Mae KamerFilm yn weithdy ffilm cydweithredol rhwng Wcráin a’r DU sy’n gwahodd artistiaid newydd i archwilio’r berthynas rhwng celf gain a sinema. Bydd cyfranogwyr yn creu ffilmiau byr wedi’u hysbrydoli gan etifeddiaeth Sonia Delaunay a Vanessa Bell, o dan fentora artistiaid proffesiynol o Wcráin a’r DU.
Taith greadigol deufis lle byddwch yn ennill profiad o adrodd straeon gweledol, sinema ffigurol, a chynhyrchu cydweithredol. Agored i artistiaid o bob disgyblaeth.
Ariannir y prosiect gan raglen y British Council, Support for Cultural Activity in Ukraine with UK Involvement.