Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Uwch Gyfrifydd Rheoli
Cyflog: £38,414 - £43,675
Dyddiad Cau: 05/08/2024
Dyddiad Cyfweld: cychwyn 8fed o Awst
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae'r tîm Cyllid yn arwain ar faterion yn ymwneud â risg a chyllid yn CMC. Rydym yn datblygu prosesau a gweithdrefnau sy'n galluogi CMC i weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon, tra'n lleihau risg. Nod y tîm cyllid yw darparu gwasanaeth gwerth ychwanegol trwy gynhyrchu gwybodaeth ariannol gywir ac amserol a phartneru busnes cyllid yn effeithiol.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Mae'r rôl newydd hon wedi'i chreu o fewn y tîm; mae hwn yn gyfle arbennig ar gyfer cyfrifydd sy'n dymuno datblygu eu gyrfa ac sy’n edrych am rôl a allai arwain i fyny at lefel Pennaeth Cyllid.
Byddwch yn ased hanfodol wrth gefnogi'r Pennaeth Cyllid i yrru prosiectau yn eu blaen, cyflawni amcanion busnes ac arwain y tîm i lwyddiant. Mae'r rôl yn cynnwys cydweithredu trawsadrannol, rhyngweithio ag uwch randdeiliaid, darparu adroddiadau ariannol a gweithredu gwelliannau i'r broses.
Bydd y rôl yn ymwneud â phob agwedd ar y busnes o safbwynt adrodd diwedd mis a bydd angen i'r ymgeisydd weithio'n annibynnol ar draws pob adran o fewn y busnes. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i symud ymlaen a datblygu eich cysylltiadau â phrosiectau ariannol a dylanwad strategol gyda rhanddeiliaid allweddol yn y busnes ehangach.Rydym yn chwilio am gyfrifydd cymwys sydd â chraffter busnes cryf a’r gallu i fwrw iddi’n syth. Dyma gyfle perffaith i weithiwr cyllid proffesiynol sydd ag uchelgais i ragori yn eu gyrfa o fewn sefydliad elusennol.
Bydd y dyletswyddau penodol yn cynnwys –
- Cynhyrchu cyfrifon rheoli misol ar gyfer gwahanol unedau busnes
- Paratoi cyllidebau ac amcangyfrifon·Cynorthwyo gyda gofynion cyfrifo diwedd blwyddyn
- Partneriaethu busnes i ddarparu mewnwelediad ariannol i amrywiaeth o randdeiliaid mewnol allweddol
- Adnabod a gweithredu gwelliannau i brosesau a systemau lle bo angen
- Mentora a goruchwylio aelodau eraill o'r tîm cyllid.
Bydd y rôl yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol:
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymwysterau CIMA neu ar fin cymhwyso, gyda phrofiad helaeth mewn rôl debyg. Mae profiad o oruchwylio staff yn hanfodol ynghyd â sgiliau cyfathrebu cryf i lwyddo yn elfennau partneru busnes y rôl. Mae angen dull gweithio craff, gyda'r gallu i adnabod a datrys problemau, a gwella’r prosesau presennol o fewn y swyddogaeth gyllid.
Beth Sydd Ynddo I Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, ar sail pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser.
- 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo.
- Aelodaeth Cymorth Meddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4x cyflog blynyddol
- Tocynnau theatr am bris gostyngol
- Clwb cymdeithasol
- Gwersi Cymraeg am ddim
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.