Creu dyfodol ar gyfer Caerdydd: COVID-19 a’r Tu Hwnt

16/09/2020 - 15:00
Online
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Tra’n bod ni yng nghanol pandemig byd-eang COVID-19, mae trafodaethau’n digwydd ar draws y Deyrnas Unedig, Ewrop a gweddill y byd ynghylch sut le fydd y ddinas yn ystod ac wedi’r pandemig.  Mae hanes a gwyddoniaeth yn ein dysgu nad yw firysau fel COVID-19 yn diflannu; yn hytrach, maen nhw’n amlygu ein perthynas, sy’n aml yn ddiffygiol, â gweddill byd natur. 

Yn y cyd-destun hwn, sut gallwn ni greu dyfodol Caerdydd, yn awr ac yn y dyfodol?

Mae’r drychineb ofnadwy rydym ni’n byw drwyddi mewn gwirionedd yn gyfle i ni oedi, myfyrio a bod yn ddigon dewr - trwy edrych yn fanwl arnom ein hunain a meddwl gyda gweledigaeth - i greu dyfodol gwirioneddol drawsffurfiol i Gaerdydd.  Os ydym ni o ddifri ynghylch newid gwirioneddol, sut gallwn ni fanteisio ar y cyfle hanesyddol hwn i adeiladu ar ymdrechion presennol, cynhyrchu ffyrdd newydd o feddwl a chreu arferion cydweithredol sy’n arwain at ddinas sydd wedi ei gwella’n radical ar gyfer ei holl ddinasyddion?

Yr Athro Aseem Inam, Cadeirydd Dylunio Trefol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr ar TRULAB: Mae’r Labordy ar gyfer Dylunio Trawsffurfio Trefol, a meddylwyr creadigol a beirniadol blaenllaw eraill o Gaerdydd, yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar gyfer gweithdy rhyngweithiol er mwyn ymchwilio i sut gallem ni greu dyfodol i Gaerdydd.   

Gyda’n gilydd, byddwn ni’n archwilio sut gallwn ni ddefnyddio ein potensial ar y cyd i rymuso creadigrwydd a dylunio lleoedd i’r dyfodol. cyfleoedd economaidd i’r dyfodol, rhwydweithiau i’r dyfodol a chymunedau i’r dyfodol, gan ddechrau ar unwaith. 

Ymunwch â ni yn y gweithdy trwy gadw lle yma: https://cardiff.zoom.us/meeting/register/tJYrfu6hqjosHdcERa3tnXy3XVzn0QOPBvo1

I roi gwybod i ni sut gallem ni wneud y digwyddiad ar-lein yn hygyrch i chi, cysylltwch â creativecardiff@caerdydd.ac.uk 

Rhagor o wybodaeth am y sawl sy’n cyfrannu at y gweithdy

Yr Athro Aseem Inam

Headshot of Professor Aseem InamMae Dr. Aseem Inam yn actifydd/ysgolhaig/ymarferydd sy'n Athro ac yn Gadeirydd Dylunio Trefol ym Mhrifysgol Caerdydd yn y DU, ac yn Gyfarwyddwr Sefydlu TRULAB: Labordy ar gyfer Dylunio Trawsffurfio Trefol, arfer arloesol seiliedig ar ymchwil. Yn flaenorol roedd yn Ysgolhaig Nodedig John Bousfield ym Mhrifysgol Toronto yng Nghanada, a Chyfarwyddwr Sefydlu Rhaglen Raddedig Ymarfer Trefol arloesol tu hwnt yn y Parsons School of Design yn Efrog Newydd. Mae'n awdur ar nifer o erthyglau arobryn, adroddiadau proffesiynol, a dau lyfr, Planning for the Unplanned a Designing Urban Transformation, ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei drydydd llyfr ynglŷn â dinas yr 21ain canrif. Mae wedi ymarfer fel trefolydd ym Mrasil, Canada, Ffrainc, Groeg, Haiti, India, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau. Mae'n olygydd gwadd ar gyfer rhifyn arbennig o'r enw "Creating a More Equitable City: Alternative Narratives of Spatial Production" ar gyfer y cyfnodolyn rhyngwladol Sustainability. Ar gyfer y diweddariadau ynghylch ei waith, yn ogystal â materion sy'n ymwneud â thrawsnewidiad trefol, dilynwch ef ar Twitter.

