Astudio yng Nghaerdydd

Dinas ifanc lawn bwrlwm yw Caerdydd, a pha ryfedd, gan fod un ymhob pump o’i thrigolion yn fyfyrwyr (sy’n gwneud cyfanswm o 45,000, gyda llaw). Mae hyn yn gwarantu un peth: mae Caerdydd yn lle gwych am noson allan. Bydd y myfyrwyr yn trefnu amryw o nosweithiau clybiau, gigs a mentrau creadigol yn eu hamser rhydd. Mae’n lle grêt i aros ar ôl graddio hefyd, gan gynnig cyfleon cyflogaeth da, costau byw cymharol isel, ac ansawdd bywyd braf.

 

Mae tair prifysgol yn y brifddinas: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, sy’n berchen ar gampws yn y ddinas i’w Chyfadran Diwydiannau Creadigol, sy’n ymdrin â phopeth o ddylunio a ffotograffiaeth i gynhyrchu radio a cherddoriaeth, yn adeilad yr ATRiuM sydd newydd ei ehangu. Ac mae Coleg addysg bellach Caerdydd a’r Fro, a’i 20,000 o fyfyrwyr, newydd symud i gampws gwerth £45 miliwn ar gyrion canol y ddinas.

 

Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis byw yn ardaloedd canol dinas Cathays neu’r Rhath, a’r gyntaf o’r ddwy sydd wedi profi’n fwyaf poblogaidd yn y blynyddoedd diweddar, gan mai hi sydd agosaf at gampws y brifysgol sy’n llenwi llawer o adeiladau urddasol canolfan ddinesig Caerdydd. Mae’r myfyrwyr wedi meithrin cymuned bositif yn cyd-fyw ochr yn ochr â phobl leol yn yr ardaloedd hyn. Yn y cyfamser, mae 8,300 o lefydd cysgu pwrpasol i fyfyrwyr wedi’u creu yng nghanol y ddinas ac yn y Maendy gyfagos i ateb y galw cynyddol.

 

Mae Prifysgol Caerdydd yn perthyn i Grŵp Russell, ac mae’n un o brifysgolion mwyaf poblogaidd Prydain yn ôl ceisiadau UCAS (saith gwaith yn fwy o geisiadau nag o lefydd ar gael), gan ddenu 12,000 o fyfyrwyr i Gymru o rannau eraill o Brydain yn ogystal â 6,605 o fyfyrwyr tramor i astudio yng Nghymru. Mae’n darparu rhyw 13,000 o swyddi ac yn cyfrannu £1bn i economi’r Deyrnas Unedig. Mae’r brifysgol yn bumed ymhlith prifysgolion Prydain am Ragoriaeth Ymchwil ac yn cael ei chyfrif yn gyson yn brifysgol orau Cymru.

 

Caiff Caerdydd fudd cymdeithasol ac economaidd o’i sefydliadau addysg ardderchog, a chaiff eu myfyrwyr hwythau fudd aruthrol o’u hamser yn y brifddinas. Gyda’r twf yn yr economi greadigol, mae cyfleon cynyddol i fyfyrwyr ennill profiad a swyddi yn y sector hwn.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event