Mae holl orielau cysylltiedig EAST yn falch iawn o gyhoeddi y rhifyn nesaf o Benwythnos Orielau’r Rhath - rhifyn y gaeaf.
Gwel penwythnos y 28-30 o Dachwedd rhaglen o weithgareddau tymhorol - gyda oriau agor estynedig a digwyddiadau arbennig wedi’u hamserlennu. Mae nifer o’r orielau wedi cynllunio digwyddiad i gyd-fynd â’u harddangosfeydd - sydd yn cynnwys cerfluniau, ffotograffiaeth, paentiadau a crefft. Bydd nifer o’r orielau ar agor tan yn hwyr ar y nos Wener a fydd yn amser perffaith i fynd o naill le i’r llall.
Gwel y nos Wener arwerthiant crefft a chai cynnes i’w gael yn PAM yn ogystyal a lansiad arddangosfa Aeaf Celf Gallery - sioe gymysg o gelf o sawl cyfrwng gan artisiaid yr oriel. Ar y Sadwrn, mae diwrnod llawn digwyddiadau i bob oedran ac beth bynnag bo’ch blas - dechreuwch yn PAM mewn gweithdy tecstiliau cyn mynd am g39 i ymuno â’r ‘Neighbourhood Crowd’ ola y flwyddyn. Ymdrochwch yn arddangosfa ffotograffiaeth Ffotogallery ac ymlaen wedyn i gwrdd â rhai o artistiaid Albany Gallery sydd yn rhan o’i harddangosfa Aeaf flynyddol. Yn TEN, mae prynhawn yng nghwmni’r artist John Abell, paentiwr ei harddangosfa ddiweddaraf; mae naws Nadoligaidd yn Oriel Makers gyda chrefft gwneuthurwyr penigamp, a cloï’r y diwrnod yn Cardiff M.A.D.E. wrth iddynt ddathlu lansio eu harddangosfa agored. Ar y Sul, bydd cerddoriaeth jazz byw yn Celf Gallery, a cyfle i greu torch Nadoligaidd gyda’r hwyr yn Cardiff M.A.D.E.
Pleser yw cyhoeddi taw elusen ddewisiedig y penwythnos yw PAPYRUS, elusen cenedlaethol sydd yn gweithio i atal hunanladdiad pobl ifanc. Bydd yr arian a gasglir dros y penwythnos yn helpu’r elusen i redeg gwasanaeth llinell gymorth gyfrinachol, HOPELINE247, sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth ymarferol i bobl ifanc sy'n cael trafferth gyda bywyd ac unrhyw un sy'n poeni am berson ifanc a allai fod â meddyliau am hunanladdiad. Edrychwn ymlaen at gefnogi a bod yn eiriol dros elusen sydd ag arwyddocâd newydd i ni fel cydweithfa o orielau.
Dyma bedwaredd ddigwyddiad cydweithredol orielau EAST – wedi llwyddiant ysgubol y benwythnos gyntaf o’r fath ym mis Mai 2024. Am ffordd i adlewyrchu hunaniaeth fywiog, greadigol y Rhath a pha esgus gwych i dreulio penwythnos llawn diwylliant!
Am raglen llawn y digwyddiadau dilynwch @__________EAST ar Instagram neu galwch heibio i unrhyw un o'r 8 oriel gyfranogi i nôl copi caled o'r rhaglen
