Jess Mahoney, Rheolwr Caerdydd Creadigol
Yn bersonol, mi oedd rhaid dewis Gŵyl Sŵn fel fy ‘Uchafbwynt Diwylliant Caerdydd'. Rydw i wedi bod yn mynd i Sŵn yn weddol gyson dros y pymtheg mlynedd diwethaf, ond roedd fersiwn 2022 yn teimlo fel ail-eni a welodd yr ŵyl yn creu cilfach iddi’i hun fel un o'r llwyfannau cerdd newydd mwyaf blaenllaw’r DU. Roedd croesi lleoliadau prysur y ddinas gyda dim ond ap, band arddwrn ac ymbarél (roedd yn arllwys y glaw) yn teimlo braidd fel bod mewn gêm ‘adeiladu eich antur eich hun’ lle’r oedd y gwobrau’n setiau annisgwyl o dalentau cerddorol newydd amrwd, gwefreiddiol ac arloesol.
Yn llawn cynhesrwydd, calon a dilysrwydd, roedd profiad 'Swn 2022' hefyd yn arddangos adeiladau'r ddinas i effaith ogoneddus. Roedd Marchnad Jacob, er enghraifft, yn amrywio o fod yn far chwyslyd yn Efrog Newydd, ystafell fyw eich Nain neu balas parti to yn Ibiza, yn dibynnu ar ba lefel y daethoch o hyd i chi eich hun arno. Gyda thalent gartref, yn ogystal â charfan gref yn yr iaith Gymraeg, yn cael ei harddangos ochr yn ochr ag artistiaid ledled y DU a rhyngwladol, roedd yn teimlo'n unigryw i Gaerdydd - yn adlewyrchu statws y ddinas fel maes bridio ar gyfer talent newydd ac ynddo'i hun yn creu achos cryf ar gyfer buddsoddi a diogelu ein sîn gerddoriaeth. Ac er fy mod i'n ceisio peidio dewis ffefrynnau, y tro hwn alla i ddim gwadu bod band pync lleol Panic Shack wedi dwyn fy nghalon yn llwyr #youputthemilkinfirst. Ymlaen at 2023!
Sara Pepper, Cyfarwyddwr
Fy uchafbwynt diwylliannol yn 2022 oedd y cyfle i ailgysylltu â chydweithwyr, cysylltiadau, ffrindiau a theulu drwy gyfarfodydd, digwyddiadau ac achlysuron bywyd.
Mae byw trwy bandemig byd-eang wedi effeithio ar bopeth yn ein bywydau, o sicrwydd swydd i iechyd a lefelau straen. Roedd ynysu cymdeithasol a diffyg cyswllt personol yn her i mi. Mae'n llawer gwell gennyf gyfarfod a gwneud busnes yn y byd go iawn ac rydw i wir wedi gwerthfawrogi'r cyfle i ymgysylltu â phobl eto, i gyfarfod, i rwydweithio ac i deithio i alluogi hynny.
Mae ‘na un digwyddiad amlwg i mi a gyflawnodd hyn yn 2022. Ei enw oedd ClwstwrVerse ac roedd yn arddangosfa 2 ddiwrnod i rannu a dathlu'r prosiectau ymchwil a datblygu a alluogwyd trwy’r rhaglen Clwstwr. Fe’i cynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas ym mis Gorffennaf ac roedd yn ddigwyddiad 2 ddiwrnod uchelgeisiol yn cynnwys amrywiaeth o arddangosiadau, sgyrsiau, gweithdai rhyngweithiol, arbrofion, arddangosfeydd a phrif araith. Daeth â chlwstwr rhanbarthol Caerdydd ynghyd i rannu, dysgu a dathlu’r gwaith a wnaed dros y 3 blynedd flaenorol ac i ystyried sut gallai’r dyfodol edrych, yn gydweithredol ac yn unigol, o ran ymchwil a datblygu a’r diwydiannau creadigol yn y rhanbarth hwn. Yn ogystal â mynychwyr o bob rhan o’r clwstwr, ymunodd cydweithwyr o bum clwstwr cyfryngau Ewropeaidd â ni i fyfyrio ar yr hyn sy’n digwydd yn ein rhanbarth ni a rhannu gwaith diddorol o’u rhai nhw. Roedd yn adlewyrchu pa mor bwysig yw dod at ein gilydd i rannu, dysgu, cyfnewid, cydweithio ac, yn y pen draw, dathlu’r cynhyrchu creadigol a diwylliannol sy’n digwydd o’n cwmpas.
