Eich gwaith…
- Helpu’r Tîm Llogi Masnachol i gynnig profiad o’r safon uchaf i gleientiaid
- Cynnig gwasanaeth llogi lleoliad ardderchog ar draws un ai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru neu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Rhoi gofal cwsmer o’r safon uchaf i’n gwesteion, drwy roi gwybodaeth a’u cyfeirio o gwmpas y safle.
- Helpu gyda gosod a thynnu offer, megis gosod byrddau, addurno’r safle a symud dodrefn.
- Sicrhau iechyd a diogelwch ein hymwelwyr, staff a chontractwyr.
- Sicrhau diogelwch ein casgliadau drwy oruchwylio orielau ac adeiladau hanesyddol.
- Tywys trefnwyr cleientiaid, contractwyr a chysylltu â thimau arlwyo
- Helpu’r tîm i sicrhau bod y lleoliad yn cael ei gadw’n lân a diogel
- Helpu gyda llif ymwelwyr, gwesteion a chontractwyr.
- Casglu adborth gan ymwelwyr, ac annog rhoddion yn ôl cyfarwyddyd
Eich nod…
- Byddwch yn cyfrannu at gynnal digwyddiadau creadigol ac arloesol o’r safon uchaf, yn gyhoeddus a phreifat
- Helpu’r tîm i gynnal digwyddiadau sy’n creu incwm, er mwyn cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru
- Helpu i gynnal digwyddiadau creadigol ac arloesol yn ein hamgueddfeydd.
- Sicrhau bod gwesteion, contractwyr a chyfranwyr yn mwynhau eu profiad.
- Croesawu, cynorthwyo a chefnogi ymwelwyr, contractwyr a chyfranwyr i sicrhau eu diogelwch a’u lles.
- Bydd eich presenoldeb yn diogelu ein hymwelwyr, casgliadau ac eiddo’r Amgueddfa.
Sut i gyrraedd y nod...
- Croesawu pob ymwelydd a bod yn barod i ateb eu cwestiynau.
- Bod yn ddigynnwrf, yn gwrtais ac yn broffesiynol - hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd ac o dan bwysau.
- Dysgu a rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth o’n casgliadau, a dod â nhw yn fyw er mwyn gwella profiad ymwelwyr yn ein digwyddiadau.
- Gweithio fel rhan o dîm i ddarparu presenoldeb diogelwch effeithiol.
- Sicrhau bod ymwelwyr, contractwyr a staff yn cadw at bolisïau iechyd a diogelwch
- Gweithio oriau hyblyg, gan gynnwys nosweithiau hwyr, penwythnosau a gwyliau banc.
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant
- Trin pawb gydag urddas a pharch, waeth beth fo’u hil, crefydd, rhyw, rhywioldeb, cenedl, oedran, gallu neu iaith.