Dywedwch wrthym amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol.
Actor wyf fi a gafodd fy magu yng nghyffiniau Caerffili yn Ne Cymru ac rwyf wedi graddio'n ddiweddar o Ysgol Actio Guildford. Cyn hynny, bûm i’n astudio drama ym Mhrifysgol Exeter, theatr ym Mhrifysgol Malta ar flwyddyn Erasmus a des i’n athro Addysg Gorfforol mewn ysgol gynradd leol yn y cymoedd.
Roedd clyweliadau ar gyfer ysgol ddrama bob amser yn teimlo braidd yn bell o fod yn gredadwy. Roeddwn i bob amser wedi clywed straeon arswydus am y broses glyweld, a faint o her cymeriad byddech chi’n ei hwynebu petaech chi’n ddigon ffodus i gael lle. Alla i ddim siarad am brofiadau pobl eraill, ond gallaf ddweud yn bendant bod fy mhrofiad yn GSA yn wych ac yn wir wedi helpu i lunio fy nymuniadau creadigol.
Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?
Fel rhan o’m prosiect terfynol yn GSA, dechreuais ddatblygu darn dau berson o'r enw 'Mr. Jones', a fyddai'n cael ei osod o amgylch cwymp tomen sbwriel 1966 ym mhentref bach Aberfan yng Nghymru. Mae’r ddrama un act yn defnyddio barddoniaeth, adroddiadau gair am air ac adroddiadau uniongyrchol am y drychineb i goffáu’r unigolion y trawsnewidiwyd eu bywydau gan y digwyddiad dirdynnol hwn.
Yn wreiddiol ysgrifennais ‘Mr. Jones' ar gyfer asesiad ysgol ddrama a’i pherfformio gyda fy nghydweithiwr Cymreig-Americanaidd Tanwen Stokes. Pan gafodd y darn dderbyniad da, fe ges i’r teimlad y gallwn ymhelaethu ar y cymeriadau hyn yr oeddem wedi'u creu. Felly, fe wnes i ei haddasu a'i hymestyn ar gyfer ymddangosiad cyntaf tu allan i’r West End yn Theatr yr Undeb yn Llundain fis Ionawr diwethaf. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr nawr at ddechrau taith o amgylch Cymru, a bydd y perfformiad cyntaf ar 15 Mawrth yn Theatr Soar ym Merthyr Tudful.
Beth oedd yr her fwyaf wyneboch chi?
Dwi wastad wedi bod yn ymwybodol iawn o’r cyfrifoldeb sy’n dod wrth ddewis creu darn sy’n rhoi’r lle blaenaf i ddigwyddiad mor ingol yn hanes Cymru. Roedd trychineb Aberfan ym 1966 yn bwynt na chafodd braidd dim sylw yn yr ysgol fel rhan o’m haddysg yn Ne Cymru. Roedd y drychineb yn cael ei nodi’n flynyddol ar y dyddiad perthnasol, ond roedd yn absennol o'n meini prawf hanesyddol. Rwy'n credu mai dim ond oherwydd i mi dyfu i fyny mor agos at Aberfan yr oeddwn yn fwy ymwybodol o ddylanwad aruthrol y drychineb ar fywydau, a hynny oherwydd yr adroddiadau dirdynnol gan y genhedlaeth hŷn a syrthiodd, rhaid cyfaddef, ar glustiau byddar i raddau helaeth. Dim ond wedi i mi dyfu i fyny y sylweddolais fod angen taflu goleuni ar y straeon hyn, a gwyddwn ei fod yn ymdrech oedd yn galw am sensitifrwydd a gofal mawr.
