyddog Cyfathrebu (Llwyfannau)

Cyflog
£27,200 - £32,831
Location
Canolfan S4C:Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ neu swyddfa S4C, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH.
Oriau
Full time
Closing date
19.10.2020
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 6 October 2020

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu i ymuno â'r tîm Cyfathrebu.Fel aelod o dîm byddwch yn gyfrifol am ddweud wrth y byd am raglenni, cynnwys a gwasanaethau S4C.

Byddwch yn defnyddio a thrin data er mwyn cysylltu'n uniongyrchol a gwylwyr a darpar wylwyr S4C drwy e-bost er mwyn tynnu eu sylw ar gynnwys y sianel fydd o ddiddordeb iddyn nhw.

Byddwch a sgiliau ysgrifennu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn gallu trin bas-data a meddalwedd e-bostio a gyda dealltwriaeth o oblygiadau GDPR.

Manylion Eraill

Lleoliad: Canolfan S4C:Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ neu swyddfa S4C, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH.

Rydym yn annog pob cyflogai i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, megis gweithio ystwyth, ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith gwahanol. Mae pob un ohonynt yn amodol ar anghenion busnes

Oherwydd yr achosion o Coronafeirws, mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff nad ydynt yn ymwneud â darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu.Felly, efallai y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal i fod ar waith.

Cyflog: £27,200 - £32,831(disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ph/benodi ar ricyn gyntaf yr ystod gyflog)

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35.75

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: 26 diwrnod yn ogystal â gwyliau'r banc.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.Os byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 yn y prynhawn ar ddydd Llun 19 Hydref 2020 i adnoddau.dynol@s4c.cymru neu'r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C:Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ.

Ni dderbynnir CV.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event