Sut mae Caerdydd yn y dyfodol yn edrych?

Profile picture for user Vicki Ball

Postiwyd gan: Vicki Ball

Dyddiad: 19 October 2020

Wordcloud - What does a future Cardiff look like to you?

Ar 16 Medi 2020, daethom â'r Athro Aseem Inam, sef Cadeirydd Dylunio Trefol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr TRULAB: Labordy ar gyfer Dylunio Trawsffurfio Trefol, a meddylwyr creadigol a beirniadol blaenllaw eraill o Gaerdydd at ei gilydd, ar gyfer gweithdy rhyngweithiol er mwyn ymchwilio i sut gallem ni greu dyfodol i Gaerdydd ar ôl Covid.

Daeth y syniad ar gyfer y digwyddiad hwn o sgyrsiau gyda Grŵp Cynghori Creadigol Caerdydd sy'n cynnwys gweithwyr creadigol sy'n cynrychioli amrywiaeth o sectorau creadigol yn y ddinas. Roedd y sgwrs yn ymwneud â Chaerdydd yn y cyfnod clo ac arsylwadau am lai o geir a mwy o fywyd gwyllt ac fe arweiniodd at ofyn sut y gall/gallai Caerdydd fod yn wahanol yn y dyfodol? Sut y gellid ailadeiladu Caerdydd er gwell, ac a allem ddod â grŵp o feddylwyr creadigol o bob rhan o'r ddinas at ei gilydd i drafod y syniadau hynny mewn gweithdy?

Ein gobaith oedd y byddai profiad yr Athro Aseem o ran ymchwil ac ymgysylltu ar y pwnc hwn ac wrth esblygu'r mathau hyn o sgyrsiau, yn ein galluogi nid yn unig i drafod syniadau ond i ddatblygu ffyrdd posibl o droi'r syniadau hynny'n weithredu.

Cenhadaeth Caerdydd Creadigol yw cysylltu'r economi greadigol ar draws rhanbarth Caerdydd, gan hyrwyddo a galluogi cydweithio er budd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol a daeth y digwyddiad hwn â'r genhadaeth honno'n fyw. Hyd yn oed o fewn cyfyngiadau rhith-fan, roeddem yn gallu dod â phobl o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd i gael sgyrsiau a allai helpu i ddatblygu a hybu datblygiad y ddinas. Cawsom ein hatgoffa o werth meddwl yn greadigol a'r angen i geisio creadigrwydd mewn gweithredu.

Dyma drosolwg o sut y datblygodd y digwyddiad:

Mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli nad yw'n fater o fynd yn ôl i'r sefyllfa arferol neu hyd yn oed i sefyllfa arferol newydd, oherwydd mae’r syniad o’r sefyllfa arferol yw'r broblem, nid yr ateb

Lluniodd Aseem drafodaethau'r digwyddiad gyda chyfeiriad agoriadol a ofynnodd i ni adrodd stori newydd am COVID-19 a'r pandemig byd-eang a dychmygu 'dyfodol drwy feirniadaeth'.

Esboniodd sut y mae pandemigau yn aml wedi chwarae rhan wrth newid dinasoedd ac yn fynych er gwell. Dywedodd Aseem: "Nid dinasoedd sy'n newid, ond y rhai sy'n siapio dinasoedd ac yn chwarae rhan hanfodol mewn adferiad, sef ni, bob un ohonom" ac anogodd y grŵp i edrych y tu hwnt i'n glannau i'r de byd-eang lle rydym yn dod o hyd i arloesi cymdeithasol yn wyneb adnoddau cyfyngedig a breguster.

Anogodd Aseem y dylid cydweithio a rhannodd rai enghreifftiau gyda ni o brosiect #Cardiffloveletter.

Love letter tweets

Yna ymunodd y cyntaf o'n cyfranwyr â ni – Kirsten Stevens-Wood, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Ffocws sgwrs Kirsten oedd cymunedau bwriadol – grwpiau o bobl sy'n dod at ei gilydd ac yn creu ffyrdd cyffredin o fyw. Gallai hyn gynnwys mentrau cydweithredol, tai cydweithredol, weithiau mae'n cynnwys cymunedau lle mae grwpiau mawr o bobl yn byw'n gymunedol naill ai mewn casgliad o adeiladau neu mewn un adeilad. Gofynnodd inni ystyried, "sut rydym yn byw mewn dinasoedd, a chynhwysai yn hynny ein syniadau ynghylch pwy sydd â mynediad i ba fathau o fannau, a sut rydym ni, fel trigolion dinasoedd, yn cael mynediad at wahanol fathau o fannau mewn lleoliadau trefol, mannau cyhoeddus, a mannau preifat".

Archwiliodd Kirsten effaith y cyfnod clo ar ein perthynas â mannau. Er enghraifft, heriwyd ein syniad mai’r 'car yw’r brenin' gan ganllawiau ymbellhau cymdeithasol a rhoi’r flaenoriaeth i ffyrdd i gerddwyr a beicwyr. Tynnodd sylw at y gwahanol ffyrdd yr effeithiodd y cyfnod clo ar bobl o wahanol rannau o’r gymdeithas - roedd rhai yn pobi cawl tra bod rhai eraill yn ymdopi â gorlenwi. 

Cyflwynodd Kirsten ni i brosiect yn Leeds o'r enw yr ardd Lelog a'r ffyrdd y mae'r gymuned hon wedi defnyddio mannau. Gofynnwyd i ni gwestiynu,

Pam na allwn ni gael mwy o fannau trefol sy'n eiddo ar y cyd? Pam na allwn ni gael adnoddau sy’n eiddo ar y cyd ac yn hygyrch i ni fel cymuned? A oes ffordd y gall cymunedau fod yn berchen ar fwy o'r mannau a'r tir o'u hamgylch, a'u rheoli?

