Clywais am Gaerdydd Creadigol am y tro cyntaf wrth astudio ar gyfer fy ngradd Meistr mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) yn ôl yn 2017. Wedi symud o Gaernarfon, lle mae hi’n haws teithio ar drên i Lundain na Chaerdydd, doeddwn i ddim yn orgyfarwydd â thirwedd greadigol prifddinas Cymru. Roeddwn i wastad wedi cymryd yn ganiataol byddai’n rhaid i mi symud i Lundain i ddod o hyd i swydd ar ôl graddio, gan feddwl ei fod yn gam angenrheidiol i ddechrau fy ngyrfa yn y diwydiant creadigol.
Ychydig ar ôl dechrau fy astudiaethau yn CBCDC, fe gynhaliodd Sara Pepper sesiwn ar ddinasoedd creadigol, ac fe soniodd am gyfoeth y creadigrwydd a’r arloesedd creadigol yng Nghaerdydd. Hwn oedd y tro cyntaf i mi feddwl o ddifrif am aros yng Nghymru i ddod o hyd i fy swydd gyntaf, ac mae’n rhywbeth sydd wedi aros yn fy meddwl wrth i mi ddysgu mwy am y celfyddydau a diwydiant creadigol y ddinas.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae’r teimlad yna, yn ogystal â fy mharch a’r edmygedd sydd gen i tuag at ein cymuned greadigol, yn enwedig ar ôl cyfnod eithriadol o heriol, yn gryfach nag erioed. Mae creadigrwydd Caerdydd yn unigryw a chyffroes, yn ddwyieithog, yn draws-sector ac yn parhau i esblygu a thyfu mewn amgylchedd cydweithredol a cefnogol. Rwy’n ymfalchïo’n barhaus yn ein cymuned greadigol a’r ystod o ofodau creadigol sydd ar gael i ni eu defnyddio. Ers symud yma, dwi wedi cwrdd â nifer o bobl ysbrydoledig drwy weithio i Ganolfan y Mileniwm, Llenyddiaeth Cymru, CBCDC, ar brosiect Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, a’n fwy diweddar, ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwyf wrth fy modd (ac yn nerfus!) wrth ddechrau fy rôl newydd yng Nghaerdydd Creadigol ac yn edrych ymlaen at gwrdd â phob un ohonoch chi a chlywed gennych chi.
Fy swyddi creadigol cyntaf: Dod i adnabod creadigrwydd yng Nghaerdydd
Fy swydd gyntaf gyda phrosiect datblygiad proffesiynol creadigol
Wrth dreulio amser gyda Llenyddiaeth Cymru pan oeddwn yn fyfyriwr ar leoliad cyfathrebu yn 2018, cefais y cyfle i fod yn Gydlynydd Prosiect ar gynllun Awduron wrth eu Gwaith. Cafodd y cynllun datblygiad proffesiynol hwn ei gynnal yn ystod 11 diwrnod yr ŵyl a’r nod oedd meithrin talent ysgrifennu Cymraeg neu o Gymru yn ystod cyfres o weithdai gydag awduron enwog, yn ogystal â chreu cyfleoedd i ryngweithio ac ymgysylltu a’r diwydiant. Fe wnes i ddychwelyd yn 2019 a thrwy’r cynllun, mi ges i gwrdd â rhai o awduron ffantastig Caerdydd (a Chymru gyfan). Dwi wir wedi mwynhau gweld yr holl bethau mae’r criw wedi mynd ymlaen i’w cyflawni.
Gweithio am y tro cyntaf mewn gŵyl a digwyddiadau
Mi wnes i wirfoddoli gyda Bafta Cymru yn Neuadd Dewi Sant ac yng ngŵyl aml-leoliad Sŵn yn 2019. Yn Bafta, cefais weithio ar y carped coch gyda’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus, a bues i’n wirfoddolwr Cynhyrchu a Chysylltu ag Artistiaid gyda Sŵn. Drwy wirfoddoli ar gyfer y ddau ddigwyddiad hyn ychydig o fisoedd ar wahân, cefais weld yn uniongyrchol yr amrywiaeth a geir mewn mentrau creadigol ledled y ddinas. O’n sin gerddoriaeth lewyrchus i’n diwydiant llwyddiannus ym meysydd teledu, gemau a ffilm, roedd hi’n brofiad hynod ddiddorol cael gweld y gwaith sy’n digwydd gefn llwyfan i arddangos talent greadigol Caerdydd.