Am y rhesymau hyn y lluniwyd yr ymchwil yn bennaf trwy gasglu amrywiaeth o safbwyntiau personol. Yn lle gwneud darn sy’n darlunio’r drychineb ei hun, penderfynais ddefnyddio adroddiad gair am air i ysbrydoli taith cymeriad dychmygol drwy’r drychineb ac yn ei sgil. Mae Stephen yn fachgen pedair ar bymtheg oed, sy'n siarad rhywfaint o Gymraeg, ac yn chwarae rygbi’n neilltuol o dda. Mae’n cynrychioli bachgen nodweddiadol o'r Cymoedd. Er ei fod yn stereoteip, mae'n un sy'n cael ei ddilysu gan fy mhrofiadau fy hun a phrofiadau fy nhadau, fy ewythrod, a phawb rwyf wedi siarad â nhw wrth ddatblygu'r darn hwn. Mae ei gyfenw, Jones, yn tarddu o Gymru ac yn parhau’n gyfenw mwyaf cyffredin y wlad hyd heddiw. Mae Stephen yn cynrychioli pawb: unigolyn ysgafn ei gymeriad â phersonoliaeth fawr sy'n fwy na dim ond dioddefwr trychineb. Mae Angharad yn cynnig persbectif arall, gan ei bod yn nyrs mewn ysbyty lleol a gafodd ei galw i weithredu yn sgil y drychineb. Lluniwyd ei stori o safbwynt unigolion yn ysbyty St. Tydfil ar Hydref 21, 1966. Trwy Stephen ac Angharad, cawn gipolwg ar gymuned nad yw ei straeon wedi cael eu hadrodd i raddau helaeth.
Oes gennych chi awgrymiadau i eraill a allai fod â diddordeb yn eich diwydiant?
Mae'n teimlo'n eithaf anodd cynnig cynghorion ar gyfer actorion ac awduron newydd, oherwydd rwy'n ymwybodol iawn fy mod yn dal i ddarganfod y cyfan fy hun! Serch hynny, mae’n hwyl, ac rwy’n teimlo efallai mai dyna’r allwedd. Wnes i erioed ystyried fy hun yn llawer o awdur, ac yn bendant rwy’n gweld fy hun fel actor sydd fel y mwyafrif yn dal i geisio cael eu troed ym mha ddrws bynnag sy'n datgelu ei hun. Rwy'n ei fwynhau'n fawr, serch hynny, hyd yn oed yr holl ansicrwydd, y rhai sy’n dweud ‘na', yr anawsterau, a chael fy anwybyddu’n ddyddiol—nid oherwydd bod unrhyw un o'r pethau hynny yn hwyl, ond oherwydd bod y cyfan yn teimlo fel rhan angenrheidiol o'r broses. Mae pob diwrnod mor gwbl wahanol i'r un blaenorol a dwi'n dysgu trio mwynhau hynny.
Peth arall yr wyf i a'm cyd-letywyr sydd hefyd yn ymuno â'r diwydiant hwn yn atgoffa ein gilydd amdano o hyd yw bod dim rhaid brysio. Rwy’n credu bod e’n wirioneddol bwysig cofio hynny. Mae mwynhau’r broses yr un mor bwysig â chyrraedd y nod terfynol, p’un bynnag o’r biliwn o bethau gallai hynny olygu. Wrth greu eich gwaith eich hun, mae dal ati yn gwbl allweddol. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny o reidrwydd yn golygu bod angen i bawb fod wrthi o hyd yn ysgrifennu dramâu, ffilmiau, siorts, yn creu cynnwys, yn estyn allan at artistiaid eraill sy'n dod i'r amlwg a'r holl bethau hynny, ond yn bendant dwy ddim yn meddwl bod hynny ddim yn wir chwaith, os yw hynny’n gwneud synnwyr? Yn y bôn, cadw at beth bynnag rydych wedi penderfynu ei wneud, a dod o hyd i ffyrdd o adrodd y straeon rydych chi'n teimlo'n gysylltiedig â nhw, ym mha ffurf bynnag y gall hynny fod - rwy'n meddwl mai dyna'r allwedd. Ond eto, dwi'n dal i ddarganfod y cyfan, a dyna'r hwyl, mewn ffordd.
Pam dewis De Cymru ar gyfer eich gwaith creadigol cyntaf?
Cyn i mi ysgrifennu ' Mr. Jones', roedd yn bwysig iawn i mi y byddem yn dod â'r sioe i Dde Cymru. Rydw i mor gyffrous ein bod ni’n mynd â’r sioe ar daith o amgylch y wlad, ond mae dechrau ym Merthyr Tudful ar 15 Mawrth yn teimlo'n ddelfrydol. Mae'n ddarn sy'n ceisio amlygu cymuned a drawsffurfiwyd gan drychineb; straeon sydd yn anaml wedi llithro drwy holltau cymoedd De Cymru. Mae cael cyfle i ddod â’r prosiect hwn i gymuned mor agos at ddigwyddiadau 1966 yn anrhydedd aruthrol, ac yn rhywbeth y gobeithiwn fydd yn siarad am y cannoedd o fywydau a newidiwyd am byth.