Platfform digidol arloesol yn lansio - 75 sianelau o gynnwys diwylliannol o Gymru

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 9 March 2020

Ffilmiau. Fideos. Cerddoriaeth. Celf, Llenyddiaeth.

Dyma y math o gynnwys y bydd cynulleidfaoedd yn ei ddarganfod ar AM, cymuned ddigidol newydd fydd yn blatfform agored, democrataidd, diwylliannol gyda'r nôd o adlewyrchu ecosystem artistig gwlad gyfan. Platfform fydd â phwyslais ar ddarganfod, cysylltu a rhannu tra'n rhoi llwyfan i leisiau, o bosibl anadnabyddus, newydd: byd newydd i genhedlaeth newydd o grewyr a defnyddwyr.

Yn ôl yr actor Rhys Ifans " Mae’n wych gweld platfform fel AM yn rhoi gofod amgen i grewyr Cymru ymgynnull, rhannu a chydweithio."

O Ddydd Llun, Mawrth 9ed mae sianelau yn cael eu creu ar y platfform, fydd yn wefan ac yn app, mewn pump adran wahanol - Gwrando, Gwylio, Geiriau, Gwyliau a Gigs. Bydd pob sianel yn gyfle i ddarganfod rhai o'r elfennau sydd yn cyfrannu at fwrlwm creadigol y Gymru gyfoes. 75 o sianelau yn cynrychioli bydoedd cerddoriaeth, ffilm, llenyddiaeth, celf a theatr yn rhannu gwaith hen a newydd. Dros y misoedd nesaf bydd degau o sianelau newydd a sawl diweddariad meddalwedd yn dilyn.

Yn cychwyn y cwbwl bydd ffilm newydd y Manics Street Preachers a'r cyfarwyddwr Kieran Evans, sydd wedi dewis AM - yn hytrach na phlatfformau fel Netflix ac Amazon - fel y platfform ar gyfer dangosiad cyntaf y ffilm ar y wê. Yn dilyn taith ddiweddar o sinemau bydd Be Pure, Be Vigilant, Behave i weld ar AM o ddydd Gwener, Mawrth 13.

Dywedodd James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers "Rydym wrth ein boddau y bydd ein film Be Pure, Be Vigiliant, Behave - wedi ei saethu a'i gyfarwyddo gan Kieran Evans ynghyd â chymysgu sain grymus Dave Eringa - yn cael ei ddangos am y tro cyntaf ar y wê ar AM: platfform blaengar ac allweddol i ddathlu diwylliant Cymreig. Mwynhewch y ffilm, mwynhewch AM."

Wedi ei ddatblygu gan PYST mewn partneriaeth â Tramshed Tech, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a nawdd Prifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gweledigaeth AM yw gallu rhannu - yn genedlaethol a rhyngwladol - gwaith newydd ar draws ystod eang diwylliant Cymreig gan ddefnyddio y platfform cyntaf agored a phwrpasol i'r diben hwnnw.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon. Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas “Rydym wastad wedi bod yn genedl o storïwyr. Cafodd ein meddyliau creadigol eu hogi drwy rannu straeon o’r naill genhedlaeth i’r llall – mewn geiriau, delweddau a chân. Heddiw, efallai bod y dechnoleg wedi newid ond yr un yw’r nod: defnyddio ein sgiliau creadigol er mwyn ymwneud â phobl, rhannu syniadau, difyrru a hysbysu – bydd AM yn dod yn llwyfan i dalent creadigol Cymru ac rydym yn hynod o falch o allu cefnogi ei ddatblygiad.”

Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST “Dyhead AM yw bod yn gyrchfan ddyddiol i bawb fynd i weld creadigrwydd Cymru gyfan. Ffilmiau newydd, cerddoriaeth newydd, celf newydd, llên newydd, syniadau newydd, ysbrydoliaeth newydd - gofod newydd fydd gobeithio yn adlewyrchu hyder creadigol Cymru a gofod y gall pobol ymgolli ynddo am oriau. Mae'n ofod newydd fydd yn tyfu wrth i fwy o bobl ei ddefnyddio.

“Mae'r wê wedi mynd yn lle tywyll, lle â all gael effaith negyddol niweidiol ar iechyd meddwl a hyder artistig. Ein nod yw adeiladu cymuned gynhwysol, ddemocrataidd fydd ar agor i bawb - yn arbennig pobl ifanc. Gofod cefnogol i artistiaid sydd yn creu mewn gwahanol ffyrdd, ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau neu yrfa, beth bynnag eu cefndir.

