Swyddog Llogi Masnachol Achlysurol

Cyflog
£14.99 yr awr
Location
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
22.08.2024

Postiwyd gan: AmgueddfaCymru1

Dyddiad: 26 July 2024

Eich nod…

 

  • Cyflawni agweddau'r strategaeth llogi masnachol gaiff eu rhoi yn eich gofal gan y Rheolwr Llogi Corfforaethol
  • Gwneud y mwyaf o bob cyfle i greu refeniw ac arbed arian
  • Chwilio am gyfleoedd gwerthu newydd ac ymarferol
  • Darparu profiadau premiwm i gleientiaid a rhanddeiliaid
  • Dechrau ymholiadau am gontractau a'u trafod, a chyflawni digwyddiadau a phrojectau penodol

 

Sut i gyrraedd y nod...

 

  • Sicrhau y caiff disgwyliadau pob cleient a rhanddeiliad eu bodloni drwy brosesau ymgynghori, cynllunio a chyflawni llogi masnachol
  • Cyflawni a dadansoddi pob targed ariannol
  • Cyfrannu at adolygiad rheolaidd o brosesau a gweithdrefnau
  • Darparu boddhad cwsmer o safon uchel ym mhob maes gwaith
  • Cyflawni gwaith llogi cyfleusterau o'r safon uchaf
  • Ymateb i ymholiadau ynghylch codi arian drwy logi masnachol 
  • Cyfrannu at ymgyrchoedd a dulliau sy'n seiliedig ar werthiant, gan gynnwys ymgysylltu â chleientiaid a gwaith gwerthu wyneb yn wyneb, er enghraifft, teithiau o gwmpas ein lleoliadau, digwyddiadau rhwydweithio ac ati
  • Cydymffurfio â'r holl ofynion iechyd a diogelwch
  • Cydymffurfio â phrosesau a gweithdrefnau'r adran ar gyfer rheoli'r busnes, er enghraifft, codi archebion, cofnodion, systemau tracio ac ati 
  • Cysylltu â deiliaid y fasnachfraint arlwyo i drafod ymholiadau, uwchwerthu a defnyddio dull rhagweithiol i werthu gofodau ar log i ystod eang o gleientiaid cyfredol a newydd
  • Bod yn Swyddog ar Ddyletswydd a goruchwylio'r gwaith o gyflawni a staffio digwyddiadau llogi masnachol
  • Gweithio gyda’r tîm rheoli safle i adnewyddu trwyddedau perthnasol mewn da bryd, rheoli ceisiadau ar ran cleientiaid i ymestyn y drwydded hwyr dros dro
  • Creu a chadw casgliad o ddelweddau addas a geirda cleientiaid at ddefnydd cyhoeddusrwydd
  • Cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol a cheisiadau ar gyfer projectau ffilmio masnachol a thynnu ffotograffau, a goruchwylio digwyddiadau o'r fath yn ôl y galw
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill i gefnogi'r adran
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event