Beth mae Caerdydd Creadigol yn ei olygu i chi?

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 21 October 2019

Roedd yn 22 gradd ar 22 Mehefin eleni a miloedd o bobl yn llenwi tiroedd Castell Caerdydd gyda channoedd yn ciwio'n amyneddgar y tu allan. Roedd Tafwyl dan ei sang ac roedd wythnos i fynd cyn imi ddechrau fy rôl newydd fel rheolwr prosiect gyda Caerdydd Creadigol. Ymunais â'r ciw gyda fy ffrind Ffion, cynhyrchydd theatr i blant, a gwnes i fanteisio ar y cyfle i ofyn: "Beth mae Caerdydd Creadigol yn ei olygu i chi?".

"Ah" meddai, "Ces i fy swydd ddiweddaraf drwy eu gwefan – mae honno’n adnodd mor werthfawr ond... mae'n debyg y byddwn i'n hoffi dysgu mwy am beth arall maen nhw'n ei wneud mewn gwirionedd!". Roedd hwn yn ymateb eithaf cyffredin pan ofynnais i i ffrindiau yn y gymuned greadigol ddweud wrthyf i beth roedden nhw'n ei wybod am y sefydliad cyn i mi ymuno.

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae'r sefydliad wedi rhagori ar ffigurau nodedig o fwy na 2900 o aelodau yn ein rhwydwaith dinas greadigol, wedi trefnu mwy na 50 o ddigwyddiadau ac wedi datblygu presenoldeb cryf ar-lein.

Gan fy mod wedi cael fy mhenodi'n rheolwr prosiect, rydyn ni wedi cymryd yr amser i ystyried a dadansoddi'r hyn y mae ei angen arnon ni, ar ein partneriaid ac wrth gwrs, ar y gymuned greadigol a'r hyn rydyn ni eisiau a gwnaethon ni edrych ar y ffordd orau i rannu ein gweithgaredd fel y bydd gan fy ffrind Ffion a rhai eraill ddealltwriaeth well a gallan nhw gymryd mwy o ran.

Gweledigaeth Caerdydd Creadigol yw i'r ddinas gael ei chydnabod nid yn unig fel un o brifddinasoedd creadigrwydd yn y DU ond fel y brifddinas ar gyfer creadigrwydd. Mae'r uchelgais hwn yn nodweddiadol o'r tîm fan hyn ac roedd yn un o'r agweddau niferus a wnaeth ymuno â'r grŵp ysbrydoledig hwn o bobl yn ddeniadol. Mae ein hymchwil diweddar i rwydweithiau dinasoedd creadigol tebyg mewn dinasoedd ledled y DU yn dangos y bydd y nod hwn yn heriol, o gofio'r twf yn y diwydiannau creadigol sy'n digwydd mewn mannau eraill (ac yn fyd-eang hefyd).

Rydyn ni'n awyddus i uno arweinwyr pob un o'r rhwydweithiau hyn yn fuan er mwyn cryfhau ein safbwynt ni a sefyllfa'r economi greadigol ehangach sy'n cwmpasu pob math o waith creadigol, boed hynny mewn diwydiannau creadigol fel y teledu neu fusnesau eraill, fel yswiriant neu'r diwydiant ceir, sy'n dibynnu fwyfwy ar greadigrwydd am eu llwyddiant masnachol. 

Yn ystod fy neufis cyntaf, rydw i wedi cael llawer o gyfarfodydd, sgyrsiau a theithiau cerdded o amgylch y bloc (o gwmpas Neuadd y Ddinas) gyda Sara a Kayleigh – y menywod y mae eu hegni, eu ffocws, eu cynhesrwydd a'u disgleirdeb wedi arwain y sefydliad mor bell hyd yma. Maen nhw wedi esbonio rhai o'r newidiadau a'r datblygiadau y maen nhw wedi bod yn dyst iddyn nhw yn y gymuned greadigol (a'r ddinas ehangach) ers sefydlu Caerdydd Creadigol yn 2015. 

Roeddwn i am i'r ddinas a'i diwylliant ddylanwadu ar fy myfyrdodau ar y syniadau am y sefydliad. Rydw i wedi'i wneud yn genhadaeth imi ddefnyddio cymaint o ddiwylliant â phosibl ac roedd hynny'n eithaf hawdd yn ystod haf llawn dop cynigion gwych megis Tafwyl, Gŵyl Hub a Charnifal Butetown.

