Bydd gŵyl Tafwyl; dathliad blynyddol Caerdydd o gelfyddydau a diwylliant Cymreig yn digwydd ar-lein yn 2020.
Bydd rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau yn cael ei ffrydio’n fyw ar 20 Mehefin ac yn parhau i gynnig cyfuniad cyffrous o gerddoriaeth fyw, llenyddiaeth, trafodaethau a gweithgareddau i blant. Bydd y gerddoriaeth yn dod yn fyw o gartref diweddaraf y digwyddiad, Castell Caerdydd, gan fod ymysg y cyntaf o wyliau’r DU i ffrydio o leoliad yr ŵyl.
Dywedodd Manon Rees O’Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, trefnwyr yr ŵyl;
“Mae’r gigs ystafell wely a welwyd yn ddiweddar gan wyliau poblogaidd eraill wedi bod yn wych wrth gwrs wrth lenwi’r bwlch diwylliannol dros yr wythnosau diwethaf, ond roedd y tîm ym Menter Caerdydd yn teimlo y byddai’n anhygoel gallu cynnig cynhyrchiad o safon i artistiaid a gwylwyr gartref, a hynny o leoliad eiconig, gan ddathlu popeth sy’n wych am ein hiaith a’n diwylliant. Wrth gwrs, trwy gydol y cyfnod cynllunio, diogelwch sydd wedi bod yn flaenoriaeth, ac rydym wedi cydymffurfio’n llawn â rheolau a chyfyngiadau’r Llywodraeth. Rhaid diolch i’n cyllidwyr a’n cefnogwyr allweddol sydd wedi ein galluogi i ddod â Tafwyl i chi eleni. Er yn wahanol iawn dan reolaeth lym a heb gynulleidfa, ni allwn aros i fod yn ôl yng Nghastell Caerdydd.”
A hithau’n gyfnod pryderus i’r celfyddydau, artistiaid, a’r diwydiant digwyddiadau byw, bydd yr ŵyl yn darparu platfform diwylliannol hanfodol a chefnogaeth i’r diwydiant ar adeg pan mae ei angen fwyaf.
Dywedodd Antwn Owen-Hicks o Gyngor Celfyddydau Cymru:
“Erbyn hyn, Tafwyl yw’r prif ddigwyddiad celfyddydol Cymraeg yng Nghaerdydd, ac yn ŵyl sy’n denu cynulleidfa o bob rhan o Gymru, a thu hwnt. Rydym mor falch bod Tafwyl wedi penderfynu cadw mewn cyswllt â’u cynulleidfa a sicrhau gŵyl ddigidol eleni. Mae’n dda eu gweld yn barod i ddychmygu ac ystyried sut y gallant oroesi yn ystod y cyfnod anodd yma, a pharhau i gynnig llwyfan i’n hartistiaid– a hynny’n hollol ddigidol am y tro cyntaf. Rydym mewn cyfnod o newid mawr i’n bywydau arferol ac mae’n galonogol gweld y sector creadigol yn ymdopi ac addasu ac rydym yn hynod falch o gefnogi Tafwyl drwy ein grantiau Loteri Cenedlaethol.”
Clwb Ifor Bach sydd yng ngofal curadu’r gerddoriaeth. Bydd cymysgedd eclectig o 10 artist yn perfformio o Gastell Caerdydd, gan gynnwys setiau byw gan y canwr poblogaidd Al Lewis, y grŵp roc-amgen HMS Morris a’r berfformwraig electro-pop Hana. Ymysg y setiau acwstig bydd perfformiadau gan yr artist synthpop, Casi, y cerddor gwerin talentog Gareth Bonello a’r artist ffync-pop Alun Gaffey.
Yn ogystal â’r gerddoriaeth fyw, darperir nifer o elfennau arferol Tafwyl, gan gynnwys sgyrsiau, sesiynau llenyddol a gweithdai i blant. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae sesiwn holi-ac-ateb gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, a ddylai fod yn Rhufain dros benwythnos Tafwyl wrth gwrs, gweithdy syrcas i blant gyda Nofit State a sesiwn lenyddol gyda chriw Y Stamp.
Bydd y masnachwyr a oedd yn bwriadu cael stondin yn y digwyddiad eleni hefyd yn cymryd rhan mewn marchnad ddigidol ar Facebook; a bydd gan ysgolion lleol Caerdydd a Bro Morgannwg lwyfan digidol i arddangos eu talent.
