Pigion Caerdydd Creadigol ar gyfer Gŵyl Ddylunio Caerdydd 2019

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 27 September 2019

Mae Gŵyl Ddylunio Caerdydd bron yma! Bydd yn dychwelyd ym mis Hydref gyda lein-yp trawiadol o ddigwyddiadau dylunio. 

Lansiwyd Gŵyl Ddylunio Caerdydd yn wreiddiol yn 2005 ac yn dilyn toriad byr, mae'r ŵyl yn ôl gyda safbwynt a brand newydd a thîm mwy. 

Celebrate design. Celebrate Cardiff. Cardiff Design Festival is returning this October.

Sign up now for updates: https://t.co/Oxx4q3Rbxe pic.twitter.com/pYlXe1GrA4

— Cardiff Design Fest (@CDFdesignfest) April 18, 2019

Pedwar nod i'r ŵyl, sy'n digwydd o 10 i 13 Hydref, yw i herio diffiniad dylunio, dathlu Caerdydd, creu cysylltiadau ac arddangos doniau lleol ac annog cyfranogiad.

Mae'r lein-yp amrywiol yn cynnwys ymddangosiad gan y darlunydd Niki Pilkington sy’n dychwelyd i Gymru, cyflwyniadau creadigol gan Smörgåsbord, Greg Barth a'r Yarza Twins yn rhan o ddigwyddiad mawr It Will Glow, a gweithdai am Ddylunio Profiad Defnyddiwr, Dylunio Gwasanaeth a Marchnad Llunwyr. Mae llawer mwy i edrych ymlaen ato a gallwch weld restr lawn o'r digwyddiadau hyn yma. 

So there you have it, boys & girls. Your creative lineup for the evening. Tasty.@gregbarthdottv @Smorgasbord_ @yarzatwins pic.twitter.com/QKa1wC4nGE

— It Will Glow (@ItWillGlow) September 19, 2019

Mae gan dîm Caerdydd Creadigol rai digwyddiadau mewn golwg. Dyma ein ffefrynnau ar gyfer y penwythnos:

Dywedodd ein Rheolwr Prosiect, Vicki Sutton: “Dwi'n edrych ymlaen at Creative Mornings gyda Niki Pilkington. Dwi wedi bod yn talu sylw i'w gwaith gyda brandiau mawr fel Topshop a Ted Baker ac mae ei dyluniadau lliwgar ac ysbrydoledig yn drawiadol iawn. 

Bydd yn ddiddorol clywed sut llwyddodd i gynnal cysylltiadau gyda Chymru wrth fyw yn L.A. a sut mae llwyddodd i adeiladu brand llwyddiannus byd-eang. Rwy' hefyd yn gobeithio y bydd ganddi ddyluniadau - mae'n benblwydd arna' i'n fuan!" 

Dywedodd Kayleigh Mcleod, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu: “Dwi'n dewis digwyddiad Warrior Women’s Designers, Makers and Creatives yn Tramshed Tech. Roedd y digwyddiad yn apelio i mi'n wreiddiol am fod Cath Jones, sefydlydd Sadler Jones yn rhan ohono - rwy'n caru deunyddiau ysgrifennu! Mae gan waith Cath esthetig gwahanol - rwy'n edrych ymlaen at glywed ei siwrne greadigol.

Pan welais fod yr aml-dalentog Lizzie Lafrate o Fizz Goes PopRosi Illustration yn rhan o'r digwyddiad hefyd, ro'n i'n barod am nos Wener berffaith." 

Super excited to launch our new partnership with @Warriorwomenev! Catch the first event on the 11th October as part of @CDFdesignfest Tickets on sale 20th September!#warriorwomenevents pic.twitter.com/N67FEIqsOG

— Tramshed Tech (@TramshedTech) September 4, 2019

Dywedodd Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Beca Harries: "Mae'n anodd dewis gan fod pob digwyddiad mor wahanol. Rwy'n edrych ymlaen at Letter Lab, rwy'n caru ffontiau a llythrennu felly rwy'n licio'r syniad o greu rhywbeth yn y maes hwnnw. 

Byddai hefyd yn mynychu digwyddiad Smörgåsbord – Cymraeg gyda Rhagolwg Byd-eang. Rwy'n caru'r hyn maen nhw wedi gwneud gyda brand Cymru a'r teip unigryw sy'n talu teyrnged i hunaniaeth ddwyieithog Cymru. Maen nhw'n credu mewn Cymru fyd-eang a modern a rwy'n hoffi hynny." 

Dyma'r lein-yp yma. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event