Justin Lewis, Arweinydd Academaidd a Chyd-sylfaenydd
“Eleni, roedd bod mewn unrhyw ddigwyddiad diwylliannol yn uchafbwynt. Ond yr un sy’n sefyll allan yw diweddglo Galwad, a gynhaliwyd o’r cyfnos i dywyllwch yn y chwareli llechi uwchben Blaenau Ffestiniog. Roedd y syniad yn un uchelgeisiol, wedi’i ysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac yn mynd i’r afael â’r cwestiwn sydd wrth wraidd yr argyfwng hinsawdd: sut mae mynegi realiti difrifol newid hinsawdd tra’n cynnal gobaith ar gyfer y dyfodol?
Cyrhaeddom yno yn dilyn wythnos o gynnwys dyddiol ar y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn gosod y senario: mae aelod o grŵp o ffrindiau ifanc o Abertawe yn dod i gysylltiad â’i hunan, 30 mlynedd yn y dyfodol. Mae hi'n dysgu sut y bydd newidiadau hinsawdd yn amharu ar ei bywyd hi a bywyd ei chenhedlaeth. Wrth iddi geisio ymdopi â dyfodol llawn colled, mae’n dechrau deall sut y gall ei gweithredoedd ein harwain at fyd mwy caredig. Pan mae ei chymeriad yn camu o’r byd ar-lein i oleuni egwan set awyr agored ffwrdd-â-hi ym Mlaenau, mae’n rhoi araith rymus – wedi’i llywio gan ei hunan yn y dyfodol – sy’n mynegi’n wych y canlyniadau o fethu â gweithredu a gweledigaeth o fersiwn well o’n hunain. Daeth ei haraith o hyd i ffordd o daro’r cydbwysedd anodd ‘na rhwng hunanfodlonrwydd ac anobaith. Bydd yn aros yn hir yn y cof ac, rwy’n gobeithio, yn dechrau ysbrydoli cyfathrebu creadigol a allai o’r diwedd annog gwleidyddion a’r cyhoedd i gymryd y camau radical sydd eu hangen i atgyweirio ein Hanthroposîn adfeiliedig.”
Carys Bradley Roberts, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Mae'n anodd dewis un 'uchafbwynt' diwylliannol o’r flwyddyn. Ymunais â thîm Caerdydd Creadigol ym mis Ebrill, sy’n sicr yn uchafbwynt personol; mae wedi bod yn wych cwrdd â'r gymuned greadigol yng Nghaerdydd ac ailgysylltu â'r diwydiant mewn digwyddiadau wyneb-yn-wyneb.
Roedd ‘na foment yn Tafwyl 2022, yn sefyll ger y llwyfan yn fy nghot law yn gweiddi geiriau Swnami, pan sylwais faint ro’n i wedi methu gwyliau a cherddoriaeth fyw. Y dorf i gyd yn canu’n un, ymbaréls wedi'u gadael ar lawr a breichiau yn yr awyr, roedd yn arbennig iawn.
Ers i mi symud i Gaerdydd yn 2017, mae Tafwyl wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Mae’r ŵyl gerddoriaeth Gymraeg yng Nghastell Caerdydd, sydd am ddim, yn agor drws i ddiwylliant a cherddoriaeth Gymreig i Gaerdydd i gyd mewn ffordd sy’n teimlo’n ystyrlon ac effeithiol. Roedd ei gweld yn dychwelyd yn llawn gyda chyfres gyffrous o gerddoriaeth, comedi a digwyddiadau panel yn golygu, er gwaethaf y glaw trwm, allwn i ddim stopio gwenu. Fe ddechreuodd haf gwych o gerddoriaeth fyw a digwyddiadau diwylliannol yn y ddinas - diolch Tafwyl 2022!
Erykah Cameron, Cynhyrchydd Myfyrwyr
Fy uchafbwynt gyda Caerdydd Creadigol yn 2022, heb os, oedd gweld ‘5 munud gyda’ yn dod yn fyw! Rydw i mor falch ein bod wedi llwyddo i ddod â syniad bach o’m hymennydd i sgriniau pobl a'i fod wedi cael adborth mor dda! Mae wedi bod yn gyfle anhygoel, rydw i mor ddiolchgar i’r tîm y buon ni’n gweithio gyda nhw am wneud iddo ddigwydd, ac alla i ddim aros i barhau i ddatblygu’r gyfres yn 2023!