Rhan enfawr o apêl Tafwyl bob blwyddyn yw’r bwyd a diod, ac ni fydd gŵyl ddigidol yn newid hynny. Bydd rhai o’r arlwywyr a oedd i fod i fasnachu yn y digwyddiad yn danfon bwyd at ddrws y gynulleidfa gan gynnwys The Bearded Taco, Mr Croquewich, Y Bwrdd a West Pizza; a bydd St Cannas yn darparu gwasanaeth bar gan ddanfon cwrw a seidr Cymreig i gartrefi’r gwylwyr.
Dywedodd Huw Stephens, a fydd yn cyflwyno o’r castell ar y dydd;
“Mae’n haf gwahanol a rhyfedd i bawb. Ond mae Caerdydd, Cerddoriaeth a’r gymuned Gymraeg yn parhau i ddod a dipyn bach o oleuni i fis Mehefin. Fi’n falch iawn gallu bod yn rhan o Tafwyl 2020, gyda gymaint o ddigwyddiadau diddorol yn digwydd yn rhithiol, ac wrth gwrs deg artist fydd yn chwarae sets i ni yn fyw o Gastell Caerdydd. Logiwch mlaen, Chiliwch allan, Trowch e lan.”
Mae Menter Caerdydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Arts & Business Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg i gynnal Tafwyl.
Bydd Tafwyl yn cyd-weithio â Gŵyl Fach y Fro, gŵyl flynyddol ar Ynys y Barri a drefnir gan Menter Iaith Bro Morgannwg; gan gyfuno adnoddau er mwyn apelio at ddilynwyr a chynulleidfa’r ddwy ŵyl.
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol;
“Er na allwn ni fod gyda’n gilydd yn Tafwyl eleni, mae’n newyddion cyffrous iawn y cawn ychydig bach o brofiad Tafwyl o’n cartrefi. Mae’r ymateb arloesol wrth rannu, dathlu a dod â phobl ynghyd o’r diwydiannau creadigol wedi bod yn rhagorol – ac mae wedi darparu gobaith ac adloniant yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae Cymru Greadigol hefyd wedi cefnogi platfform AM ac mae’n wych gweld y twf yn y platfform hwn wrth gefnogi a hyrwyddo’r sectorau celfyddydol a chreadigol. Wrth gwrs, efallai nad yw llawer o bobl wedi clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad yn ystod yr amser hwn – felly bydd hyn yn gyfle gwych i ddod â rhywfaint o’r Gymraeg i’n cartrefi. “
Dywedodd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd;
“Rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu rhoi allweddi Castell Caerdydd i Tafwyl ar gyfer yr ŵyl ddigidol eleni. Dyma un o fy hoff wyliau Cymraeg, sy’n cyfuno cerddoriaeth, diwylliant a’n hiaith mewn ffordd sy’n ddiymdrech, yn hynod bleserus ac yn agored i bawb. Wrth gwrs mae’r pandemig yn golygu na all yr ŵyl fwrw ymlaen â’r torfeydd enfawr y mae wedi’u denu dros y blynyddoedd diwethaf, ond trwy agor y castell ar gyfer y darllediad byw hwn, gobeithio y bydd yn atgoffa pawb o’r amseroedd gwych maent wedi’u cael yno yn y gorffennol, yn rhoi gwefr go iawn iddynt ar y diwrnod, ac yn gwthio eu chwant am gael dychwelyd y flwyddyn nesaf. ”
Bydd yr ŵyl yn cael ei ffrydio ar AM – platfform ar-lein sy’n rhannu a dathlu creadigrwydd Cymru. Mae ap AM am ddim i’w lawrlwytho o Apple App Store a Google Play – www.amam.cymru/ambobdim ac mae modd gwylio ar gyfrifiadur ar www.amam.cymru.
Poster Tafwyl 2020 gan arlunydd swyddogol yr ŵyl, Efa Lois. Mae Efa sy’n dod yn wreiddiol o Geredigion, yn ffocysu’n bennaf ar bositifrwydd, blodau, estheteg y 70au a chwedloniaeth. Mwy o wybodaeth am y poster a nifer cyfyngedig o'r printiau yma.