Mae pensaernïaeth Caerdydd yn gybolfa fendigedig o bob arddull o Rufeinig i fodernaidd crai, felly does gan Gaerdydd ddim ‘arddull’ pensaernïol mabwysiedig mewn gwirionedd. Yn hytrach, mae’r ddinas yn pentyrru gwahanol ddylanwadau ar ben ei gilydd, gan godi fflatiau moethus hufen a gwydr nesaf at adeiladau carreg rhestredig.

 

Er efallai fod y weledigaeth bensaernïol yn teimlo braidd yn ddryslyd, mae’n adlewyrchiad o ehangder croeso’r ddinas: i ddiwylliannau newydd, bwydydd newydd, pobloedd newydd, a all ddod i mewn o bobman, a chyn hir teimlo’u bod yn perthyn, yn rhannol o leiaf, i Gaerdydd.

 

A rhwng llawer o’r adeiladau newydd hyn, gallwch ddal i weld olion hanes hir a gogoneddus Caerdydd, yn bennaf yn y llefydd lle aiff pobl i gael hwyl a sbri neu i yfed.

 

Heol Eglwys Fair yw’r ganolfan yfed enwog, gyda bron 300 o dai trwyddedig wedi’u gwasgu i mewn i’r filltir sgwâr (y crynodiad mwyaf yng ngwledydd Prydain). Ond os edrychwch y tu hwnt i (ac uwch ben) y bariau cadwyn, fe welwch rodfa lydan, â llawer o adeiladau crand a godwyd yn y 1880au.

 

Nid nepell o’r orsaf, saif hen Neuadd y Philharmonic yn wag, nesaf at y Sgwâr, a thafarn Prince of Wales Wetherspoons. Bydd honno’n orlawn ar benwythnosau, ond mae’n werth cymryd cipolwg i mewn gan ei bod wedi’i haddurno er cof am safle’r Theatr Newydd Frenhinol lle mae’n sefyll. Ychydig i fyny’r stryd mae Café Jazz yn ganolfan flaenllaw i gerddoriaeth blues a jazz.

 

Tua’r gogledd, mae Marchnad Dan-do Caerdydd yn adeilad rhestredig arall yn y canol yn gwerthu popeth o bysgod i bice ar y maen ac o ffabrigau o gesys ffôn symudol. Ac wedyn dyma Gastell Caerdydd ei hun: garsiwn Rhufeinig, cadarnle Normanaidd – ffantasi gothig, wedi’i amgylchynu gan fur yn gyforiog o anifeiliaid carreg i warchod y lle.

 

Gyferbyn â’r castell, Stryd Womanby yw cartref cerddoriaeth amgen y ddinas, lle ceir canolfannau fel Clwb Ifor Bach (neu’r ‘Clwb Cymraeg’), The Full Moon a The Moon Club, Urban Tap House a Dempseys. Yn y canolfannau hyn cewch weld y gorau o ddoniau cerddorol newydd a dyma lle cynhelir gŵyl Sŵn bob blwyddyn, sef dathliad cerddorol blynyddol aml-leoliad Caerdydd. Yn ddiweddar, agorwyd ‘Castle Emporium’ Stryd Womanby – hen sinema sydd wedi’i droi’n farchnad i werthwyr ffasiynau clasurol a chyfoes o bob rhan o’r ddinas.

 

Y tu allan i Stryd Womanby, mae gan ganol y ddinas leoliadau eraill fel Gwdihŵ, sy’n gartref i gerddoriaeth o bob math a chwis cerddorol misol sy’n prysur ddod yn sefydliad yn y ddinas. Wedyn dyna ichi Porter’s, canolfan sy’n cymryd ei hysbrydoliaeth gan gynllun theatr, a chartref hefyd i unig theatr dafarn Caerdydd, The Other Room. Mae’r Abacus, gofod celfyddydau dan reolaeth y gymuned, i’w ganfod yn hen swyddfa docynnau Bysus Caerdydd ac erbyn hyn mae’n cynnal amrywiaeth o arddangosfeydd a pherfformiadau.

