Mae adroddiad Y Ffordd at Adferiad? , sy’n seiliedig ar arolwg sector o ddiwedd 2021, yn edrych ar y sefyllfa bresennol a'r rhagolygon ar gyfer gweithwyr llawrydd i’r dyfodol, ac yn gofyn pa gynnydd, os o gwbl, a wnaed i sicrhau cydbwysedd o’r newydd yn y sector diwylliannol wrth i ni symud ymlaen ar y ffordd at adferiad o bandemig COVID-19.
Mae'r canfyddiadau'n dangos, gan fod hanner y gweithwyr llawrydd wedi colli dros 80% o'u gwaith yn ystod 2021, fod y rhagolygon presennol ar gyfer y sector yng Nghymru yn dal yn llwm. Yn union fel yr oedd lleoliadau'n agor, cynulleidfaoedd yn dychwelyd yn betrus, a gweithwyr llawrydd yn cael eu cyflogi eto, arweiniodd amrywiolyn Omicron at gyfyngiadau newydd.
Er i'r ymchwil ganfod bod yr amrywiol gynlluniau cymorth ariannol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyrff y sector yn rhoi rhywfaint o gymorth i fwyafrif o’r gweithwyr llawrydd diwylliannol, nid oedd hynny’n talu am yr holl golledion a brofwyd gan weithwyr llawrydd.
Mae'r data hefyd yn dangos bodgweithwyr llawrydd â nodweddion gwarchodedig a/neu oedd â chyfrifoldebau gofalu yn 2021yn wynebu rhwystrau ychwanegol i dderbyn cymorth ac mewn mwy o berygl o adael y diwydiant.
Nawr bod llawer o gynlluniau cymorth a gynhaliwyd yn ystod 2021 wedi cau a bod cyfyngiadau newydd ar waith, mae gweithwyr llawrydd yn wynebu blwyddyn gythryblus ac anodd o'n blaenau. Felly, mae'n bwysig cefnogi'r sector ymhellach yn ystod y misoedd nesaf. Ym mis Ionawr cyhoeddwyd trydedd rownd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod £15.4 miliwn arall ar gael i gefnogi'r sector celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru yn ystod pandemig parhaus COVID-19 yn 2022, sydd i'w groesawu'n fawr.
Cewch hyd i ragor o wybodaeth yn yr adroddiad llawn ar wefan Gweithwyr Llawrydd Diwylliannol Cymru neu gallwch ei lawrlwytho isod.
Cliciwch yma i wrando ar yr adroddiad.