Paned i Ysbrydoli - mis Hydref

05/10/2023 - 15:00
Tiny Rebel
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Llun o Richard

Dydd Iau 5 Hydref 15:00, Tiny Rebel

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol, o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.

Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.

Pwy sy'n ofni pitsio?

Ar gyfer Paned i Ysbrydoli'r mis hwn, bydd Richard Holman yn arwain sesiwn ar 'Pwy sy'n ofni pitsio?'.

Mae Richard yn arbenigwr creadigrwydd. Dechreuodd ei yrfa gyda’r BBC cyn mynd ymlaen i sefydlu un o asiantaethau hysbysebu a dylunio bwtîc mwyaf uchel ei barch y DU (lle byddai'n pitsio yn aml).

Heddiw mae'n gweithio fel awdur, siaradwr a hyfforddwr. Mae'n credu bod angen creadigrwydd ac arloesedd ar y byd nawr yn fwy nag erioed, a dyna pam ei fod wrth ei fodd yn gweithio gydag unigolion a thimau i fagu hyder a gwneud syniadau gwell a dewr.

Mae Richard wedi cynnal dosbarthiadau meistr creadigol yn Ewrop, UDA ac Asia ar gyfer brandiau fel y BBC, IMAX, Nat Geo, yr Uwch Gynghrair a Paramount. Mae ei bodlediad The Wind Thieved Hat yn archwilio uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd fel gwneuthurwr. Mae’n ysgrifennu’n rheolaidd ar bwnc creadigrwydd, gan gyfrannu at gyhoeddiadau fel Creative Review, a chyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, Creative Demons a How to Slay to Them, gan Thames & Hudson yng ngwanwyn 2022.

Pan nad yw’n synfyfyrio o ble y daw syniadau gwych, fe welwch ef yn rhedeg i fyny ac i lawr bryniau De Cymru lle mae’n byw.

Cofrestru

Archebwch le nawr

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event