Mae S4C yn chwilio am Ddatblygwr Gwe i ymuno â’u tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am wneud gwaith datblygu fel rhan o strategaeth ddigidol S4C.
Bydd eich gwaith yn ymwneud yn bennaf â datblygu S4C Clic, gwella profiad y gwyliwr a chyflwyno nodweddion newydd ynghyd â datblygu platfformau a gwasanaethau newydd.
Byddwch yn gallu dangos bod gennych brofiad o weithio mewn rhaglennu gwefannau, yn benodol JavaScript, a gwybodaeth fanwl o HTML/CSS.
Os ydych yn dda am ddadansoddi a datrys problemau, os oes gennych wybodaeth am hygyrchedd gwefannau yn ogystal â gwybodaeth sylfaenol o optimeiddio peiriannau chwilio, yna fe hoffem glywed gennych.
Lleoliad: Swyddfa S4C Caerdydd neu Caerfyrddin. Mae S4C hefyd yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg
Cyflog: £32,000 - £40,000 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 35.75 awr yr wythnos
Cyfnod Prawf: 6 mis
Pensiwn: Cynllun Pensiwn Personol y Grŵp. Bydd y cyflogwr yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar 17 Medi 2020.
Nid ydym yn derbyn CV.
Cynhelir cyfweliadau o bell naill ai drwy Zoom neu Skype.