Gŵyl ddylunio Caerdydd yn dychwelyd i ddathlu dylunio yn y ddinas

Profile picture for user Kayleigh Mcleod

Postiwyd gan: Kayleigh Mcleod

Dyddiad: 7 June 2019

Mae Gŵyl Ddylunio Caerdydd yn dychwelyd i leoliadau amrywiol ar draws y ddinas o 10 i 13 Hydref ar ôl egwyl o wyth mlynedd.  

Mae llond gwlad o ffyrdd i gymryd rhan a sicrhau bod yr ŵyl yn adlewyrchu Caerdydd yn ei holl wychder ac amrywiaeth. Efallai bod gennych syniad mentrus sydd angen criw o gydweithwyr i’w gyflawni. Efallai yr hoffech wirfoddoli er mwyn cael profiad a chreu cysylltiadau newydd. Efallai yr hoffech bartneru â’r ŵyl neu ein noddi ni. Efallai yr hoffech gynnal digwyddiad, ein gwahodd i ddefnyddio eich lleoliad neu rannu eich gwaith dylunio. Beth bynnag eich syniad neu fwriad, dyma eich siawns orau i helpu datblygu’r ŵyl fewn i rywbeth sy’n adlewyrchu creadigrwydd ein dinas anhygoel.

Mewn digwyddiad cyn y lansiad ar ddydd Mawrth, 4 Mehefin yn Tramshed Tech bu'r trefnwyr yn rhannu eu gweledigaeth i Ddathlu Dylunio a Dathlu Caerdydd gan annog eraill i gymryd rhan. 

Dywedodd Melin Edo o Illustrate Digital a thîm Gŵyl Ddylunio Caerdydd: "Mae'r digwyddiadau a'r syniadau rydych chi'n cyflwyno yn llunio'r ŵyl. Yn ogystal â hynny, bydd tîm yr ŵyl yn cynnal rhai prif ddigwyddiadau. 

Ein ffocws bydd i arddangos gwaith ardderchog sydd wedi'i wneud yng Nghymru yn ogystal â dod â rhai enwau mawr o'r diwydiant dylunio yn ôl i Gymru." 

Roedd yr ŵyl yn gweithredu o 2005 i 2013 ac roedd yn llwyddiannus yn dod â'r gymuned ddylunio at ei gilydd yn y ddinas. 

Roedd Owen Moseley, Deon Ysgol Celf a Dylunio, yn aelod sefydlu ac yn ystod y digwyddiad lansio fe rannodd ei syniadau am waddol weithgarwch yr ŵyl wreiddiol gan edrych ymlaen at y dathliad yn 2019. 

"Mae'n ddathliad o waith. Pleser yr ŵyl yw y gall fod yn unrhyw beth - mae'n fater o fentro gyda syniadau gwahanol am ddigwyddiadau efallai yr hoffech gynnal." 

Siaradodd Gareth Strange o dîm yr ŵyl am ail-lansio’r brand gyda stiwdio dylunio graffeg John a Jane. 

Dywedodd: "Roedden i'n teimlo bod hi'n bwysig iawn i adlewyrchu'r gwaddol o'r hyn ddaeth cynt. Ar ôl i'r ŵyl gymryd seibiant yn 2013 roedd ffrwydrad o ddigwyddiadau creadigol ledled y ddinas - Creative Mornings, Design Studio - roedd dyhead i'r gymuned greadigol barhau i wneud pethau anhygoel, a dod â phawb ynghyd. Felly aethon ni drwy'r broses dylunio, roedden ni eisiau gwneud rhywbeth byddai Caerdydd yn gallu perchnogi felly mi wnaethon ni droi un o'r cylchoedd gwreiddiol mewn i C." 

Mae'r trefnwyr yn awyddus i chi gymryd rhan. Bu aelod o dîm Gŵyl Ddylunio Caerdydd, Dan Spain o Rabble Studio hefyd yn rhannu ei syniadau i gael canolbwynt i'r ŵyl y byddai'n bodoli fel prif ganolfan wybodaeth, gweithdy, siop dros dro a man cymdeithasu. 

Gallwch gymryd rhan yma:

 https://cardiffdesignfestival.com/cy/ 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event