Rheolwr Marchnata

Cyflog
£25,000 - £30,000 y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad)
Location
Swyddfa Caerdydd, gyda gweithio hyblyg yn bosib, a rhywfaint o deithioledled Cymru
Oriau
Full time
Closing date
29.11.2024
Profile picture for user National Youth Arts Wales

Postiwyd gan: National Youth…

Dyddiad: 11 November 2024

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus i benodi Swyddog Marchnata llawn-amser i ymuno a’r tîm.

Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ein cenhadaeth yw grymuso'r genhedlaethnesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.

Mae rôl y Rheolwr Marchnata yn allweddol i sicrhau bod pawb yn deall ein gwaith, ac yn gallu cymryd rhan ar adegau allweddol o'r flwyddyn. Gan weithio fel rhan o dîm staff cyfeillgar ac arbenigol, byddwch yn mwynhau llwyth gwaith amrywiol, gan gael effaith ar fywydau miloedd o bobl ifanc ledled Cymru.

Rydym ni’n chwilio am rywun sydd â hanes o reoli gwefan, gweithio mewn tîm ac ysgrifennu cryf; sy'n rhannu ein hangerdd a'n gwerthoedd.

Ar gyfer y disgrifiad swydd lawn, ewch i'n gwefan.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau a sefydliad cynhwysol ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu bod ynnhw eu hunain yn llawn. Rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir ac amgylchiadau. Cysylltwch â ni i drafod unrhyw gefnogaeth neu addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch i'ch helpu i gwblhau eich cais - neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r sefydliad.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event