Cysylltu'r Dotiau 2020

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 October 2020

Joining the Dots logo

Dr Jenny Kidd o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant: 

Mae tîm Caerdydd Greadigol yn mapio twf rhwydweithiau creadigol yn y deyrnas hon a’r tu hwynt iddi ers rhai blynyddoedd bellach i ddysgu rhagor am eu tarddiad a’u posibiliadau yn rhan o’r ecosustem greadigol. Mae rhwydweithiau o'r fath yn haeddu sylw gan eu bod yn cynnig cyfleoedd pwysig i ymgysylltu, rhyngweithio, meithrin gallu a chyfnewid yn ogystal â chyflawni swyddogaeth lobïo hanfodol ar bob lefel, yn aml.  

Yn ystod cyfarfod Joining the Dots ar 30ain Medi, daeth cynrychiolwyr rhwydweithiau ledled y deyrnas ynghyd ar y we i sôn am hwyluso gweithgareddau creadigol yn eu bröydd a rhai meini tramgwydd perthnasol. Diben seminar undydd Caerdydd Greadigol ar y we oedd cyfleu darlun o sefyllfa rhwydweithiau creadigol dinasoedd a threfi ar hyn o bryd, trafod achosion a sbarduno ffyrdd newydd o ymgysylltu â chymunedau a budd-ddalwyr. 

Screenshot of Joining the Dots conference

Prif nod y seminar oedd lledaenu canfyddiadau ymchwil ddiweddaraf Marlen Komorowski a Sara Pepper am swyddogaethau a chynaliadwyedd rhwydweithiau creadigol. Gan fod bwriad i gyhoeddi’r canfyddiadau cyn bo hir, fydda i ddim yn eu trafod yn fanwl yma ond, yn hytrach, galla i roi cipolwg ar y cyflwyniadau a’r trafodaethau eraill. Soniodd Clive Gillman, Cyfarwyddwr Diwydiannau Creadigol Creative Scotland am y ffordd maen nhw’n ymgysylltu â rhwydweithiau a'r prif egwyddorion sy’n cyfeirio eu gwaith. Gan gynnwys ffordd benodol o drin a thrafod gwerth mewn cyd-destunau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd. Fe roes cynrychiolydd pob rhwydwaith grynodeb o’i ymdrechion a’i fentrau megis rhaglenni mentora, mannau gweithio a grantiau bychain ar gyfer cydweithio.    

Daeth i'r amlwg fod gan y rhwydweithiau lawer yn gyffredin er gwaethaf eu gwahaniaethau o ran strwythurau, ardaloedd ac adnoddau. Covid-19 a’r ansicrwydd cysylltiedig yw problem fwyaf y rhwydweithiau i gyd ar hyn o bryd, wrth gwrs. Roedd pawb o’r farn, fodd bynnag, fod galluoedd mwyaf hanfodol y rhwydweithiau (ymaddasu, bod yn effro i anghenion yr aelodau a’r cryfder i eirioli ar eu rhan) wedi’u mireinio wrth ymateb i’r sefyllfa. Y farn oedd bod y pandemig wedi cryfhau'r ddadl o blaid rhwydweithiau o’r fath. Meddai Huw Thomas (Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd) ddechrau'r dydd, “Yn ystod y misoedd diwethaf hyn, rydyn ni wedi gweld bod gwir angen y celfyddydau ar bobl.” 

Yn ystod ein trafodaethau, roedd digon o oleuni, creadigrwydd a charedigrwydd. Roedd canu godidog, myfyrio meddylgar a chyfeillgarwch. Dywedodd Cyfarwyddwr Caerdydd Greadigol, Sara Pepper, tua diwedd y dydd fod awyrgylch ein trafodaethau wedi bod bron mor gynnes ac agored â’r hyn y gallen ni fod wedi’i brofi pe bai pawb yn yr un ystafell. 

Cymerodd cynrychiolwyr y rhwydweithiau creadigol canlynol ran ar y we: Bristol CreativesBristol Creative Industries, Sir Gâr Greadigol, Pontypridd Greadigol, Creative DundeeCreative EdinburghCreative KernowCreative LancashireCreative LeicestershireCreative ManchesterCulture Central BirminghamCreative Quarter Nottingham.  

At hynny, bu cynrychiolwyr Cyngor Caerdydd, Creative England, Adran Materion Diwylliannol, y Cyfryngau a’r Chwaraeon, Creative Scotland, Cymru Greadigol, Innovate UKNESTA, Canolfan Polisïau a Thystiolaeth a Rhaglen Clystyrau'r Diwydiannau Creadigol

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event