Caru Grangetown 2020

19/11/2020 - 15:30
Ar-lein
Profile picture for user Vicki Ball

Postiwyd gan: Vicki Ball

A group of Grangetown residents with hands in the air outside Grange Pavilion building

Ymunwch â Phorth Cymunedol Caru Grangetown 2020 i ddathlu partneriaethau rhwng Grangetown a Phrifysgol Caerdydd ac i gynllunio ein camau nesaf. Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu Grangetown gyda gair llafar a cherddoriaeth ac yn rhannu’r newyddion diweddaraf am sut mae ein prosiectau partneriaeth fel Pafiliwn Grange wedi bod yn tyfu. Byddwn yn gofyn i chi rannu’r hyn sydd bwysicaf i Grangetown ar hyn o bryd a byddwn yn croesawu syniadau ar gyfer cryfhau ein partneriaethau. Byddwch yn cwrdd â phartneriaid Grangetown a Phrifysgol Caerdydd sydd eisoes yn cydweithio a rhannu syniadau am ffyrdd y gallwn ni weithio gyda’n gilydd.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth Caerdydd Creadigol. Gallwch ddarllen mwy am y bartneriaeth rhwng Caerdydd Creadigol a’r Porth Cymunedol yma.

Wrth i chi gofrestru gofynnir i chi ddewis pa sesiwn sgwrsio yr hoffech ymuno â hi, sy’n seiliedig ar 9 thema:

Strydoedd glân a mannau gwyrdd

Cyfathrebu heb rwystrau

Mannau cyfarfod cymunedol

Cymuned gyfeillgar a chlos

Grangetown iach a gweithgar

Mannau a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc a phlant

Parch ar y ffyrdd

Grangetown diogel

Gweithio a siopa yn Grangetown

*Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion fel Iaith Arwyddion Prydain, adrodd llais i destun, neu gyfieithu ar y pryd o Saesneg i Gymraeg, ar y ffurflen gofrestru er mwyn i ni allu trefnu cefnogaeth.*

Cynhelir y digwyddiad hwn ar declyn cynadledda fideo Zoom. I lawrlwytho Zoom ewch i: https://zoom.us/download . Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gyrchu'r platfform hwn, cysylltwch â Creativecardiff@caerdydd.ac.uk.

Bydd y sesiwn yn cael ei recordio at ddibenion mewnol yn unig er mwyn i ni ei ddefnyddio wrth gynllunio ein camau nesaf yn y bartneriaeth. Bydd yr holl drafodaethau sy’n cael eu recordio yn ddienw.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a rhannu syniadau ar gyfer ein camau nesaf.