Ymunwch a'n tim!
Rydym yn chwilio am greadigwr gweledigaethol a fydd nid yn unig yn siapio hunaniaeth a sefyllfa Fio wrth symud ymlaen ond a fydd hefyd, yn gweithredu fel conglfaen i yrru’r sector celfyddydau yng Nghymru tuag at feddylfryd a methodoleg mwy amrywiol a chynhwysol.
Mewn pennod newydd i Fio, rydym yn creu strwythur uwch arweinyddiaeth sy'n fwy addas ar gyfer maint bach y cwmni. Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Creadigol i arwain y cwmni i'w cham nesaf. Bydd angen i'r unigolyn llwyddiannus gael cefndir creadigol cryf, ac fe fydd yn gyfrifol am ailosod ein gweledigaeth gelfyddydol, o fewn cyd-destun ein cytundeb cyllido amlflwyddyn gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Byddant yn creu a chynnal rhaglen gyffrous ac arloesol yn hytrach na chyfarwyddo cynyrchiadau eu hunain. Ar yr un pryd, byddant yn rheoli'r cwmni, gan ddarparu arweinyddiaeth gref a sicrhau bod polisïau a phrosesau cadarn yn eu lle. Byddant yn deall pwysigrwydd bodloni anghenion rhanddeiliaid, a chael strwythur adrodd ystyrlon ac amserol.
Rydym yn dîm bach yn Fio, gydag uchelgeisiau mawr a phrofiad cryf o ddarparu cynyrchiadau o ansawdd uchel a gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned sy'n grymuso lleisiau diwylliannol amrywiol o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Felly, mae cael dealltwriaeth o dirwedd sector celfyddydau y Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru, a'r awydd i sefydlu a llywio sefydliad cynhwysol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, ac am y rheswm hwn, mae greddf gydweithredol a natur haelfrydig yn rhinweddau hanfodol yr ydym yn chwilio amdanynt.
AMCANION Y SWYDD
- Gosod gweledigaeth gelfyddydol ar gyfer y sefydliad, a chynnig arweiniad creadigol ac artistig.
- Rheoli, datblygu, a llywio agweddau logistaidd, gweinyddol, a gweithredol y cwmni.
- Gweithredu fel llais pwerus o fewn yr agenda cenedlaethol ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant yn y celfyddydau yn y DU.
- Sicrhau bod Fio yn creu ac yn cynnal rhaglenni a chynyrchiadau arloesol, sy’n rhai o’r gorau yn y diwydiant.
- Datblygu strategaethau allgymorth arloesol, ynghyd ag ymdrechion digidol a rhaglenni datblygu artistiaid.
- Sicrhau bod Fio yn parhau i fod yn le gwaith deniadol ar gyfer gweithwyr proffesiynol amrywiol sy'n arwain yn y maes.
- Chwarae rôl allweddol yn strategaeth codi arian Fio.
- Hybu a chynnal diwylliant sefydliadol sy'n gwerthfawrogi'r safonau uchaf – wrth weithredu’r weledigaeth artistig ac mewn ymarfer rheoli. Sicrhau bod y diwylliant yn gynhwysol, cydweithredol, diogel ac yn gefnogol; dim bod ofn gwthio’r ffiniau ac yn uchelgeisiol.
- Sicrhau bod pob agwedd ar reoli’r cwmni yn unol â gwerthoedd Fio.
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV cyfredol; llythyr eglurhaol (2 dudalen o hyd, ar y mwyaf) neu fideo (10 munud o hyd, ar y mwyaf) sy’n ymateb i’r manyleb bersonol ac yn amlinellu eich sgiliau a’ch profiad yn ymwneud â’r Gofynion Hanfodol/Dymunol, ynghyd â Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal wedi’i chwblhau i jobs@wearefio.org.uk.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am Dydd Llun y 14eg o Orffennaf 2025.