Mae S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol fydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau na’r hyn sy’n gwylio Newyddion S4C ar deledu, er mwyn iddyn nhw fedru cael newyddion amrywiol yn y Gymraeg, ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag mae nhw eisiau.
Rydym yn chwilio am 2 Newyddiadurwr Digidol i weithio ar y gwasanaeth.
Gyda diddordeb brwd mewn newyddion Cymreig a’r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o’r newydd a denu dilyniant.
Bydd gennych drwyn am stori a’r gallu i fod yn greadigol gyda’r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy’n dal y llygad ac yn creu sŵn.
Gyda sgiliau ieithyddol cryf byddwch yn ysgrifennu yn gywir ac yn ystwyth a bydd gennych y ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.
Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.
Dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i’r dyfodol. Os oes gennych chi'r sgiliau a'r profiad perthnasol i helpu ni i adeiladu ein gwasanaeth, hoffem glywed gennych.
Manylion eraill
Lleoliad: Lleoliad arferol y swydd yw Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, ac mae S4C yn cynnig trefniadau gweithio’n hyblyg.
Oherwydd coronafeirws mae S4C wedi lleihau mynediad i'w swyddfeydd ar gyfer staff sydd ddim ynghlwm a darlledu er mwyn sicrhau diogelwch a lles unigolion ac i ddiogelu darlledu. Mae'n bosibl felly y bydd gofyn i chi weithio o bell wrth ymuno â'r sefydliad os yw'r cyfyngiadau hyn yn dal ar waith.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: 6 mis
Nifer o swyddi: 2
Oriau gwaith: 35 ¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os yw eich cytundeb yn llai na blwyddyn, neu neu byddwch yn gweithio'n rhan-amser, mi fydd eich gwyliau ar sail pro rata.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 21 Medi 2020 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV.