Artist o Gaerdydd yn creu gwaith celf yn cofnodi hanes Pafiliwn Grange

Gwaith ar ganolfan gymunedol £1.8m, Pafiliwn Grange, yn agosáu at gael ei gwblhau ac mae Caerdydd Creadigol a Phorth Cymunedol yn datguddio poster sy'n adrodd ei stori.

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 17 August 2020

Mae ymdrechion cymuned i greu canolfan newydd lle bydd modd iddyn nhw gwrdd â'i gilydd wedi'u dathlu gyda chreu darlun a gomisiynwyd yn arbennig.

Ar ôl dros flwyddyn, mae gwaith ar Bafiliwn Grange £1.8m bron â'i gwblhau. Trefnodd prosiectau ymgysylltu'r Porth Cymunedol a Chaerdydd Creadigol i'r artist lleol Jack Skivens ddefnyddio ei dalentau i gofnodi stori'r hyn a ddigwyddodd.

Er bod agor yr adeilad wedi'i ohirio oherwydd y cyfyngiadau cyfredol, ceir cynlluniau i osod y gwaith celf mewn lle blaenllaw yn yr adeilad erbyn iddo ddechrau croesawu ymwelwyr.

Story poster

Wyth mlynedd yn ôl, cafodd grŵp trigolion Prosiect Pafiliwn Grange y syniad i ddefnyddio pafiliwn bowls Grangetown fel canolfan ar gyfer gweithredu cymunedol a lle i gael paned dda o goffi.

Gan greu partneriaeth gyda phrosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd a'r grŵp gwirfoddol Gweithredu Cymunedol Grangetown, cymerodd Prosiect Pafiliwn Grange drwydded dros dro o ddwy flynedd ar yr hen bafiliwn bowls gan Gyngor Caerdydd.

Ar ôl ymgynghori â'r trigolion penderfynwyd sefydlu canolfan gymunedol barhaol gyda llefydd i'w llogi, caffi cymunedol a man gwyrdd awyr agored gyda gardd gymunedol. Dechreuodd y bartneriaeth godi arian ar gyfer adeilad newydd yn 2016 ac yn 2019 yn dilyn rhodd o £1m gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a rhodd o £250,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymuned Llywodraeth Cymru, dechreuwyd ailddatblygu'r safle.

Cafodd y cyfnod clo effaith ar adeiladu a datblygu Pafiliwn Grange ar ei newydd wedd, ond yn ddiweddarach yr haf hwn bydd y trawsnewidiad o hen bafiliwn bowls i ganolfan gymunedol i Grangetown yn gyflawn.

Roedd y darlunydd Jack Skivens sydd wedi gweithio ar ymgyrch Achub Heol Womanby a Gwdihw yn ogystal ag i Spillers Records a WWF, yn awyddus i adrodd hanes Pafiliwn Grange drwy lygaid y rheini oedd yno ar y dechrau. Dechreuodd gyda chyfweliadau ac ymchwil i gael teimlad am y prosiect, y daith a'r bobl dan sylw.

Dywedodd Jack: "Bu'n bleser gweithio ar Brosiect Pafiliwn Grange." Mae angerdd ac ymroddiad y gymuned a fu'n rhan o'r daith wedi fy ysbrydoli. Rwyf i wedi gweithio ar y prosiect hwn yn ystod y cyfnod clo felly bu'n gyferbyniad diddorol i archwilio'r mannau hyn ar adeg pan nad oes modd i ni eu mwynhau. Mae stori'r ailddatblygu'n llawn cymeriadau lliwgar a natur bositif. Rwyf i wedi gwneud fy ngorau i ddal hanfod hyn yn y poster stori, ac mae'n llythrennol yn gorlifo wrth geisio cael popeth i mewn."

Creodd Caerdydd Creadigol, rhwydwaith sy'n cysylltu pobl sy'n gweithio yn sector creadigol Caerdydd, bartneriaeth gyda'r Porth Cymunedol yn 2020, yn seiliedig ar nod cyffredin sef ymgymryd â gweithgaredd creadigol i ddod â phobl ynghyd a gweithio i sicrhau newid cadarnhaol drwy gyfuno arbenigedd ac adnoddau'r brifysgol gyda gweithgaredd cymunedol.

Meddai rheolwr prosiect Porth Cymunedol, Lynne Thomas: "Roedd y Porth Cymunedol yn falch iawn i gael ein dewis yn bartner i Gaerdydd Creadigol yn 2020 ac wrth ein bodd i gael elwa o gomisiwn creadigol sy'n dweud stori Pafiliwn Grange, enghraifft wirioneddol o bartneriaeth yn cyflawni ar raddfa fawr. Mae'r bartneriaeth gyfan yn hoffi bwrdd stori Jack ac yn methu aros i'w weld yn cymryd ei le yn yr adeilad newydd.

"Mae Pafiliwn Grange wedi ysbrydoli, hwyluso a chynnal mynegiant creadigol drwy gydol y cyfnod peilot a hyd yn oed yn ystod y gwaith adeiladu, gydag artistiaid a thrigolion lleol yn cymryd rhan mewn prosiectau celf chwistrell a phortreadau, sydd i'w gweld yn addurno'r paneli o gwmpas y safle adeiladu.  Edrychwn ymlaen at lawer mwy o weithgareddau creadigol ym Mhafiliwn Grange a chroesawu partneriaethau creadigol."

Dywedodd Vicki Sutton, Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol: "Mae'r prosiect hwn yn ymgorffori nodau cyffredin cydweithio ac adrodd stori sy'n allweddol i Gaerdydd Creadigol ac i'r Porth Cymunedol. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda Lynne a Jack ar y prosiect hwn wedi bod yn broses greadigol hyfryd i fod yn rhan ohoni. Ein gobaith yw y bydd y poster stori'n dangos yr eiliadau pwysig ar y daith wrth i'r Pafiliwn gael ei adnewyddu ac y bydd yn adlewyrchu'r bobl a'r straeon wrth galon y gymuned."

Gallwch ddarllen mwy am y Porth Cymunedol a Phrosiect Pafiliwn Grange yma: https://www.cardiff.ac.uk/community-gateway/our-projects/community-meeting-places/grange-gardens-bowls-pavilion