Dechreuodd ein cyfrannwr nesaf, yr ymarferydd dylunio trefol Mark Drane, ei sgwrs gyda'r syniad y dylai Caerdydd yn y dyfodol fod yn Gaerdydd iach’. Esboniodd Mark wrthym am ddata marwolaethau COVID-19 ar draws ein rhanbarth a'r ffaith nad oedd profiad pawb o COVID-19 yn gyfartal. Arweiniodd Mark ni i feddwl am sut rydym yn diffinio iechyd a lles ac i fyfyrio ar yr anghydraddoldebau sy'n bodoli yn ein dinas.

"Ni allwn greu dyfodol iach sy'n sôn am strydoedd iach a chymdogaethau iach yng Nghaerdydd, os nad ydym hefyd ar yr un pryd, yn dadelfennu hiliaeth ac anghydraddoldeb o bob math."

Galwodd arnom i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn yn ogystal â meysydd eraill fel newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Cynigiodd Mark: "Cod yn y dyfodol a fyddai’n un o gymunedau iach ym mhob cyfnod o fywyd, a fyddai’n creu iechyd gyda chymunedau, ac na fyddai’n aros i bobl fynd yn sâl, ac a fyddai’n trin amgylchedd Caerdydd fel ein cyfoeth naturiol cyffredin." 

Suggestions for future words to live by

Aethom yn grwpiau llai i drafod y ddwy sgwrs gyntaf a gwnaethom greu datganiadau o fwriad a oedd yn cynnwys gwerthfawrogi amser aelodau'r gymuned, defnyddio mannau mewn modd cydwybodol ac annog hyder i ofyn cwestiynau.

Dilynwyd ein trafodaethau yn ein grwpiau gan ddarlleniad gan yr artist a'r ymchwilydd Adeola Dewis. Dyma ddarn:

Mae'r cyfnod hwn wedi amlygu galluoedd creadigol i feddwl y tu allan i'r blwch, a thu hwnt i'r hyn a gymerir yn ganiataol fel arfer. Felly, y gweithio o gartref a'r dysgu cyfunol sy'n digwydd mewn ysgolion, er enghraifft. Pan soniais wrth gydweithiwr yn Haiti fy mod yn aros i orffen un prosiect ac wedyn i wneud hyn a’r llall, dywedodd na ddylem weithio i'w orffen. Dylem bob amser wneud gwaith i barhau ag ef. Rwy’n cofleidio hynny. Rwy’n yn dysgu cofio ein bod yn gysylltiedig â’n gilydd. Ac nid yw'r cofio hwn yn deillio o ddim byd oherwydd ni ddaw rhywbeth o ddim byd. Daw rhywbeth bob amser o rywbeth. Mae'r pandemig yn fy ngalluogi i fy ngweld fy hun y tu hwnt i'r ffiniau i weld sut rwy’n profi'r cysylltiad hwn â'm cymydog, â’r dref, â’r wlad, neu â'r gwledydd, â’r blaned, bod dim ond gweld y tu hwnt i chi eich hun ynddo'i hun yn arfer dad-drefedigaethol. Felly, gan ddal dwylo gyda'r dyfodol a'r gorffennol a chan gofio cerdded yn ofalus, yn ddiffuant, drwy'r dyddiau hyn, mae gennyf y teimlad o wneud y llinellau rhwng gweledigaeth y prosiect, y pethau rwy’n eu dychmygu a defod fy mhob dydd yn annelwig. Felly, beth yw eich teimladau a allai fod wedi newid yn ystod y cyfnod hwn? Mewn byd lle mae unrhyw beth yn bosibl, beth fyddech chi'n ei ddychmygu i fodolaeth wirioneddol?

Ac yn olaf, clywsom gan ein cyfrannwr terfynol Rabab Ghazoul - artist, curadur a chyfarwyddwr/sylfaenydd Gentle/Radical, sef sefydliad yng Nghaerdydd. Gofynnodd Rabab i ni ystyried sut mae COVID-19 yn ein gwahodd i feddwl mewn ffyrdd tra gwahanol. Creu mannau parhaol i guradu a gwireddu cymuned gynaliadwy, gynhwysol a chreadigol ar y cyd.

"Byddwn yn dadlau, cyn cynllunio, cyn creu strategaeth, cyn ailadeiladu neu drefnu, fod yn rhaid i ni feddwl yn nhermau newid mewn newid ymwybyddiaeth, a dim byd llai na hynny - cred y gallwn ni adael i'r gorffennol fynd.

Beth os byddwn ni, yn artistiaid, yn ymarferwyr, yn weithwyr cymunedol, yn weithredwyr, yn wneuthurwyr newid, yn aros yn ein hunfan? Beth os anelwn ein ffocws ar un lle a'r bobl sydd ynddo yn barhaol?

Mae gwaith Caerdydd Creadigol wastad wedi'i wreiddio mewn lle – dathliad o'r lle hwn o'r enw Caerdydd a'i heconomi greadigol. Roedd y digwyddiad hwn yn ddefnyddiol o ran ein helpu i ystyried perthynas y gymuned greadigol â lleoliad a mannau wrth i ni wneud ein ffordd drwy bandemig COVID-19, ac yn ein hatgoffa i fabwysiadu dadansoddiad beirniadol o'r berthynas honno.

Hoffem annog yr unigolion a'r sefydliadau o fewn rhwydwaith Caerdydd Creadigol i feddwl am eu perthynas â lleoliadau a mannau. Os hoffech gael sgwrs, anfonwch at creativecardiff@caerdydd.ac.uk.