Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol yn ennill gwobr yr Is-Ganghellor am Gyfraniad Rhagorol i Brifysgol Caerdydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 November 2019

Mae Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol, Sara Pepper, wedi ennill gwobr yr Is-Ganghellor am Gyfraniad Rhagorol i Brifysgol Caerdydd.
 

Cafodd Sara ei chydnabod gyda'r wobr arbennig hon yn y seremoni Dathlu Rhagoriaeth, a gafodd ei chynnal ddydd Iau, 14 Tachwedd.
 
Mae Sara wedi gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ers dros 10 mlynedd, gan ddechrau yn Ysgol Busnes Caerdydd ac yna yn rôl Cyfarwyddwr yr Uned Economi Creadigol, gan ddatblygu Caerdydd Creadigol o fod yn gysyniad i fod yn rhwydwaith o dros 3,000 o aelodau.
 
Roedd Sara yn sbardun allweddol o ran y gwaith o ddiogelu Clwstwr - cais llwyddiannus cyntaf y Brifysgol ar gyfer gwobr Strategaeth Ddiwydiannol cyngor ymchwil a'r wobr fwyaf a dderbyniwyd gan brifysgol yng Nghymru erioed ar gyfer y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Hi yw Prif Swyddog Gweithredu y rhaglen Ymchwil a Datblygu, sydd werth £10 miliwn.
 
Wrth sôn am ddyfarnu'r anrhydedd, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan:

"Mae ymrwymiad Sara i strategaeth arloesedd y Brifysgol a'i chred yn ei gwerth yn dod i'r amlwg drwy ei harweinyddiaeth ysbrydoledig. Mae'r rhinweddau hyn yn creu lefel o hyder sy'n golygu nad oes gen i amheuaeth y bydd ei chyflawniadau yn y dyfodol yn helaeth."
 
Dywedodd yr Athro Justin Lewis, arweinydd academaidd a chyd-sylfaenydd Caerdydd Creadigol:

"Rydym yn falch iawn o Sara ac wrth ein bodd o weld ei gwaith gwych yn cael ei gydnabod gan yr Is-Ganghellor. Mae hi'n llysgennad gwych i'r Brifysgol. Ac roedd y syndod ar ei hwyneb pan gyhoeddwyd ei henw yn amhrisiadwy!"

And the Vice-Chancellor’s Award for Outstanding Contribution to the University goes to...@missspepper We’re so proud of all that you do! Ry’n ni mor falch o’n Cyfarwyddwr, Sara Pepper! #cardiffunicea pic.twitter.com/ZgpXZdaocw

— CaerdyddCreadigol | CreativeCardiff (@CreativeCardiff) November 14, 2019


Dywedodd Sara:

"Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd aruthrol, ac rwy'n teimlo'n falch iawn. Roedd yn hynod annisgwyl! Rydw i'n ddiolchgar iawn i'r Is-Ganghellor am y gydnabyddiaeth hon, ac i'r holl gydweithwyr a chysylltiadau gwych a thalentog sydd gen i yn fy ngwaith sydd wedi galluogi hyn i ddigwydd."
 
Un o enillwyr eraill y noson o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant oedd Rheolwr yr Ysgol, Jo Marshall-Stevens, a enillodd y wobr Gwella Profiad Staff yn Eithriadol. Llongyfarchiadau!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event