Caerdydd Creadigol yn Merched Caerdydd / Nos Sadwrn o Hyd

Profile picture for user Alys Jones

Posted by: Alys Jones

Date: 12 April 2019

Mae Perfformiadau i’r Chwilfrydig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno cyfres o waith newydd beiddgar a chyffrous gan y lleisiau gorau yn theatr heddiw. Ar ddydd Iau (Ebrill 11), dychwelodd dwy sioe emosiynol i’w man cychwyn- Caerdydd, dwy sioe ddifyr  sy’n ysgogi’r meddwl. Cyflwynodd Theatr Genedlaethol Cymru’r sioeau hyn yn Stiwdio Weston, lleoliad bach sy’n creu awyrgylch o agosatrwydd rhwng y llwyfan a’r gynulleidfa. 

Mae Merched Caerdydd yn dilyn bywydau tair merch ifanc o Gaerdydd wrth iddynt geisio dod i’r afael â bywydau cymhleth gyda phob stori yn ymblethu. Mae ganddynt bersonoliaethau hollol wahanol: Mae gan Cariad y bwriadau gorau´n y byd ond ar adegau mae ei diniweidrwydd yn achosi trafferth iddi, mae Anwen yn rhoi’r argraff bod ganddi groen caled ond mae’n fregus yn ei hanfod, ac yn olaf mae’r cymeriad haerllug a breintiedig, Liberty sy´n teimlo pwysau cymdeithasol a theuluol. Er mor annhebyg y mai´r tair yn ymddangos ar y cychwyn, gwelwn gysylltiadau rhyngddynt trwy eu trychinebau, gyda chwestiynau ynglyn ag atebolrwydd a chyfrifoldeb cymdeithas i ofalu am y merched yma. 

Mae’r tair actor yn llwyddo i bortreadu cymeriadau gwahanol drwy straeon pwerus. Yr actorion yw canolbwynt y darn, a caiff hyn ei bwysleisio gan y set syml. Teimlais fel aelod o’r gynulleidfa fy mod yn cydymdeimlo â’r cymeriadau a’u straeon gwahanol a roeddwn i hefyd yn flin am eu dewisiadau.

Wedi’i ysgrifennu gan enillydd Goron yr Eisteddfod yn 2018, Catrin Dafydd, mae’r sioe yn delio hefo materion cymdeithasol cyfoes trwy hiwmor a chaledi. Mae’n cydbwyso arsylwadau doniol gyda gwirioneddau treisgar a thrist. Mae gwaith Catrin Dafydd yn unigryw, ac yn llwyddo i ddal a chyflwyno profiad cyfoes yng Nghaerdydd trwy theatr gofiadwy Cymraeg.

Yn dilyn Merched Caerdydd mae Nos Sadwrn o Hyd, sydd wedi’i ysgrifennu gan Roger Williams. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf ym 1998 yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yn Saesneg fel Saturday Night Forever, ond mae’r addasiad Cymraeg hon yn teimlo'r un mor gyfredol. Trwy ymson, mae Lee yn adrodd hanes chwerwfelys ei gariad, sy’n digwydd dros dair noson yng Nghaerdydd.

Cymera Sion Ifan y rôl o Lee fel adroddwr, ond hefyd mae’n dynwared gweddill y cymeriadau wedi’u gyfeirio at yn stori Lee. Fel cyfaill yn adrodd stori, mae’r dechneg hon yn ymgysylltu’r gynulleidfa yn bellach gyda’i geiriau, yn gwneud tro trychinebus y sioe yn fwy emosiynol. Mae’r agosatrwydd wedi’i bwysleisio gan y stiwdio glos.

Mae’r gynulleidfa yn mynd ar daith gyda Lee, yn teimlo’r cyffro o’i berthynas newydd, y lletchwithdod o ganu karaoke ar ben ei hun a’r gofid wrth i’w stori orffen. Er mae amrywiaeth o deimladau, nid yw’n sioc i symud o un i’r llall. Gan orffen gydag awgrym o hapusrwydd, mae Nos Sadwrn o Hyd yn dod â diwedd i’r noson.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno straeon tywyll a heriol trwy Merched Caerdydd a Nos Sadwrn o Hyd, dwy stori sy’n seiliedig ar wirionedd cyfarwydd – un sydd hyd yn oed yn fwy cyfarwydd i gynulleidfa yng Nghaerdydd. Nid yn unig yw eu lleoliadau’n debyg, ond hefyd eu sylwadau tywyll ar gymdeithas. Mae’r sylwadau yn hon ar gymdeithas yn canolbwyntio ar brofiad Cymraeg cyfoes, sy’n sefyll allan fel darnau unigryw a phwerus.

Mae Merched Caerdydd a Nos Sadwrn o Hyd yn mynd ymlaen tan Ebrill 13 yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae’r sioe yma gydag Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) ac mae modd dilyn ymlaen yn Saesneg trwy’r ap SIBRWD. Mae tocynnau ar gael yma. Bydd Perfformiadau i’r Chwilfrydig yn parhau tan fis Gorffennaf gydag amrywiaeth o berfformiadau gwahanol. Gallwch weld holl dymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig yma.

Directory

Join the directory

Create a directory profile to share your work and to connect and collaborate with other creatives.