 Adeola Dewis

Adeola Dewis headshotRwy'n arlunydd ac ymchwilydd. Yn wreiddiol o Trinidad a Tobago, mae gen i ddiddordeb mawr mewn perfformiadau defodol, gwerin a diwylliannol brodorol.
Rwy’n cael fy nenu’n arbennig at estheteg perfformio yng Ngharnifal a dawnsiau masgiau Trinidad a’r ffyrdd posib y mae dealltwriaeth o’r rhain a mathau eraill o berfformiadau rhyddfreiniol, yn berthnasol i greu celf neu gyflwyno celf ar gyfer unigolion neu grwpiau sy’n cael profiad o ddadleoli a phryder cymdeithasol o fewn yr alltudiaeth.
Mae fy ngwaith yn ymgysylltu â pherfformiadau trawsnewid ac yn archwilio ffyrdd o ailgyflwyno'ch hun.

Mae fy mywyd a phrofiadau fel mam a mewnfudwr Caribïaidd wedi llywio agweddau ar fy ymarfer a fy ngwaith.

Mae’r prosiectau celf yn cynnwys:

Mark Drane - @healtharch

 Mark Drane headshotMae Mark yn ymarferydd ac ymchwilydd sy'n gweithio ym meysydd iechyd y cyhoedd a dylunio trefol.
Wrth wraidd y gwaith hwn mae creu tegwch a chefnogi pobl i gael ymdeimlad o reolaeth yn eu bywydau.  
Mae hyn yn cynnwys creu gyda chymunedau ac mae'n sylfaenol i’r syniad o greu iechyd. 

Mae Mark yn credu bod angen newid yn gyfan gwbl ein strwythurau sy'n creu ac yn rheoli'r amgylchedd trefol ar hyn o bryd. 
Mae Mark yn ymdrechu i roi'r weledigaeth hon ar waith: fel cyfarwyddwr
Urban Habitats: sy'n meithrin datblygiad ar gyfer ymarfer dylunio trefol moesegol a chreu iechyd; ac fel ymchwilydd doethuriaeth yng Nghanolfan Gydweithio Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar gyfer Amgylcheddau Trefol Iach. 

 Rabab Ghazoul 

RababMae Rabab Ghazoul yn arlunydd, curadur, a sylfaenydd/cyfarwyddwr y sefydliad Gentle/Radical yng Nghaerdydd. Bu’n gweithio am dros 20 mlynedd ar groesffyrdd celf, diwylliant, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, mae wedi pleidio achos sgyrsiau pwysig am ddadgoloneiddio a deinameg pŵer o fewn y celfyddydau yng Nghymru. Fel Cyfarwyddwr Gentle/Radical, mae'n goruchwylio prosiectau rhyngwladol, gan weithio gydag amryw o gydweithredwyr ar raglenni sy'n ymwneud â democratiaeth ddiwylliannol, cymunedau lleol ac arfer diwylliannol, a rôl strategol cyfiawnder fel ffynhonnell o iawndal.

 

Kirsten Stevens-Wood

KristenMae Kirsten yn uwch ddarlithydd ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ffurfiant, profiadau ac arbrofiaeth cymunedau bwriadol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y ffyrdd y mae cymunedau bwriadol yn meithrin ac ymgysylltu ag arbrofion cymdeithasol ac ymarferol a phrofi ffyrdd o fyw y gall, o bosib, effeithio ymarferion cymdeithasol ehangach. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys ffocws ar y broses sy'n galluogi arbrofiaeth, ar ffordd y gall fod yn 'amgen' hwyluso a gweithredu syniadau a meddyliau wtopaidd. Mae hi hefyd yn arwain grŵp ymchwil Cymunedau Bwriadol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.