 

O ran theatr, mae Neuadd Dewi Sant a’r Theatr Newydd yn ganolfan i berfformiadau a sioeau theatr teithiol, ac yn Neuadd Dewi Sant y cynhelir cystadleuaeth enwog y BBC, Canwr y Byd, Caerdydd. Mae theatr Sherman Cymru hefyd yn cynnal cynyrchiadau mwy lleol, arloesol.

 

Mae Caerdydd fel dinas yn adnabyddus am ei harcedau siopa Edwardaidd a Fictorianaidd dan-do, efallai am ei bod hi’n glawio cymaint yma! Mae sawl arcêd yn adeiladau rhestredig Gradd II sy’n dyddio yn ôl i ganol y 19eg ganrif: gallwch dreulio oriau lawer ym mhob un ohonynt. O fewn yr arcedau fe welwch siopau ffasiynau clasurol anghyffredin fel Blue Honey, Spillers (sy’n honni bod y siop recordiau hynaf yn y byd), yn ogystal â llefydd bwyd, bara a chacennau lleol anhygoel.

 

Wrth fynd tua’r gorllewin o ganol y ddinas fe welwch fenter newydd y Tramshed, yn ogystal â chanolfannau celfyddydau Treganna: Canolfan Gelfyddydau Chapter, Neuadd Llanofer, The Printhaus, a Bragdy Pipes lle ceir digwyddiadau achlysurol/misol. Un o ganolfannau mwyaf newydd y ddinas yw’r Tramshed, sydd wedi troi’r hen storfa dramiau yn ganolfan ddigwyddiadau, oriel a gweithle. Mae canolfan gelfyddydau Chapter yn gartref i gwmni theatr plant Cymru, Theatr Iolo, a llu o fusnesau a sefydliadau creadigol eraill ynghyd â sinema ac orielau. Canolfan gymunedol a redir gan y cyngor yw Neuadd Llanofer, ac mae’n cynnig cyrsiau creadigol i oedolion ym maes celfyddydau cain a ffotograffiaeth. Mae’r Printhaus yn un o brif ganolfannau celfyddydau gweledol y ddinas, yn cyfuno mannau gweithio â dosbarthiadau mewn technegau fel sgrin-brintio.

 

Ym Mae Caerdydd, wrth grwydro pen deheuol Stryd Bute fe welwch adeiladau godidog fel Portland House (a drowyd yn lleoliad digwyddiadau’n ddiweddar), ac adeilad hen Fanc y National Westminster. Caeodd y Banc ym 1999, ond yn 2009 adnewyddwyd ei hen ddaeargelloedd aur a’u hagor fel gofod rêfs tanddaearol – yn llythrennol – i glybwyr Caerdydd (The Vaults).

 

Ymhlith yr adeiladau nodedig eraill yn y bae mae eicon y celfyddydau, Canolfan Mileniwm Cymru, cartref sawl sefydliad celfyddydol cenedlaethol gan gynnwys Cyngor y Celfyddydau, yr hen Eglwys Norwyaidd hudolus (man addoli rheolaidd Roald Dahl a’i deulu) sy’n cyfuno oriel a lle perfformio â chaffi a’i waliau’n drwch o luniau o dir Norwy, adeilad hynod fodern y Senedd, adeilad brics coch y Pierhead, a phentref drama newydd y BBC, Porth Teigr.


Mae Morglawdd Bae Caerdydd yn gampwaith peirianyddol arall cymharol ddiweddar – cerddwch ar ei draws a mwynhau twyll llygad ‘Cylchoedd y Morglawdd’. Ar draws y morglawdd gallwch weld tref lan môr gyfareddol Penarth, lle cewch fwynhau’r caffi, ystafell arddangos a sinema ar Bier Penarth sydd newydd ei adnewyddu.

Fffoto - Flickr Wojtek Gurak

Share