Ffoto Cymru 24: Galwad Agored

Cyflog
£400
Location
Rhyngwladol
Oriau
Other
Closing date
30.07.2024
Profile picture for user Ffotogallery-Admin

Postiwyd gan: Ffotogallery-Admin

Dyddiad: 22 July 2024

Galwad Agored – Cyflwynwch eich Gwaith yn Awr

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery gyflwyno Ffoto Cymru – Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Cymru, sy’n digwydd am y tro cyntaf mewn rhai safleoedd penodol ar draws y wlad ym mis Hydref 2024. Gan adeiladu ar lwyddiannau pum Gŵyl Diffusion flaenorol, gwahoddir cynulleidfaoedd i ymgysylltu â ffotograffiaeth mewn ffyrdd newydd ac ystyrlon drwy raglen o arddangosfeydd, comisiynau, sgyrsiau, gosodweithiau cyhoeddus a digwyddiadau.

Mae ein Galwad Agored yn gwahodd ffotograffwyr i gyflwyno corff o waith sydd ganddynt yn barod, i gael ei ystyried ar gyfer ei gynnwys yn rhan o’r ŵyl eleni. Dylai ymateb i’r thema What You See is What You Get?

Thema

Mae’r thema What You See is What You Get? wedi ei bwriadu fel pryfociad, gwahoddiad i gwestiynnu ystyr llythrennol ‘gwybodaeth weledol’. A ydyn ni’n wirioneddol dderbyn yr hyn a welwn? Neu a yw pethau’n fwy cymhleth na hynny? Mae What You See Is What You Get? yn archwilio sut yr ydym yn gweld, yn deall ac yn defnyddio delweddau, sut maen nhw’n siapio ein hunaniaeth a’n diwylliant, o archifau hanesyddol i ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau modern.

Bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi yn y misoedd sy’n arwain at yr ŵyl, a fydd yn digwydd drwy gydol mis Hydref 2024, gan lansio gydag arddangosfa arolwg fawr gan Marian Delyth yn Ffotogallery ar 3 Hydref.

Manylion y Cyflwyniad

Mae’r cyfle hwn yn agored i bob artist o fewn a thu allan i Gymru, ond mae’n rhaid iddynt ymateb i thema’r ŵyl eleni, “What You See Is What You Get?”.

Bydd pedwar artist a ddewisir yn derbyn ffi artist o £400, a bydd Ffotogallery yn talu’r holl gostau argraffu a chynhyrchu yn rhan o FfotoCymru 2024.

Dim ond gwaith celf a gyflwynir mewn fformatau digidol fydd yn cael eu derbyn ar gyfer eu hystyried.

Gyda’r artist ei hun y mae’r hawlfraint am ei holl waith. Nid yw’r gwaith celf ar werth gan Ffotogallery yn rhan o Ffoto Cymru. Ni fydd y delweddau a gyflwynir ar gyfer y cyfle hwn yn cael eu cyhoeddi, eu hailgynhyrchu neu eu rhannu mewn unrhyw ffordd arall y tu allan i Ffotogallery heb ganiatâd yr artist.

Dethol

Ffotogallery fydd yn gwneud detholiad cyntaf y cyflwyniadau digidol. Eu penderfyniad nhw fydd y penderfyniad terfynol.

Dyddiadau pwysig

  • Galwad Agored Ffoto Cymru yn lansio 12fed Gorffennaf 2024

  • Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwaith 23:59 BST Dydd Llun 30ain Gorffennaf 2024

  • Rhoi gwybod i’r artistiaid llwyddiannus erbyn w/c 5fed Awst 2024

  • Ffeiliau printiau digidol o’r gweithiau a ddewisir i gael eu darparu i Ffotogallery erbyn Dydd Gwener 16eg Awst 2024

  • Dyddiadau’r Arddangosfa yw 1af Hydref 2024 - 31ain Hydref 2024

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event