Gentle/Radical o Gaerdydd, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Turner, yn agor eu harddangosfa yn Oriel ac Amgueddfa Herbert, Coventry

Mae Gentle/Radical yn falch o gyhoeddi agoriad eu harddangosfa yng Ngwobr Turner 2021 y Tate. Bob yn ail flwyddyn caiff Gwobr Turner ei llwyfannu y tu allan i Lundain. Cyflwynir arddangosfa eleni yn Coventry fel rhan o Ddinas Diwylliant y DU 2021.  

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 29 September 2021

Mae Gentle/Radical o Gaerdydd, a sefydlwyd yn 2017, yn un o bum grŵp sydd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr eleni, ac am y tro cyntaf yn ei hanes, cydweithfeydd-artistiaid yn unig sy’n ffurfio enwebiadau 2021, gan gynnwys Array Collective, Black Obsidian Sound System, Cooking Sections a Project Art Works. 

Sefydliad celfyddydol yw Gentle/Radical sy'n cynnwys artistiaid, gweithredwyr cymunedol, hyfforddwyr datrys gwrthdaro, gweithwyr ffydd, gweithwyr ieuenctid, ymarferwyr cydraddoldeb, perfformwyr, awduron ac eraill. Maen nhw’n dyfeisio gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol sy’n cynnwys dangosiadau ffilm, symposia ar lawr gwlad, gweithiau perfformiadol, sgyrsiau, prydau bwyd, darlleniadau, cynulliadau, dathliadau, a gweithgareddau eraill sy'n dod â phobl ynghyd. 

Gentle Radical Riverside photo - credit Michal Iwanowski

Arddangosfa Gentle/Radical

“Byw yw byw gydag eraill; cydweithwyr, cymdeithion, cymdogion a dieithriaid.”

Mae arddangosfa Gentle/Radical yn archwilio sut rydyn ni'n uniaethu â'n gilydd, a bod yn dyst i'n gilydd, ar adegau o drafferth a phosibilrwydd hefyd. Gan dynnu ar fideo, elfennau wedi'u canu, darnau gwaith testun ac argraffedig, mae eu cyflwyniad yn archwilio sut mae rhwydweithiau gofal a chyfeillgarwch - sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu mewn diwylliannau gwaith sy'n blaenoriaethu allbynnau a chanlyniadau - yn ein galluogi i wynebu'r presennol cythryblus, tra’n dychmygu dyfodolau eraill.

Mae cyfres o weithiau wedi'u ffilmio yn cynnig cipolwg ar sgyrsiau ar y cyd a pharhaus y grŵp gan godi cwestiynau am allu personol a chyfunol i weithredu yn wyneb grymoedd allanol: Sut ydyn ni'n magu plant y tu hwnt i'r teulu niwclear? Sut ydyn ni'n cynnal lleoedd ar gyfer galar a cholled yng nghanol galwadau cyson i aros yn gynhyrchiol? Sut mae elfennau niferus diaspora yn ymddangos yn ein plith?

Mae ail ddarn o waith fideo yn troi o gwmpas grŵp o drigolion Caerdydd yn dysgu, ac yn mynd ati i gyd-ganu, testun gweddi farddol Gorsedd Cymru a ysgrifennwyd gan Iolo Morganwg yn y 18fed ganrif. Wedi’i osod i gerddoriaeth gan Bragod, y ddeuawd werin o Gaerdydd, mae’r gwaith yn dyrchafu'r weithred betrus o ddysgu, rhannu a lleisio gyda'n gilydd, i gymryd lle cynnyrch terfynol neu orffenedig.

Mae elfennau eraill o'r arddangosfa'n cynnwys darn o waith wal sy'n manylu ar nodiadau o gwricwlwm datblygol sy'n llywio ymarfer Gentle/Radical; a gwaith argraffedig, sydd hefyd yn adleisio testun Gorseddol, gan droi o gwmpas gwerthoedd gwybodaeth, cryfder, amddiffyniad a chyfiawnder.

Dyfyniad, Rabab Ghazoul, Cyfarwyddwr Gentle/Radical: 

I sefydliad sydd fel arfer yn cyflwyno digwyddiadau diwylliannol mewn lleoliadau cymunedol, roedd clywed ein bod wedi cael ein henwebu ar gyfer Gwobr Turner yn dipyn o sioc. Ond roedd hefyd yn teimlo fel cyfle anhygoel i feddwl sut y gallem ni, ar y cyd, ymddangos mewn cyd-destun oriel gyda'n gilydd.

"Yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg yw arddangosfa sy'n rhannu rhai o agweddau mwyaf personol ein gwaith gyda'n gilydd - y deialogau parhaus hynny y tu ôl i'r llenni, sy'n cyfeirio at ein trafferthion wrth fynd i’r afael â gwladychiaeth, diaspora, gwrthsafiad, iachâd, cyfiawnder, colled a thrawsnewid. Ac wrth gwrs, mae’r gwaith hwnnw i gyd yn digwydd yng Nghymru, felly mae mynd i’r afael mewn ffyrdd cynnil ag elfennau helaeth pwy ydyn ni, ble rydyn ni’n byw, a’r hunaniaethau cymhleth sydd gan Gymru, mae hefyd wedi teimlo’n hanfodol."

Cefnogwyd datblygiad arddangosfa Gentle/Radical ar gyfer Gwobr Turner gan dîm curadurol sy’n cynnwys Ben GJ Thomas, Melissa Hinkin a Rabab Ghazoul; Simon Clode a Matt Smith o Crowblack Films; ac aelodau/partneriaid Gentle/Radical Isabel Calvete, Adeola Dewis, Roseanna Dias, Laura Drane, Rabab Ghazoul, Thomas Goddard, Samson Hart, Tony Hendrickson, Rachel Kinchin, Stephen Lingwood, Ahmad Musa, Mary-Anne Roberts O'Reilly, Divya Parikh ac Anushiye Yarnell. 

Gwnaed arddangosfa Gentle/Radical yn bosibl trwy gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am Gentle/Radical http://gentleradical.org/ ac i ymweld ag Arddangosfa Gwobr Turner a sut i archebu https://www.theherbert.org/whats_on/1560/turner_prize_2021

 

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event