Opera Cenedlaethol Cymru yn Lansio Podlediad Newydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 12 June 2020

 

  • Bydd y Cwmni yn cyhoeddi dwy gyfres yn Gymraeg a Saesneg
  • Bydd y cyfresi yn cynnig cipolwg ar fyd opera i'r rhai sy'n anghyfarwydd ag ef, a chefnogwyr brwd, fel ei gilydd
  • Defnyddiwyd technoleg ddigidol i gynhyrchu'r cyfresi yn unol â mesurau cyfyngiadau symud

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn lansio podlediad newydd gyda dwy gyfres; un Saesneg - The O Word - ac un yn Gymraeg - Cipolwg.

Mae'r podlediad newydd yn cael ei lansio i ddarparu cipolwg ar gwmni opera teithiol sy'n gweithio ar raddfa ryngwladol, a thynnu sylw at berthnasedd opera heddiw a'r pŵer sydd ganddi i newid bywydau.  Bydd y ddwy gyfres yn ymchwilio i waith ac effaith ehangach y Cwmni, ar y llwyfan ac yn y gymuned ehangach, yn ogystal ag edrych ar bynciau megis y manteision o ganu i bawb, a beth sydd ei angen i fod yn ganwr opera. 

Bwriad y ddwy gyfres yw dod â gwrandawyr yn agosach at y bobl y tu cefn i WNO a'r byd operatig ehangach, a bod yn ffynhonnell wybodaeth ac adloniant i'r rhai sy'n caru opera a'r rhai sy'n newydd i'r gelfyddyd.

Cyflwynir y cyfresi ar ffurf 'sioe sgwrsio', gan gynnwys cyfweliadau, ffeithiau, ymddangosiadau, cipolwg y tu cefn i'r llen a hanesion o fyd opera a thu hwnt.  Bydd y penodau ar gael yn wythnosol, gyda'r rhai cyntaf yn lansio ar 11 Mehefin.

Cyflwynir The O Word gan Gareth Jones, newyddiadurwr â diddordeb mawr mewn opera.  Yn ystod y gyfres, bydd Gareth yn llywio'i ffordd o amgylch byd cwmni opera teithiol, ac yn siarad â'r rhai blaenllaw wrth geisio ateb rhai o'r cwestiynau cyffrous yn ymwneud ag opera, trafod materion cyfoes a dyfodol opera.  Bydd y gyfres yn cynnwys cyfweliadau gyda chantorion ac unigolion allweddol ym myd y celfyddydau a thu hwnt, a bydd y bennod gyntaf yn cynnwys cyfweliad gyda Gwyn Hughes Jones, y tenor o Gymru sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.

Gan gadw at y mesurau presennol ar gyfarfodydd a pherfformiadau cyhoeddus, bydd The O Word yn archwilio'r heriau presennol o fewn y diwydiant, ac yn myfyrio ar sut fydd opera yn edrych yn y dyfodol.

Bydd y gyfres Gymreig, Cipolwg, yn cael ei chyflwyno gan y digrifwr a'r newyddiadurwr Lorna Prichard, sydd wedi bod â diddordeb gydol oes mewn opera ers iddi weld ei hopera gyntaf yn chwech oed yn y Rhyl.  Bydd y gyfres yn darparu 'cipolwg' ar fyd opera, a bydd Lorna yn sgwrsio â chantorion, arweinwyr, arbenigwyr ac aelodau'r gynulleidfa ac yn archwilio byd rhyfedd a gwych opera a cherddoriaeth glasurol.  Bydd y gyfres yn dangos y gwaith caled sy'n digwydd wrth greu opera, yn ogystal ag edrych ar yr effaith ehangach mae cwmni opera yn ei chael ar y gymuned.

Llwyddwyd i recordio'r cyfresi gan lynu at fesurau pellhau cymdeithasol a'r cyfyngiadau gan ddefnyddio llwyfannau digidol.  Mae WNO wedi gweithio'n agos â stiwdio recordio Tŷ Cerdd, gyda chynhyrchwyr a pheirianwyr yn gweithio o bell i gynorthwyo gyda'r broses olygu.

Dywedodd Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO: "Mae ein podlediad wedi bod yn yr arfaeth ers misoedd, a phan ddaeth y mesurau i rym, roeddem yn meddwl y byddai'n rhaid i ni roi'r gorau i'r gwaith cynhyrchu. Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu digidol ac ewyllys da ein cynhyrchwyr a chyfwelwyr, yn ogystal ag arbenigedd gan Dŷ Cerdd, i barhau â'r gwaith cynhyrchu. Yn y pen draw rydym yn gobeithio ein bod wedi cynhyrchu dwy gyfres o bodlediadau cadarnhaol y bydd y gwrandawyr yn eu mwynhau nawr ac yn y dyfodol."

Dywedodd Gareth Jones: "Mae The O Word yn cynnig cipolwg ar fyd opera yn ei gyfanrwydd; nid y cynyrchiadau yn unig, ond sut mae opera yn gweddu i fyd heddiw, ar y llwyfan ac oddi arno. Rwy'n gobeithio y bydd y podlediad yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n awyddus i archwilio opera yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac y byddant yn mwynhau gwrando ar y sioe cymaint ag y rwyf innau wedi mwynhau ei gwneud."

Dywedodd Lorna Prichard: “Bydd Cipolwg yn gadael i bobl weld y byd opera o safbwynt cefnogwr opera brwd (fi!). Yn wahanol i'r rhan fwyaf o bobl, nid wyf yn ysu am weld bandiau mewn cyngherddau, yn hytrach, rwy'n mwynhau operâu ac rwy'n ceisio eu gweld dro ar ôl tro! Hefyd, rwyf bob amser yn edrych ymlaen at ddod o hyd i weithiau a chynyrchiadau newydd, a dysgu mwy. Yn wir, mae hon yn swydd ddelfrydol i mi. Gyda lwc, byddaf yn creu cefnogwyr newydd ar gyfer y gelfyddyd arbennig hon ar hyd y daith!"

Byddwch yn gallu lawrlwytho'r podlediad o nifer o gyfarwyddiaduron podlediadau, yn cynnwys Spotify, Apple Podcasts a Google Podcasts yn ogystal â gwefan WNO. 

wno.org.uk

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event