Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru eisiau contractio Rheolwr Prosiect profiadol, rhagweithiol ac agos-atoch i ddatblygu strategaeth i sicrhau dyfodol 'Above & Beyond', prosiect hirdymor a ddarperir ym Mhenrhys (Rhondda Cynon Taf).
Cenhadaeth y prosiect yw trawsnewid y gymuned trwy weithgaredd diwylliannol er mwyn sicrhau newid cymdeithasol cadarnhaol ac i bobl Penrhys gael mwy o lais ac edrych tuag at ddyfodol cadarnhaol.
Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect i ddiffinio strategaeth tair blynedd (2025/2026 - 2027/2028) a fydd yn cael ei llywio gan y gymuned, Artistiaid Arweiniol a phartneriaid prosiect i sicrhau dyfodol hirdymor y prosiect. Mae cydweithio yn elfen allweddol o ddatblygu’r strategaeth tair blynedd.
Bydd y Rheolwr Prosiect yn arwain ar ymgynghori, gwerthuso, adrodd ar effaith a gosod cyllideb i sefydlu strategaeth ar gyfer cyflawni hirdymor a fydd yn cael ei llywio gan angen cymunedol a'r canlyniadau a ddeisyfir. Bydd hyn yn cynnwys datblygu'r achos dros gefnogi, ymchwilio i, a diffinio cynllun codi arian i sicrhau buddsoddiad ariannol i ddiogelu dyfodol y prosiect.
Mae'r rôl hon yn addas i reolwr prosiect profiadol sydd â phrofiad strategol a phrofiad o godi arian ynghyd â sgiliau cyfathrebu rhagorol. Dylech fod yn angerddol am ymgysylltu â chyfranogwyr o bob oed a'r newid cymdeithasol cadarnhaol y gellir ei gyflawni trwy weithgaredd artistig.
Cyfanswm y ffi am y gweithgaredd hwn yw £8,640 yn seiliedig ar 36 diwrnod o waith ar gyfradd o £240 y dydd.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal RhCT.