Rheolwr Gwirfoddolwyr
Artis Community Cymuned
Mae Artis Community Cymuned, sy’n seiliedig ym Mhontypridd, yn darparu profiadau celf cymunedol ansawdd uchel a gaiff eu gyrru gan ddeilliannau cymdeithasol. Rydym yn credu yng ngrym trawsnewidiol creadigrwydd i wneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd pobl a rydym wedi darparu profiadau celf proffesiynol, ansawdd uchel gyda chymunedau ar draws bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf ers 1987, gan greu cyfleoedd gyda’r bobl a gaiff eu herio fwyaf gan eu hamgylchiadau.
Mae Artis Community Cymuned wedi cyrraedd amser cyffrous iawn yn ei hanes gyda chynlluniau wedi eu cytuno ar gyfer symud i adeilad yr YMCA wedi ei ailddatblygu ym Mhontypridd. Daw’r prosiect ailddatblygu yn ganolfan ar gyfer creadigrwydd, celfyddydau a diwylliant fydd yn cynyddu egni a bywiogrwydd Cymoedd De Cymru. Bydd cynlluniau uchelgeisiol yn dod â’r safle lleol hanesyddol yn ôl i ddefnydd y gymuned erbyn canol 2021.
Dymunwn benodi Rheolwr Gwirfoddolwyr newydd. Wrth i ni weithio tuag at agor yr adeilad newydd, bydd y Rheolwr Gwirfoddolwyr yn cefnogi a chymell tîm o Lysgenhadon Creadigol Gwirfoddol o’r gymuned leol fydd yn llunio a bwydo i mewn i’r rhaglen newydd o weithgaredd a chyfrannu at ddatblygu a lansio digwyddiadau o amgylch agor adeilad PYMCA.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes amlwg o lwyddiant mewn recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, a chysylltu gyda’r gymuned i gefnogi newid cadarnhaol.
Mae hwn yn gyfle i weithio gyda sefydliad ar gyfnod cyffrous o’i ddatblygiad, gan edrych ar wneud cyfraniad cadarnhaol i iechyd a llesiant ei gymuned yn ogystal â chefnogi ffyniant economaidd-gymdeithasol.
Cyflog: £ 26k (pro rata)
Lleoliad: Hyblyg/ Tŷ JR D6, Stad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd
Oriau: 30 awr yr wythnos (rydym yn agored i weithio hyblyg a chais am ostwng oriau)
Hyd Contract: 6 mis
Dyddiad Cau: Dydd Sul 29 Tachwedd 2020
Dyddiad Cyfweliadau: wythnos dydd Llun 7 Rhagfyr 2020*
*Cynhelir cyfweliadau yn rhithiol drwy Zoom.
I wneud cais am y swydd hon, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd llawn cyn e-bostio CV a llythyr egluro at: samantha@artiscommunity.org.uk
Gweithredwn Bolisi Recriwtio Cyfle Cyfartal a choresawn geisiadau yn Gymraeg neu Saesneg gan bob adran o’r gymuned. Rydym yn annog ceisiadau yn neilltuol gan gymunedau Du, Asiaidd a diwylliannol wahanol sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein sefydliad ar hyn o bryd.