“Os ydych chi yn berson 16 oed mewn unrhyw ran o Gymru mae'n debygol eich bod yn ffrydio artistiaid Cymreig fel Tri Hwr Doeth neu My Name Is Ian ar Spotify, yn treulio oriau yn edrych ar Netflix a YouTube bob dydd ond mae'n ddigon posibl nad ydych yn cynnwys y 'cyfryngau traddodiadol' yn rhan o'ch bywyd dyddiol. Mae AM yn cynnig cyfle i'r holl fydoedd yma gydfyw a chreu cynulleidfa newydd ac mae hynny gobeithio yn atyniadol i bawb."

Wrth drafod lansiad AM, dywedodd Louise Harris, Prif Weithredwr Tramshed Tech "Yma yn Tramshed rydym yn gyson edrych am gyfleodd i weithio gyda thalentau gorau lleol Cymru a darganfod ffyrdd lle gall gwasanaethau a chynnyrch blaengar gyrraedd marchnad genedlaethol a rhyngwladol. Dyna pam yr ydym mor gyffrous i gefnogi platfform dosbarthu cynnwys AM - yn mynd â'r gorau o Gymru i'r byd."

Un sianel fydd yn fyw ar AM heddiw yw Iris Prize Festival, gwyl ffilm LGBT flynyddol yng Nghaerdydd. Mae Berwyn Rowlands, cyfarwyddwr yr ŵyl, yn edrych ymlaen i ddefnyddio'r platfform i rannu cynnwys unigryw fel cyfweliadau, rhagflasiau a chlipiau 'tu ôl i'r llen.'

"Rydym yn gyson edrych am ffyrdd i ehangu'r gynulleidfa ar gyfer straeon LGBT. O'r eiliad y clywsom am AM roeddem yn gyffrous ac yn sicr bod rhaid i ni gael presenoldeb ar y platfform. Rydym yn edrych ymlaen o ganlyniad, i gyflwyno cynulleidfa newydd i ffilmiau byrion Iris drwy AM."

Mae Efa Lois, artist o ganolbarth Cymru sydd wedi ei hysbrydoli gan 'bositifrwydd, gwrachod, ffrogiau o'r 70au ac ychydig bach o chwedloniaeth'  yn credu y gall y platfform ei helpu hi, ac artistiaid tebyg, ddatblygu crefft a gyrfa: "Mae AM yn gyfrwng newydd a blaengar i rannu a darganfod gwaith creadigol a chyffrous o Gymru, a dwi'n hapus iawn i fod yn rhan o'r gymuned!"

Ond nid cartref i waith newydd fydd AM. Mae Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru yn gyffrous am y posibliadau y mae AM yn ei gynnig i drysorfa lenyddol hen a newydd Cymru. Mae hi yn argyhoeddiedig y gall y platfform helpu i ddarganfod clasuron llên y gorffennol yn ogystal â chyflwyno cynulleidfa newydd i lyfrau'r dyfodol.

Yn ôl Helgard Krause "Mae'r platfform celfyddydol newydd hwn yn ddatblygiad cyffrous, ac edrychwn ymlaen i gydweithio yn y dyfodol wrth i ni ddathlu a hyrwyddo ystod eang y Celfyddydau yng Nghymru."

5 sianel i'w darganfod
 

  1. Larynx Entertainment - Platfform i hyrwyddo cerddoriaeth 'urban' Gymreig. Darn Allweddol: MC Agent Orange a'i rap dau funud ar rwystredigaethau bywyd.
  2. Taking Flight - grwp theatrig ieuenctid sydd wedi teithio Ewrop ar gyfer y byddar a'r trwm o glyw. Darn Allweddol : Rhagflas o Peeling - sioe o 2019
  3. O'r Pedwar Gwynt - cyfnodolyn wythnosol arlein a theirgwaith y flwyddyn fel cylchgrawn print sydd yn cwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a'n lle yn y byd. Darn Allweddol: Adolygiad o arddangosfa Seren Morgan Jones 'Cerys Mewn Versace' yn Oriel Ffin y Parc gan Esyllt Lewis.
  4. NAWR - Cyfres o gyngherddau amlddawn arbrofol yn Abertawe o gerddoriaeth byrfyfyr, ffilm, jazz, celf, gwerin a cherddoriaeth newydd. Darn Allweddol: perfformiad byw ar y ffliwt gan Emma Coulthard o Planxty gan Fergus Johnson.
  5. Focus Wales - gŵyl flynyddol nid-er-elw yn cael ei chynnal mewn amrywiol leoliadau yn Wrecsam bob gwanwyn. Mae dros 250 o artistiaid o bob cwr o'r byd yn chwarae ar draws dros 20 o lwyfannau ynghyd a gweithdai rhyngweithiol am y diwydiant cerddoriaeth. Darn allweddol: Uchafbwyntiau o lwyfan Focus yng nghwyl SXSW, Texas llynedd.

Mae AM am ddim ac ar gael i'w lawrlwytho nawr drwy storfa Apple a Google Play. www.amam.cymru/ambobdim. Mae hefyd yn wefan - www.amam.cymru

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event