Ebrill yng Nghaerdydd Creadigol – Newid

Gall newid fod yn frawychus - mae'n codi'n sydyn arnom ni, yn troi ein harferion ac yn aml yn ein tynnu allan o'r hyn 'da ni'n ei nabod. Ond yn amlach na pheidio, yn yr eiliadau hynny o ansicrwydd neu ailddyfeisio y daw rhywbeth cyffrous, ystyrlon neu hyd yn oed bwerus i'r amlwg. 

Y mis hwn, dyma Caerdydd Creadigol yn canolbwyntio ar y thema ‘Newid’ – o gynnal Paned i Ysbrydoli ar ‘Dod yn llawrydd’ gyda Krystal Lowe i ymddangos ar Newyddion S4C.  

Darllenwch ymlaen i gael myfyrdodau’r tîm ar y newidiadau y maent wedi’u profi, y pethau newydd y maent wedi’u dysgu, a’r ffyrdd y maent yn esblygu gyda’r gymuned greadigol: 

a collage of images of what the team has been up to in April with the words 'Change/Newid' in the centre

John Evans, Swyddog Digwyddiadau a Phrosiectau 

Yng Nghaerdydd Creadigol, gwelwn newid ar sawl ffurf. Efallai ei fod yn rhoi cynnig ar gyfrwng creadigol newydd, yn camu i mewn i ddiwydiant anghyfarwydd, neu'n llywio amgylchedd gwaith cwbl wahanol. Gall hefyd olygu cydnabod y newidiadau ehangach sy’n digwydd ar draws y dirwedd greadigol – boed hynny’n addasu i dechnolegau newydd, yn ymateb i sifftiau cymdeithasol, neu’n gwneud lle i leisiau nad ydynt bob amser wedi cael un.

Ac os ydym yn onest: yn y sector hwn, os nad ydych yn addasu, mae'n debyg eich bod yn cysgu wrth y llyw! 

Trwy gydol mis Ebrill, rydw i wedi bod yn gyfforddus gyda'r anghyfforddus. Fe wnaethom gynnal ein hail ddigwyddiad GORWEL mewn partneriaeth â Lone Worlds, lle buom yn archwilio byd opera gyda Christian Hey. Mae Opera yn sector creadigol hollol newydd i mi, ond braf oedd camu i mewn i rywbeth nad oeddwn i’n gwybod fawr ddim amdano a dod i ffwrdd â gwerthfawrogiad dyfnach – ac efallai diddordeb mewn arias dramatig… Cawsom hefyd ymweliad syrpreis gan dîm Newyddion S4C, a ddaeth i ffilmio’r digwyddiad a chynnal cyfweliadau. Roeddwn yn ddiolchgar ac yn hynod falch bod GORWEL wedi cael y llwyfan ar adeg mor dyngedfennol pan fo angen ein cefnogaeth fwyaf. Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran. Darllenwch a gwyliwch y darn

Cyn i mi drosglwyddo i Carys a Tori, roeddwn i eisiau herio fy hun yn ysbryd thema’r mis yma – felly fe wnes i rywbeth nad ydw i’n ei wneud yn aml: mynychais ddigwyddiad newydd ar fy mhen fy hun. Roedd y sesiwn, a gynhaliwyd gan Spindogs, yn ymwneud â hygyrchedd gwe a dylunio cynhwysol, ac roedd yn berthnasol nid yn unig i’m gwaith ond hefyd yn agoriad llygad gwirioneddol. Nesi gyfarfod â phobl wych, camu allan o fy nghylch cysur, a dysgu ffyrdd newydd o feddwl am sut yr ydym yn dylunio mannau digidol i fod yn fwy cynhwysol. Roedd yn weithred fach o newid i mi’n bersonol, ond yn atgof y gall cofleidio profiadau newydd – yn enwedig rhai unigol – arwain at fanteision rhyfeddol mewn gwaith a bywyd. Hefyd, wnes i ddim mynd ar goll nac eistedd yn yr ystafell anghywir, felly rydw i'n cyfrif hynny fel buddugoliaeth! 

