RYDYM NI’N RECRIWTIO: CYNORTHWYYDD CURADUROL

Cyflog
£19,500 per annum
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
24.11.2020
Profile picture for user Artes Mundi

Postiwyd gan: Artes Mundi

Dyddiad: 28 October 2020

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Curadurol llawn amser i’n helpu i ymchwilio, cynllunio a chyflwyno ein harddangosfa ryngwladol, ein gwobr, ein prosiectau cymunedol cyd-greadigol a’n digwyddiadau cyhoeddus. Mae hon yn rôl ymarferol gyda chyfleoedd di-ri i ddysgu sgiliau newydd, datblygu’ch gwybodaeth a chyfarfod pobl newydd.

Mae’r gymrodoriaeth hon wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer y rheini y mae eu cefndir economaidd-gymdeithasol wedi arwain at lai o gyfleoedd yn y celfyddydau, yn sgil anghydraddoldebau yn y gymdeithas sydd ohoni yn y DU. Cynhelir sesiynau datblygu a rhwydweithiau gan y tîm o Fwrsarïau Creadigol Weston Jerwood 2020-2021.

MANYLION Y SWYDD

  • Contract tymor penodol am flwyddyn
  • Cyflog o £19,500 y flwyddyn
  • Llawn amser (37.5 awr yr wythnos). Efallai y gofynnir i’r deiliad swydd weithio fin nos ac ar benwythnos o bryd i’w gilydd – bydd rhybudd yn cael ei roi os oes angen
  • 25 diwrnod o wyliau’r flwyddyn (a gwyliau banc/ cyhoeddus)
  • Bydd deiliad y swydd yn cael ei reoli gan y Curadur ond yn gweithio gyda holl dîm Artes Mundi ac ar wahanol brosiectau
  • Bydd deiliad y swydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd gyda rhywfaint o waith posibl ledled Cymru/y DU
  • Mae swyddfa Artes Mundi wedi’i lleoli yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ond mae holl aelodau’r tîm yn gweithio o gartref ar hyn o bryd. Bydd y Cynorthwyydd Curadurol yn cael ei gefnogi i weithio o gartref fel rhan o’r contract.

Dydd cau ceisiadau: Dydd Mawrth 24 Tachwedd, 2020 am 5pm

Cynhelir cyfweliadau: 11 Rhagfyr 2020

Dyddiad dechrau dewisol: 11 Ionawr 2021

Mae gwybodaeth lawn y rôl yn y Pecyn Gwybodaeth ac Ymgeisio sydd ar gael yma: http://artesmundi.org/news/opportunity-curatorial-assistant

--

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl neu’r broses ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â Melissa Hinkin, Curadur yn opportunities@artesmundi.org

Mae’r holl wybodaeth ar gael mewn print bras neu fel canllawiau clywedol hefyd.

Bydd tîm Artes Mundi ar gael i ateb unrhyw gwestiynau am y swydd, felly ymunwch â ni yn fyw am sgwrs Zoom/ Instagram – mwy o wybodaeth yn fuan!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am raglen Bwrsarïau Creadigol Weston Jerwood, cysylltwch â Sarah Gibbon, Rheolwr Prosiect yn Jerwood Arts, yn gyfrinachol yn sarahg@jerwoodarts.org neu 07944 903989 cyn gwneud cais.

Mae rhaglen Bwrsarïau Creadigol Weston Jerwood 2020-2022 wedi’i chynllunio a’i chynhyrchu gan Jerwood Arts. Mae’n cael ei chyllido gan Gronfa Trawsnewid Arweinyddiaeth Arts Council England, Sefydliad Garfield Weston, Art Fund, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Soctland, British Council, Jerwood Arts a Sefydliad PRS.