Jeremy Huw Williams

Mae’r prosiect hwn yn adrodd fy stori ddiwylliannol bersonol i am Gaerdydd yn y ffordd orau y gallwn, drwy ganeuon Cymraeg. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 September 2020

Dewch o hyd i'r disgrifiad clywedol isod a chliciwch CC ar y fideo er mwyn dewis isdeitlau Cymraeg neu Saesneg. 

Mae’r prosiect hwn yn adrodd fy stori ddiwylliannol bersonol i am Gaerdydd yn y ffordd orau y gallwn, drwy ganeuon Cymraeg, gyda’r lleoliadau eiconig sydd wedi bod yn rhan o’m gyrfa yn y cefndir.  Nathan James Dearden, y cyfansoddwr ifanc a thalentog a addysgwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n gyfrifol am y trefniant lleisiol a phiano.  Paula Fan sy’n chwarae’r piano. 

Roedd mynd i’r capel yn rhan bwysig o’m mywyd cynnar, felly mae’n briodol mai yng nghapel lleol Stiwdio Acapela y recordiwyd y sain a’r fideo.  Hefyd, buom ar leoliad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Neuadd Dewi Sant, yr Eglwys Norwyaidd, y Theatr Newydd, Amgueddfa Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Chastell Caerdydd, sydd i gyd yn fannau arbennig lle rwyf wedi perfformio. 

Ymunais â chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn 1992 ac rwyf wedi perfformio 70 o rolau ar lwyfannau ledled y byd.  Yn 1993, cynrychiolais Gymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd.  Fel bachgen ysgol cofiaf gyffro’r prawf acwstig yn Neuadd Dewi Sant, gyda gynau yn cael eu tanio yn yr awyr o’r llwyfan.  Cofiaf wefr camu ar lwyfan y Theatr Newydd am y tro cyntaf fel unawdydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru.  Yn 2004 roeddwn i’n unawdydd gydag Opera Cenedlaethol Cymru yng ngala agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru.  Cymraeg yw fy iaith gyntaf a Chaerdydd yw canolbwynt fy mywyd diwylliannol. 

Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Jeremy Huw Williams: 

I wybod mwy am Jeremy Huw Williams a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event