Ychydig o wythnosau i mewn i'm rôl newydd, es i i gyfarfod cwrdd â phobl yng Nghanolfan Gymunedol Butetown. "Mae Caerdydd yn ddinas hiliol" - dyna ddatganiad a wnaeth fy nharo i yn fy mol. Roedd y sesiwn yn wahoddiad agored i ddechrau rhwydwaith i bobl o'r gymuned BAME sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes ffilm a theledu a safodd un o'r rhai oedd yno i fyny a gwneud y sylw hwnnw. Gwnes i fy atgoffa fy hun pam roeddwn i wedi mynd i'r cyfarfod yn y lle cyntaf – i wrando, ac i weld beth arall y gallai Caerdydd ei wneud i gysylltu unigolion â sefydliadau creadigol o bob rhan o'r ddinas a gwneud yn siŵr i herio fy rhagdybiaethau i a rhai'r sefydliad.

O fewn mis o fod yn y swydd, roeddwn i wedi trefnu cyfres o grwpiau ffocws wedi'u hwyluso, gan gynnwys gweithwyr llawrydd a sefydliadau. Roedd y canfyddiadau'n dwyn ffrwyth, ac roeddwn i'n ei chael yn ffordd ddefnyddiol i fy nghyflwyno fy hun a chael barn am bethau gan y bobl sy'n cyfrif fwyaf – y gymuned greadigol. Mae'r mynychwyr yn gweld Caerdydd Creadigol fel rhywbeth sydd â'r potensial i fod yn 'siop bopeth' ar gyfer gwybodaeth a chymorth anariannol y gellir ymddiried ynddi. Mynegodd llawer ohonyn nhw eu hawydd i wybod mwy am 'ofod' i weithio a 'gofod' i rannu syniadau a chyfleoedd gan ein harwain at y casgliad mae awydd o hyd i Gaerdydd Creadigol barhau â'n gwaith o gefnogi, proffilio a hyrwyddo mannau creadigol yn y ddinas.

Rydyn ni wedi cyfateb yr adborth o'r grwpiau ffocws gyda rhywfaint o ddadansoddiad â ffocws a gynhaliwyd gan y myfyriwr ar interniaeth Urszula Rodakowska, o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Caerdydd, ar daith gyfredol y defnyddiwr ar ein gwefan a fydd yn arwain at olwg ac ymdeimlad rhyngweithiol newydd ac rydyn ni'n gobeithio y bydd ein cymuned yn ei hoffi ac y bydd o fudd iddynt.  

Rhywbeth arall a ddangosodd fy ymchwil yw bod tirlun digwyddiadau Caerdydd yn teimlo'n wahanol yn awr oherwydd i'r ddinas gynnal nifer o ddigwyddiadau mawr, proffil uchel, ar raddfa fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae llawer mwy o ddigwyddiadau cwrdd â phobl a arweinir gan y gymuned greadigol ac ar ei chyfer - efallai yn agosáu at y pwynt lle mae gormod. Mae amser ac adnoddau yn dynnach byth i unigolion creadigol yn y ddinas, felly rydyn ni am godi proffil ac effaith ein digwyddiadau - gan greu cyffro a rhoi egni i'n cymuned yn y broses. 

Roedd fy ngwaith yn cyd-fynd â'r gwaith paratoi ar gyfer lansio'r garfan gyntaf a ariannwyd o'r prosiect Clwstwr - rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd i arloesi yn y sector sgrîn yma yn ne Cymru. Gyda rhai o dîm Caerdydd Creadigol yn gweithio ar draws y prosiect Clwstwr hefyd, roedden ni'n gallu cynnwys canfyddiadau o'r broses honno yn ein penderfyniadau; megis nodi'r angen i gynyddu dealltwriaeth unigolion creadigol o fenter a datblygu entrepreneuriaid creadigol presennol, a chefnogi rhai newydd. Bydd y llinyn gwaith newydd hwn yn bwydo i mewn i'n rhaglen o ddigwyddiadau ac adnoddau.

Yn fy nhri mis cyntaf, mae'r ymchwil wedi'i gwneud a'r adborth wedi'i gasglu. Rydym wedi llunio cynllun ac wedi dewis ein meysydd ffocws. Ond dydyn ni ddim am wneud hyn ar ein pennau ein hunain – chi, y gymuned greadigol yw'r holl reswm y mae Caerdydd Creadigol yn bodoli.

Felly, rydym yn gwahodd unigolion o'r gymuned greadigol i wneud cais i ymuno â ni ar y daith fel rhan o grŵp cynghori newydd. Rydym am chwilio am yr aelodau mwyaf egnïol ac ymroddedig o'r gymuned greadigol sy'n awyddus i fod yn rhan o daith Caerdydd Creadigol ac ymgysylltu â nhw. Bydd y grŵp cynghori yn myfyrio ar ein gwaith a'n cynlluniau, yn ein herio, yn tanio ein huchelgeisiau a'n dyheadau, yn rhannu ein hangerdd, ac yn helpu i ledaenu'r neges am economi greadigol Caerdydd, gartref a thu hwnt.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddod yn rhan o'n grŵp cynghori yma – hoffem glywed eich barn am yr hyn rydym yn ei gynnig.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event