A speaker stands smiling at the front of a modern, bright room during a presentation titled ‘Beyond the Buzzword: Why Web Accessibility is a Brand Power Move

Carys Bradley-Roberts, Rheolwr Caerdydd Creadigol 

Gall newid fod yn frawychus, yn gyffrous neu’n ysbrydoledig, neu weithiau – y rhan fwyaf o’r amser fwy na thebyg – yn gymysgedd o’r pethau hyn.  

I mi, ymateb anymwybodol i newid, yr wyf wedi bod yn meddwl amdano’n ymwybodol ers sgwrs wych Krystal Lowe yn ein Paned i Ysbrydoli ym mis Ebrill, yw ystyried newid yng nghyd-destun eich gwerthoedd craidd. Trwy wneud hynny, mae'n helpu i'ch atgoffa o'r hyn sy'n bwysig a'ch bod chi'n dal i weithio i'r un nod, waeth beth fo'r ffyrdd gwahanol y gall hyn ddod i'r amlwg.

Pan fydd newid yn mynd â chi oddi wrth eich gwerthoedd, dyna pryd y dylid ei wrthwynebu neu ei gwestiynu. 

Nid oes rhaid i newid fod yn fawr bob amser, gall hefyd olygu rhoi cynnig ar rywbeth newydd a mynd allan o'ch 'comfort zone'. Ar gyfer tîm Caerdydd Creadigol, rydym wedi dod o hyd i lawer o ffyrdd o groesawu heriau newydd y mis hwn, gan gynnwys cael ein cyfweld ar gyfer Newyddion S4C am GORWEL - ein partneriaeth â Lone Worlds i hyrwyddo pobl greadigol traws+, ymchwilio dulliau newydd o rwydweithio yn ein digwyddiadau a chwmpasu cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol newydd yn y Barri a Chaerffili. Ymlaen! 

A speaker stands smiling at the front of a modern, bright room during a presentation titled ‘Becoming a freelancer.'

Tori Sillman, Swyddog Cynnwys Digidol 

“Ch-ch-ch-changes!” Rwy'n canu, fy nwylo ar fy mochau yn syllu i'r pellter yn sianelu fy 'Bowie' gorau. Mae mis Ebrill wedi bod yn fis o newid ystyrlon a phrofiadau agoriad llygad. Un o'r adegau mwyaf dylanwadol oedd mynychu digwyddiad 'Gorwel' Caerdydd Creadigol, lle cefais ddealltwriaeth ddyfnach o'r byd opera trwy lens queer - profiad a adfywiodd ac a ehangodd fy safbwynt ar gynrychiolaeth yn y celfyddydau.  Cefais gyfle hefyd i fynychu cyfarfod cerddoriaeth gyda gweithredwyr lleoliadau allweddol a rhanddeiliaid o bob rhan o sin gerddoriaeth Caerdydd. Roedd yn foment brin a gwerthfawr pan ddaeth pawb at ei gilydd mewn un ystafell i rannu syniadau’n agored, archwilio arferion gorau, a thrafod sut y gallwn gydweithio’n fwy effeithiol i gryfhau a thyfu’r ecosystem gerddoriaeth leol. 

Gan groesawu newid ar lefel bersonol, cymerais gam beiddgar a chynnal fy mhanel cyntaf un yng ngŵyl rwydweithio a diwydiant cerddoriaeth Lovely Town yn Abertawe. Roedd ychydig yn frawychus ar y dechrau ond yn brofiad gwerth chweil. Canolbwyntiodd y panel ar archwilio cyfleoedd y tu hwnt i Abertawe, gan sbarduno sgyrsiau am sut y gall ehangu gorwelion ysgogi newid gwirioneddol i gerddorion ifanc.

Atgyfnerthodd yr holl eiliadau hyn bŵer cymuned a deialog wrth lunio dyfodol mwy cynhwysol, deinamig i’r celfyddydau yng Nghymru.

Reit, rydw i'n arwyddo i ffwrdd i sgwrsio â Matthew Kelly am ailgychwyn Stars in Their Eyes... ch-ch-changes... 

Tori sits holding a microphone opposite a man also holding a microphone mid conversation

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.