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o’r digwyddiadau pwysicaf ar fy nghalendr bob amser, ac fe wnes i fwynhau eu gweld nhw’n agor drysau’r ŵyl i gynulleidfaoedd newydd yn 2018 drwy gynnig mynediad am ddim i safle’r ŵyl ym Mae Caerdydd. Yn y llun hwn, dwi gyda fy ffrind Josh, oedd erioed wedi clywed am yr Eisteddfod nes i’r ŵyl ddod i Gaerdydd, ond fe fwynhaodd wrando ar grwpiau Band Pres Llareggub a Omaloma gyda ni! Gweithiais ar stondin CBCDC y flwyddyn honno a mwynhau’n fawr clywed gan y ‘Cymraeg curious’ (yn ogystal â’r rheini oedd yn Eisteddfod ‘curious’ hefyd!) am eu profiadau yn yr ŵyl. Roedd hi’n wych gweld wynebau a lleisiau newydd yn ogystal ag agor drysau ddiwylliant y Gymraeg i bawb yng Nghaerdydd a thu hwnt!
Gweithio yn fy swydd greadigol gyntaf yn amser llawn
Yn ystod fy nghyfnod yn astudio ac yn gweithio yn CBCDC, fe ges i’r cyfle i weld amrywiaeth o berfformiadau byw ac arddangosfeydd, ac roeddwn wastad yn cael fy syfrdanu gan dalent ein hactorion, cantorion, dylunwyr, rheolwyr llwyfan, technegwyr, cerddwyr a phopeth yn y canol. Roeddwn i’n mynd i gyfarfodydd cynhyrchu’n aml ac yn cael mynd i ymarferion gwisg a tech, gan geisio gweld cymaint o bethau â phosibl yn y theatr, stiwdio, galeri, cyntedd a’r neuadd gyngerdd.
Fy nyddiau cyntaf yng Nghaerdydd Creadigol
Yn ystod y dyddiau cyntaf yn fy swydd newydd, rydw i wedi bod yn ceisio dysgu, ymchwilio a darllen gymaint â phosib am ein cymuned greadigol, am waith Caerdydd Creadigol yn ogystal â cheisio dod i adnabod ein rhwydwaith. Drwy weithio gyda Vicki Ball, ein Rheolwr Prosiect, rydw i wedi bod yn dysgu am ein prosiectau diweddar, gan gynnwys ymchwil Cysylltu’r Dotiau, ein Caerdydd creadigol, ein map stori lle creadigol, prosiect Treftadaeth CAER a’r Prosiect Porth Cymunedol. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm i gynllunio a chyfathrebu ein gweithgaredd newydd, a pharhau i ymgysylltu a’n rhwydwaith.
Rhannwch eich stori
Yn fy wythnosau cyntaf, mae gen i ddiddordeb penodol mewn cwrdd â’n rhwydwaith a rhannu stori ein cymuned greadigol. Os hoffech chi rannu un o’ch profiadau Cam Cyntaf Creadigol, swydd gyntaf neu brosiect cyntaf neu’r tro cyntaf i chi rhyngweithio ar ôl y cyfnod clo, hoffwn i glywed gennych chi. Rydw i hefyd yn awyddus i glywed gan y rheini sydd am rannu sut mae Caerdydd Creadigol wedi helpu nhw yn eu gyrfa greadigol, gan y rheini sydd wedi dod o hyd i swydd drwy ein hadran Swyddi, wedi dod o hyd i waith drwy gyfeiriadur ein rhwydwaith (neu rywun i weithio gyda nhw), neu wedi cymryd rhan yn un o’n prosiectau, digwyddiadau neu bodlediadau.