Bydd Dinasoedd Digidol yn dychwelyd i Gaerdydd wythnos nesaf (1 - 5 Ebrill 2019). Mae’r digwyddiadau sydd am ddim ac wedi eu llunio i ennyn sgiliau newydd wedi’u hanelu at bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol a thechnolegol. Maent yn cynnwys sesiynau rhyngweithiol gydag arweinwyr y diwydiannau, yn ogystal â gweithdai sgiliau digidol a chyfleoedd comisiynu.
Wedi’u dylunio ar gyfer pobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiannau creadigol a technolegol neu sy'n gobeithio symud i’r diwydiannau hynny, mae’r wythnos o weithgareddau yn cael ei chynnal ledled Caerdydd. Mae rhagor o wybodaeth a thocynnau ar gael yma. Bydd #DigiCities a @BBCAcademy yn cyhoeddi’r newyddion diweddaraf hefyd.
Dywedodd Iain Tweedale o BBC Academy sydd yn Gynhyrchydd Dinasoedd Digidol:
Mae Dinasoedd Digidol yn hanfodol i bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol a thechnolegol. Mae’n gyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd, yn ogystal â chanfod cyfleoedd cydweithredol newydd yn y sector hwn sy'n tyfu yng Nghaerdydd a de Cymru. Mae digwyddiadau Dinasoedd Digidol yn cael eu cynnal mewn chwe dinas ledled y Deyrnas Unedig a dyma’r trydydd tro i'r digwyddiad hwn ddod i Gaerdydd. Gyda cynifer o ddigwyddiadau am ddim ledled y ddinas, mae'n siŵr o fod yn llwyddiant ysgubol eto eleni.
Gyda dwy gynhadledd sefydledig yng Nghaerdydd ar ddechrau'r wythnos – y Gynhadledd Genedlaethol ar Sgiliau Creadigol a Diwylliannol a'r Confensiwn Dinasoedd Creadigol – bydd wythnos Dinasoedd Digidol yn dod â phobl at ei gilydd o bob cwr o’r diwydiant deinamig hwn sy'n tyfu’n gyflym.
O ddydd Mercher 3 Ebrill ymlaen, bydd gweithdai Dinasoedd Digidol yn dechrau gyda diwrnod o weithdai digidol yng nghanolfan ddarlledu BBC Cymru yn Llandaf. Bwriad y diwrnod yw rhoi cyngor ymarferol i bobl sy'n creu cynnwys digidol, gan gynnwys digwyddiadau i gwrdd â chomisiynwyr a gwybodaeth am gynulleidfaoedd. Os oes gennych ddiddordeb mewn y mae Rhith-Realiti, bydd Caerdydd Creadigol ac Orchard yn dod at ei gilydd unwaith eto am bedwerydd rhifyn Rhith-Realiti De Cymru - yn Orchard nos Fercher nesaf am 6pm.
Ddydd Iau 4 Ebrill, bydd canolfan JOMEC Prifysgol Caerdydd yn agor ei drysau, gan ganolbwyntio ar arloesi ym maes cynnwys a thechnoleg. Bydd cyfle i edrych ar yr heriau o ran adrodd straeon ym maes newyddion yn yr oes ddigidol yn oygstal â sesiwn galw heibio i gwrdd â phobl broffesiynol yn y diwydiannau teledu, ffilmiau, gemau, animeiddio a VFX a chael cyngor ganddynt. Bydd Clwstwr Creadigol, rhaglen cyllido pum mlynedd o hyd i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i'r sgrîn, yn cynnal gweithdy ar y thema o arloesi'r newyddion ac i gloi, bydd cyfle i ddysgu sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei fabwysiadu gan y diwydiant darlledu.
Bydd y gweithgareddau'n dirwyn i ben ddydd nesaf Gwener 5 Ebrill gyda diwrnod datblygu busnes yn y Tramshed Tech. Bydd hwn yn ddiwrnod ar gyfer entrepreneuriaid gan entrepreneuriaid a bydd yn llawn cyngor a chymorth gwych ynghylch dechrau a thyfu busnes llwyddiannus.
Mae digwyddiadau Dinasoedd Digidol yn cael eu cynhyrchu gan BBC Academy a’u cefnogi gan: Screen Skills, BBC Cymru Wales, Orchard, Confensiwn Dinasoedd Creadigol, Channel 4, Prifysgol Caerdydd, Tramshed Tech, Caerdydd Creadigol, Clwstwr and Llywodraeth Cymru.